Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau
Mae’r ysgoloriaethau, efrydiaethau a bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol a gan yr ysgolion academaidd unigol. Am wybodaeth ynglŷn â bwrsariaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ôl-raddedigion ewch i’r tab ‘Allanol’ isod.
Gwobrau’r Ysgol
Bwrsariaethau i Ôl-raddedigion Cerddoriaeth
Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau nifer gyfyngedig o Fwrsariaethau Cerddoriaeth mewnol, sy'n agored i fyfyrwyr y DU, yr UE a thramor. Mae'r rhain yn amrywio o ran gwerth hyd at uchafswm o £1,000. Mae'r bwrsariaethau hyn ar gael ar sail gystadleuol. I wneud cais am fwrsariaeth, dylech uwchlwytho llythyr gyda'ch cais yn nodi pam yr hoffech gael eich ystyried. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â music.pg@bangor.ac.uk.
Bwrsariaethau Teithio Doethurol/ MPhil gan Ysgol Graddedigion CCD
Gall myfyrwyr ôl-raddedig MPhil a PhD yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau fod â hawl i wneud cais am fwrsariaeth deithio tra byddant yn gofrestredig, er mwyn mynd i gynhadledd academaidd neu ymweld ag archif/ llyfrgell academaidd berthnasol.
Asesir pob cais ar ei deilyngdod ei hun, ac ni fydd cyfanswm y fwrsariaeth/ bwrsariaethau a ddyfernir i unrhyw fyfyriwr ôl-raddedig unigol yn uwch na £150 o fewn unrhyw flwyddyn academaidd. Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau at weinyddwr y Coleg dros faterion ôl-radd.
Mathau eraill o gyllid
Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth hanes gwych o ran cael cyllid ar gyfer myfyrwyr ymchwil. Dros y blynyddoedd, rydym wedi ennill nifer o grantiau ar gyfer projectau ymchwil cydweithredol â phartneriaid allanol (cwmnïau, diwydiannau, cymdeithasau a cherddorfeydd) trwy KTP (Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth) a KESS (Ysgoloriaethau Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth).
Gall y Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedigion roi gwybodaeth ichi ynglŷn â’r rhain, ac am bosibiliadau eraill o ran cyllido.
Gwobrau’r Prifysgol
Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan brifysgol sy'n rhoi pwyslais ar gymorth i fyfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig help ychwanegol i fyfyrwyr. Dyma'r bwrsariaethau a'r ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl gan brifysgol sy'n rhoi pwyslais mawr ar gymorth i fyfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig help ychwanegol i fyfyrwyr. Mae bwrsariaethau ac ysgoloriaethau sy'n werth dros £ 3.7M ar gael i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd.
Ewch i'n tudalen Cyllid Myfyrwyr i gael gwybodaeth am Ysgoloriaethau, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Prifysgol.
Wrth ymchwilio i sut i ariannu eich cwrs Ôl-raddedig, fe welwch fod yna ystod o gyllid ar gael. Rydym wedi llunio rhestr o'r opsiynau cyllido a ble i ddod o hyd i gefnogaeth.
Ariannu Strwythurol
Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2)
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn darparu cyfleoedd ar gyfer astudiaeth PhD ac Ymchwil Meistr wedi’i gyllido mewn cydweithrediad â busnes neu bartner gwmni gweithredol. Fe’i hariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys pob prifysgol yng Nghymru, a arweinir gan Brifysgol Bangor.
Ysgoloriaethau ar gael yma.
Allanol
Bwrsariaeth newydd ar gyfer Ôl-raddedigion yng Nghymru
Rydym yn dal i aros i Lywodraeth Cymru gadarnhau cyllid ar gyfer y cymhelliant yma ar gyfer 2022-23.
Nod y Cynllun Bwrsariaeth Cymhelliant Graddau Meistr Ôl-radd yw cynyddu nifer y graddedigion o Gymru sy'n aros yng Nghymru, neu'n dychwelyd i Gymru, i astudio gradd meistr ôl-raddedig.
Bydd y bwrsariaethau Master’s hyn yn parhau i fod ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22:
- Bwrsari STEMM gwerth £2,000 ar gyfer graddedigion o bob oed sy’n astudio gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth, y cyfeirir ati’n aml fel pynciau ‘STEMM’.
- Bwrsari Gyfrwng Cymraeg £1,000 ar gyfer ôl-raddedigion cyfrwng Cymraeg hefyd yn bwysig i ddatblygiad parhaus y gweithlu Cymraeg, sy'n hanfodol er mwyn cyflawni ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bwrsariaeth Newydd ar gyfer Ôl-raddedigion dros 60 oed
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu bwrsariaeth newydd o £4,000 ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig 60+.
- Bwrsari o £ 4,000 i bobl dros 60 oed. Nod y grant yw darparu cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr dros 60 oed, nad ydyn nhw'n gallu deilwng i'r un cymorth ariannol â myfyrwyr iau ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Trysorlys.
Mae bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr amser llawn a rhan amser gyda myfyrwyr rhan amser a fydd yn derbyn eu bwrsariaethau mewn rhandaliadau cyfartal bob blwyddyn o'u cwrs.
Nid yw'r Bwrsariaethau uchod ar gael i fyfyrwyr Ôl-raddedig sy'n derbyn cyllid gan
- Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)
- Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon
- Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban
- Cyngor Gofal Cymru.
Neu
- Graddau Doethur Ôl-raddedig;
- Graddau Meistr yr ymgymerir â nhw’n rhan o Radd Doethur Ôl-raddedig;
- Tystysgrif Ôl-raddedig (PgCert) neu Ddiploma Ôl-raddedig (PgDip);
- Cyrsiau ôl-raddedig a gaiff eu cyllido gan gyllid myfyrwyr i israddedigion, megis Addysg Gychwynnol i Athrawon, neu Raddau Meistr Integredig;
- Cyrsiau Ymarfer Cyfreithiol.
Cais
Does DIM ffurflen cais: Bydd y Brifysgol yn cysylltu'n uniongyrchol â'r holl fyfyrwyr sy'n gymwys ar gyfer y bwrsariaethau hyn ar ôl cofrestru yn y flwyddyn academaidd newydd, gyda'r fwrsariaeth i'w defnyddio i leihau cost eich ffi ddysgu yn y rhan fwyaf o achosion.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol: cymorthariannol@bangor.ac.uk
Bwrsariaeth ‘Leverhulme Trade Charities Trust’
Mwy o wybodaeth ar gael yma
FindaMasters.com Ysgoloriaeth
Mae FindaMasters.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaMasters.com. Cofrestrwch yma.
FindaPhD.com Ysgoloriaeth
Mae FindaPhD.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaPhD.com. Cofrestrwch yma.
Ymholiadau am Astudio Ol-radd ym Mangor
- Gwybodaeth ar Gyfer Darpar Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd-
- Cyfarwyddwyr Astudiaethau Ôl-radd yr Ysgolion
- Cyllid Myfyrwyr
- Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd
- Gwasanaethau Myfyrwyr
Cyrsiau Wedi'u Hariannu
Mae nifer o gyfleoedd ariannu ar gael. Cysylltwch â'r ysgol academaidd i wybod mwy am y cyllid sydd ar gael.
Cofiwch bod rhai ysgolion academaidd hefyd yn cynnig ysgloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eu pynciau. Ewch i'r dudalen ar ysgoloriaethau a bwrsariaethau neu dudalennau'r ysgolion academaidd i gael mwy o wybodaeth.
Ysgoloriaethau a Gwaddoliadau
- Ysgoloriaethau Myfyrwyr Pantyfedwen
- British Council
- British Council
- Chevening Scholarships
- Commonwealth Scholarship Commission
- Mantais - Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg.
- Nuffield Foundation - Undergraduate Research Bursaries
- PhD Fellowships for eligible registered health professionals.
Benthyciadau
Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd
Mae’r Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd yn ymwneud â ffynonellau amgen o gyllid – yn enwedig elusennau – a all ddyfarnu cyllid (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr, beth bynnag a fo ei (d)dinasyddiaeth.
Mae’r Arweiniad Amgen Ar-lein â chronfa ddata enfawr o gyfleoedd i gael cyllid, arweiniad cynhwysfawr ac offer niferus i’ch helpu i baratoi cais sy’n mynd i ennill grant ichi. I gynorthwyo ein myfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi prynu trwydded ar gyfer yr Arweiniad, fel ei fod am ddim i holl fyfyrwyr a staff Bangor ei ddefnyddio! Mewngofnodwch Yn Awr!
Os ydych yn ddarpar-fyfyriwr ac wedi gwneud cais i ddod i Brifysgol Bangor, anfonwch e-bost er mwyn cael PIN mynediad.
PostgraduateStudentships.co.uk
- Gwefan yw PostgraduateStudentships.co.uk sy'n dod â'r holl wahanol fathau o gyllid sydd ar gael i ddarpar ôlraddedigion at ei gilydd mewn un lle. Felly, gellwch weld beth sydd ar gael o ffynonellau cyffredinol, yn ogystal â chyfleoedd a chyllid o'r brifysgol ei hun.