Delwedd o'r Athro Gerwyn Wiliams
Enw
Gerwyn Wiliams
Swydd
Athro a Phennaeth yr Ysgol
E-bost
gerwyn@bangor.ac.uk
Ffôn
+44 (0) 1248 38 2241
Lleoliad
Ysgol y Gymraeg, Ystafell 1, Coridor yr Athrawon

Cefndir

Bywgraffiad

Un o Bwllheli yn yr hen Sir Gaernarfon yw Gerwyn Wiliams yn enedigol a mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn ac Ysgol Uwchradd y Trallwng, Sir Drefaldwyn cyn mynd i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle y graddiodd yn y Gymraeg.  Ar ôl ennill ei ddoethuriaeth dan gyfarwyddyd Yr Athro John Rowlands, bu’n gweithio am gyfnod byr fel Is-Olygydd i’r cylchgrawn misol Barn cyn ei benodi’n Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1989.  Bu’n Is-Gyfarwyddwr yr Ysgol Astudiaethau Trwy'r Gymraeg (1996-98), yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithas (2000-02) ac yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol y Dyniaethau a’r Celfyddydau (2005-06).  Fe’i dyrchafwyd i Gadair Bersonol yn Nhachwedd 2005.

Ymchwil

Cyhoeddwyd ffrwyth ei ymchwil i lenyddiaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf mewn dwy gyfrol: Y Rhwyg: Arolwg o Farddoniaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf (1993) a Tir Neb: Rhyddiaith Gymraeg a’r Rhyfel Byd Cyntaf (1996).  Enwyd TirNeb yn Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1997 a dyfarnwyd i’r gyfrol Wobr Goffa Ellis Griffith a Buddged Mrs L. W. Davies gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn 1998.  Datblygodd ei ddiddordeb yn y berthynas rhwng llenyddiaeth a rhyfel yn arbenigedd academaidd: yn 2005 cyhoeddodd Tir Newydd: Agweddau ar Lenyddiaeth Gymraeg a’r Ail Ryfel Byd ac yn 2006 cyhoeddodd ‘Cofio Rhyfel Anghofiedig: Dehongli a Chyd-destunoli Rhyfel y Falklands/Malvinas 1982’ yn Cof Cenedl XXI.

Creadigol

Daeth i’r amlwg yn ifanc fel bardd: enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd gyda dau gasgliad o gerddi, Tynnu Gwaed (1983) a Colli Cyswllt (1984) a chyhoeddodd dair cyfrol arall o gerddi sef Rhwng y Cŵn a’r Brain (1988), Cydio’n Dynn (1997) a Tafarn Tawelwch (2003).  Yn y dilyniant o gerddi ‘Dolenni’ a enillodd iddo Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994 fe’i gwelir yn ymateb yn greadigol i’w ddiddordeb mewn llenyddiaeth a rhyfel gyda cherddi am Ryfel Fiet-nam, Rhyfel y Gwlff a’r gwrthdaro yn Bosnia a Serbia. Cyrhaeddodd ei gyfrol Rhwng Gwibdaith a Coldplay (2011) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2012.

Gwaith golygu, darlithio allanol, etc.

Rhwng 1993 a 1999 bu’n golygu Taliesin, cylchgrawn yr Academi Gymreig, yn gyntaf gyda’r Athro John Rowlands ac yn ddiweddarach gyda Dr Jerry Hunter, ac rhwng 2005 a 2011 bu'n olygydd Ysgrifau Beirniadol (am gyfnod gyda Dr William R. Lewis). Gwasanaethodd sawl gwaith fel un o feirniaid cystadlaethau’r Gadair, y Goron a’r Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.  Bu’n beirniadu’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 1999 a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cyffiniau yn 2003.  Ef hefyd oedd un o’r beirniaid yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn Awst 2007. 

Fe’i gwahoddwyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd i draddodi Darlith Goffa G.J. Williams yn 2007. Yr un flwyddyn daeth ei ysgrif ar gerddi rhyfel Alun Llywelyn-Williams o’r wasg yn The Oxford Handbook of British and Irish War Poetry a olygwyd gan yr Athro Tim Kendall. Cyn hynny, yn Nhachwedd 2006, trefnodd gynhadledd o’r enw Mwy na Rhywbeth i’w Wneud?  Barddoni mewn Canrif Newydd: ymhlith y rhai a gymerodd ran yr oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyn Thomas.

http://www.gwynethlewis.com/bywgraffiad.shtml

Cyfrifoldebau

Cyfnod Sabothol: Hydref 2013.

Dysgu

Llên Gyfoes (Lefel 1): CXC1016
Llên a Llun (Lefel 1: Ail Iaith): CXC1008
Gweithdy Creadigol (Lefel 1): CXC1018
Gweithdy Barddoniaeth (Lefel 2 a 3): CXC2118 / CXC3018
Barddoniaeth Fodern (Lefel 2 a 3): CXC2107 / CXC3007
Llenyddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf (Lefel 2 a 3): CXC2113 / CXC3013
Traethawd Estynedig (Lefel 3): CXC3009

Meysydd ymchwil

Llenyddiaeth a rhyfel; ffuglen Gymraeg fodern, yn enwedig y nofel; barddoniaeth Gymraeg gyfoes; ysgrifennu creadigol.

Detholiad o Gyhoeddiadau

(i) Beirniadol

‘Occupying new Territory: Alun Llywelyn-Williams and Welsh-Language Poetry of the Second World War’, yn Tim Kendall (gol.), The Oxford Handbook of British and Irish War Poetry (Oxford: Oxford University Press, 2007), 340-61.

  • Manylion pellach yma.

‘Don’t Mention the War?  Interpreting and Contextualizing the 1982 Falklands/Malvinas War’, yn Matthew Cragoe a Chris Williams (goln.), Wales and War: Society, Politics and Religion in the Nineteenth and Twentieth Centuries (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2007), 204-29.

 ‘Cofio Rhyfel Anghofiedig: Dehongli a Chyd-Destunoli Rhyfel y Falklands/Malvinas 1982’, yn Geraint H. Jenkins (gol.) Cof Cenedl XXI (Llandysul: Gwasg Gomer, 2006), 159-91.

Tir Newydd: Agweddau ar Lenyddiaeth Gymraeg a’r Ail Ryfel Byd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2005), 309.

  • Adolygiad 'Llais Llên' yma
  • Adolygiad Gwales yma
  • Ar wefan Amazon yma

TirNeb: Rhyddiaith Gymraeg a’r Rhyfel Byd Cyntaf (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1996), 307.

  • Adolygiad Gwales yma
  • Ar wefan Amazon yma

Y Rhwyg: Arolwg o Farddoniaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf (Llandysul: Gwasg Gomer, 1993), xxi + 250.

  • Ar All Bookstores yma

‘Caniadau’r Somme’, yn J. E. Caerwyn Williams, (gol.) Ysgrifau Beirniadol XVIII (Dinbych: Gwasg Gee, 1992), 245-91.

‘Cynan (Albert Evans-Jones, 1895-1970)’, yn Robert Rhys (gol.), Y Patrwm Amryliw (Cyfrol 1) (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas, 1997), 138-46 .

 ‘The Literature of the First World War’, yn Dafydd Johnston (gol.), A Guide to Welsh Literature c. 1900-1996 (Cardiff: University of Wales Press, 1998), 22-49.

Golygydd a ‘Rhagymadrodd’, Gorau Cyfarwydd: Detholiad o Ddarlithoedd ac Ysgrifau Beirniadol Bedwyr Lewis Jones (Caernarfon: Cyhoeddiadau Barddas, 2002), 380.

  • Adolygiad Gwales yma

Golygydd a ‘Rhagymadrodd’, Rhyddid y Nofel (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999), 322.

‘Gwibdeithiau Blynyddol Eirug Wyn: Arolwg o’i Ffuglen, 1992-2004’, Taliesin, 127 (Gwanwyn 2006), 14-36.

‘Daniel, Y Fedal a’r Nofel: Y Nofel a’r Eisteddfdod Genedlaethol, 1977-2002’, Taliesin, 116 (Eisteddfod 2002), 78-110.

‘Gwerin Dau Garadog’, yn M. Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1995), 45-79.

‘Un a Haeddai Sylw: Cofio Islwyn Ffowc Elis’, Barn, 494 (Mawrth 2004), 42-3.

‘Options and Allegiances: Emyr Humphreys and Welsh Literature’, Planet, 71 (Hydref/Tachwedd 1988), 30-6.

‘Saunders y Beirdd’, Taliesin, 122 (Haf 2004), 36-49.

‘Darlunio’r Tirlun Cyflawn: Amlinellu Cyd-destun ar gyfer Cyfres Beirdd
Answyddogol y Lolfa’, yn John Rowlands (gol.), Sglefrio ar Eiriau (Llandysul: Gwasg Gomer, 1992), 115-50.

‘Gwyn Thomas yn ateb cwestiynau Gerwyn Williams’, Y Traethodydd, 593 (Hydref 1984), 208-20.

‘Yng Nghampfa’r Cynganeddion’, Llais Llyfrau (Gwanwyn 1994), 5-6.

Amryw gofnodion yn Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997) a The Companion to the Literature of Wales (Cardiff: University of Wales Press, 1998).

(ii) Creadigol

Rhwng Gwibdaith a Coldplay (Caernarfon: Gwasg y Bwthyn, 2011)

Tafarn Tawelwch (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2003), 57.

  • Adolygiad Llais Llên yma

‘Harlem’, ‘Washington’, ‘Baghdad’, ‘Llythyr i Lois’, yn Tony Bianchi (gol.), Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas, 2005), 267-72.

‘Dan Ein Trwynau’, yn R. Arwel Jones (gol.), Cerddi Arfon (Cyfres Cerddi Fan Hyn) (Llandysul: Gwasg Gomer, 2005), 63-4.

‘Dameg y Crys Chwys’, yn Dafydd Rowlands, (gol.) Cerddi’r Troad: Barddoniaeth Newydd i’r Mileniwm (Llandysul: Gwasg Gomer, 2000), 81.

Cydio’n Dynn (Talybont: Y Lolfa, 1997), 64.

  • Ar wefan Y Lolfa yma
  • Ar wefan Amazon yma

‘Baghdad’, yn Geraint Percy Jones a Geraint Vaughan Jones (gol.), Yn Fyw mewn Geiriau: Detholiad o Gerddi Addas ar gyfer TGAU (Llangefni: Y Ganolfan Astudiaethau Iaith, 1995), 111.

‘Pellhau’, ‘Chwalu’, ‘Grym’ a ‘Gwareiddiad’, yn Eleri Ellis Jones (gol.), Sbectol Inc: Casgliad o Gerddi (Talybont: Y Lolfa, 1995), 28, 31, 79, 109.

Cyfieithwyd ‘Fy Nghymru i?’, ‘Diwedd y Gân’, ‘Cynnydd’, ‘Washington’ ac ‘Adduned’ i’r Saesneg, yn Menna Elfyn a John Rowlands (eds.), The Bloodaxe Book of Modern Poetry (Tarset: Bloodaxe Books, 2003), 389-93.

Cyfieithwyd ‘Molawd Pry Genwair’ ac ‘Adduned’ i’r Fwlgareg, yn Grahame Davies (gol. gwadd), Pl«mak, 3 a 4 (2002), 114-5.

Cyfieithwyd ‘Molawd Pry Genwair’ ac ‘Adduned’ i’r Saesneg gan Richard Poole, yn Amy Wack a Grahame Davies (goln.), Oxygen: Beirdd Newydd o Gymru/New Poets from Wales, (Pen-y-bont ar Ogwr/Bridgend: Seren, 2000), 140-43.

‘Dolenni’, yn W.J. Jones (gol.), Cyfansoddiadau a Beirnidaethau  Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru Nedd a’r Cyffiniau 1994 (Gwasg Dinefwr dros Lys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1994), 47-52.

‘Gair am Eiriau’, Llais Llyfrau, 4/97 (Gaeaf 1997), 4 + 10.

Cyfieithwyd ‘Dolenni’ i’r Saesneg, yn Dafydd Johnston (gol. gwadd), Modern Poetry in Translation, 7 (Gwanwyn 1995), 162-9.

Rhwng y Cŵn a’r Brain (Caernarfon: Gwasg Annwn, 1988), 71.

  • Ar wefan Gwales yma

Colli Cyswllt (Aberystwyth: Urdd Gobaith Cymru, 1984), 44.

Tynnu Gwaed (Aberystwyth: Urdd Gobaith Cymru, 1983), 32.

‘Hel Mwyar Duon’, yn Alan Llwyd a Gwynn ap Gwilym (goln.), Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif (Llandysul: Cyhoeddiadau Barddas/Gwasg Gomer, 1987), 569-70.

Cyfieithwyd ‘Marw’r Moch’, ‘Fy Nghymru I?’, ‘Pictiwrs’ a ‘Pont Trefechan’ i’r Gatalaneg, yn Carme Manuel a Josep V. Garcia (goln.), Poesia Gal’lesa Actual (1992), 153-69.

Enghraifft o waith Gerwyn Wiliams

Cliciwch ar y linc isod i ddarllen enghraifft o waith Gerwyn

Calan Mai yn Belsen: 2006