Cyrsiau Ôl-raddedig
Mae Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn ysgol arloesol sy’n dal i dyfu. Mae’r ysgol yn cynnig tair rhaglenni LLM, MBA ac MA.
Mae graddau'r gyfraith o Fangor yn adlewyrchu’r gyfraith yn y 21ain ganrif ac yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau cyfreithiol sydd eu hangen yn y Deyrnas Unedig, yn Ewrop ac yng ngweddill y byd.
Graddau LLM
Mae’r graddau LLM yn canolbwyntio ar gyfraith masnach a busnes rhyngwladol, ac mae gradd LLM yn y gyfraith a llywodraethau datganoledig yn adlewyrchu’r newidiadau cyfansoddiadol sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae LLM cyffredinol yn caniatau i fyfyrwyr ddewis o amrywiaeth o fodiwlau a gynigir gan yr ysgol.
Graddau MBA ac MA
Rydym yn gweithio ar y cyd ag Ysgol Busnes Bangor i gynnig dwy radd MBA sy’n cyfuno’r gyfraith gyda bancio, a’r gyfraith gyda rheolaeth. Nod y rhaglenni hyn yw paratoi swyddogion gweithredol fydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli mentrau modern yn llwyddiannus, a pharatoi swyddogion gweithredol banciau a chyfreithwyr ym maes bancio i symud i swyddi allweddol yn y sector cyllid. Mae MA bancio a'r gyfraith yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd eisiau ymdrin â'r ddwy ddisgyblaeth mewn dull damcaniaethol yn hytrach na dull ymarferol.
Ysgol y Gyfraith Bangor - MBA Law and Management
Gwyliwch Edward Eldoe o India yn son am ei brofiad ar y rhaglen MBA Law and Management...