KESS2 a Chynaliadwyedd
Mae KESS 2 wedi partneru gyda’r Lab Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor er mwyn sicrhau bod ein tîm a’n partneriaid yn gallu dangos ein bod yn rhoi ystyriaeth briodol i lesiant y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol yn ein holl weithgareddau.
Un Egwyddor Datblygiad Cynaliadwy
Yr un Egwyddor Datblygiad Cynaliadwy yw ein canllaw cyffredinol:
Mae’n rhaid i ni weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu cyflawni heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i gyflawni eu hanghenion nhw.
Wrth ddylunio prosiect mae’n bwysig ystyried effaith posib ein penderfyniadau ar y bobl sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Pedair colofn
Er mai’n prif gymhelliant yw dod ag ysgolheigion Prifysgol, myfyrwyr a busnesau ynghyd i ddatrys y prif heriau er mwyn rhoi hwb i’r economi rydym hefyd yn sylweddoli fod yr economi yn ddibynnol ar yr amgylchedd, cymdeithas a diwylliant. Os ydym eisiau datblygu mentrau cynaliadwy yn yr hir dymor, mae’n bwysig ein bod yn ystyried sut mae gwellau’r pedwar agwedd mewn modd cyfartal.
Pum Ffordd o Weithio
Er mwyn cyflawni hyn rydym wedi mabwysiadu’r pum ffordd o weithio, er mwyn ein cynorthwyo i gydweithio’n well, osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a thaclo rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu:
Meddylfryd hir dymor: Mae’n rhaid cyd-bwyso’r atebion byr a hir dymor, gan gyflawni anghenion y presennol wrth warchod anghenion y dyfodol
Mae osgoi yn well na gwella: Mae’n rhaid ystyried os yw’r weithred o dan sylw yn mynd i atal problemau rhag digwydd neu waethygu – neu ydyn nhw’n mynd i wneud pethau’n well
Integreiddio: Mae’n rhaid i ni ystyried sut mae ein hamcanion yn effeithio ar bob un o’r nodau llesiant ac ar amcanion pobl eraill
Cydweithio: Mae rhaid i ni fel tîm y prosiect geisio cydweithio gydag unrhyw un (mewnol/allanol) fyddai’n gallu ein cynorthwyo i gyflawni ein hamcanion llesiant
Cynnwys: Mae’n bwysig iawn i gynnwys gymaint â phosib o bobl (budd-ddeiliad) er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni’r amcanion llesiant ac adlewyrchu amrywiaeth yr ardal dan sylw
Saith Nod Llesiant
Yn olaf, rydym yn ceisio dangos bod ein gweithgareddau yn cyfrannu at y saith nod llesiant canlynol:
Cymru/KESS2/Prifysgol Bangor/Cwmni partner/Myfyriwr llewyrchus
Cyfrannu at gymdeithas sy’n arloesol, cynhyrchiol, carbon-isel sy’n defnyddio adnoddau’n effeithiol a chyfrannol
Cymru/KESS2/Prifysgol Bangor/Cwmni partner/Myfyriwr cydnerth
Creu amgylchedd iach er mwyn cynnal cymdeithas, economi ac ecoleg gydnerth, a chymdeithas sy’n addasu i newid
Cymru/KESS2/Prifysgol Bangor/Cwmni partner/Myfyriwr iachach
Uchafu llesiant corfforol a meddyliol drwy wneud y penderfyniadau cywir am y dyfodol
Cymru/KESS2/Prifysgol Bangor/Cwmni partner/Myfyriwr sy’n fwy cyfartal
Galluogi pobl i gyflawni eu potensial beth bynnag yw eu cefndir neu amgylchiadau
Cymru/KESS2/Prifysgol Bangor/Cwmni partner/Myfyriwr o gymunedau cydlynol
Creu cymunedau sy’n fedrus, diogel ac wedi eu cysylltu’n dda
Cymru/KESS2/Prifysgol Bangor/Cwmni partner/Myfyriwr â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Annog a diogelu diwylliant, treftadaeth ac iaith
Cymru/KESS2/Prifysgol Bangor/Cwmni partner/Myfyriwr sy’n gyfrifol ar lefel byd-eang
Ystyried effeithiau ehangach ein penderfyniadau ar lesiant byd-eang
Ffordd newydd o weithio
Drwy fabwysiadu’r dull arloesol a rhesymegol yma i reoli a chyflawni prosiect rydym yn hybu ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015’ Llywodraeth Cymru ddaeth yn gyfraith fis Ebrill 2016. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ar ‘Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (2015)’ ar tudalen lawr lwytho KESS2.
Mae hyn yn ffordd newydd o weithio i ni ac yn ystod oes KESS2 rydym yn cynllunio i weithio drwy broses o ddysgu gweithredol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o beth yw gwir ystyr cynaliadwyedd a llesiant i ni a’n partneriaid. Rydym yn frwdfrydig iawn am bartneru gydag eraill sy’n rhannu’r un weledigaeth ac sydd ar daith debyg. Dr. Penny Dowdney sy’n arwain ar y Ddeddf Llesiant o fewn y tîm KESS2.
Mae’r dull yma o weithio wedi derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang. Dyma sydd gan Nikhil Seth, Cyfarwyddwr Datblygid Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig am yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cyflawni:
“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn adlewyrchu ysbryd a hanfod dau ddegawd o waith yr Undeb Unedig ym maes datblygiad cynaliadwy ac yn gwasanaethu fel model ar gyfer ardaloedd a gwledydd eraill... Rydym yn gobeithio beth mae Cymru yn ei wneud heddiw, bydd y byd yn ei wneud yfory. Gweithred, mwy na geiriau, yw ein gobaith ar gyfer y genhedlaeth bresennol a’r dyfodol.”
Mae KESS2 yn brosiect wedi ei ariannu gan Gronfa Strwythurol Ewrop, a drwy ddewis gweithredu yn y modd yma, rydym wedi dewis gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at yr Egwyddorion Llorweddol (Themâu Traws Torri fel yr arferid eu hadnabod).