Cynllun Interniaeth Is-raddedig
Mae Cynllun Interniaeth Is-raddedig Prifysgol Bangor yn cynnig interniaethau taledig o fewn y Brifysgol, er mwyn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr.
Mae pob myfyriwr is-raddedig ym Mangor yn gymwys i wneud cais, ac maent yn gymwys am 20xp yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor.
Dyma esiamplau o interniaethau sydd wedi cael eu cynnig yn y gorffennol:
- Cynorthwyydd Ymchwil: Galluoedd gramadegol plant dwyieithog Cymraeg-Saesneg – Ysgol Ieithyddiaeth a Iaith Saesneg
- Marchnata: Prosiect Ehangu Profiad Myfyrwyr – Ysgol Busnes Bangor
- Cydlynu Digwyddiad: Wythnos Caffael Genedlaethol Cymru 2013 – Ysgol y Gyfraith
- Cyfryngau Cymdeithasol: Proffilio'r Cyfryngau Cymdeithasol – Ysgol Gwyddorau Meddygol
- Hybu Ymgyrch: Swyddog Cefnogaeth PrifBlaned – Sefydliad Cymreig dros Adnoddau Naturiol
- Datblygu Gweithdy: Datblygu Gweithdai Cyfrifiadureg i bobl ifanc 11-19 oed – Ysgol Cyfrifiadureg
- Prosiect Cynghori: Project Effeithlonrwydd Ynni Gwresogi – Ystadau a Chyfleusterau
- Prosiect Cynghori: Ymgynghoriaeth Ailddatblygu Maes Glas – Maes Glas
Darllenwch mwy am y Cynllun Interniaeth Is-raddedig