Yr Athro Peredur I. Lynch BA PhD

Delwedd o'r Athro Peredur Lynch
Enw
Peredur Lynch
Swydd
Athro
E-bost
p.i.lynch@bangor.ac.uk
Ffôn
+44 (0) 1248 38 2245
Lleoliad
Ysgol y Gymraeg, Ystafell 4, Coridor yr Athrawon

Cefndir

Brodor o Garrog yn yr hen Sir Feirionnydd yw’r Athro Peredur I. Lynch.  Ar ôl graddio yn y Gymraeg ym Mangor, bu’n Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth rhwng 1985 a 1990 ac yna’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Abertawe.  Dychwelodd i’w hen adran yn ddarlithydd yn 1995. Fe’i dyrchafwyd yn Athro yn 2005 ac ef erbyn hyn yw Pennaeth Ysgol y Gymraeg.

Y mae’n arbenigwr ar  waith Beirdd y Tywysogion a golygodd weithiau beirdd fel Einion Wan, Llygad Gŵr a Meilyr Brydydd. Y mae ganddo gyhoeddiadau lluosog ym maes llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a chyfrannodd yn helaeth i Cyfres Beirdd y Tywysogion (1991-96), sef y golygiad arloesol cyntaf o waith Beirdd y Tywysogion. Y mae hefyd yn awdurdod ar dwf a datblygiad y gynghanedd a’r canu caeth: cyhoeddwyd ei astudiaeth o gynganeddion Dafydd ap Gwilym – yr astudiaeth drylwyraf o’i bath – yn y gyfrol Cyfoeth y Testun a gyhoeddwyd yn 2003. Bu hefyd yn arwain project (2002–5) ym Mangor ar ganu proffwydol Cymraeg yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Noddwyd y project hwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Cewch fanylion yn Gymraeg yma, ac yn Saesneg yma.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau yn 1997 fe’i gwahoddwyd i draddodi Darlith Eisteddfodol y Brifysgol ar y testun ‘“Problemau Prifysgol” : Saunders Lewis a Phrifysgol Cymru’. 

Ef a Dr E. Wyn James yn 2004-5 oedd cyfarwyddwyr project ymchwil ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd i baratoi mynegai cyfrifiadurol i faledi argraffedig y ddeunawfed ganrif. Cefnogwyd y project hwn gan Bwyllgor Iaith a Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru.

Yn 2004 fe’i gwahoddwyd i draddodi Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams ar y testun 'Proffwydoliaeth a Chenedligrwydd yng Nghymru'r Oesoedd Canol'.  Bu’n feirniad y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000, Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn 2005 ac Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013.

Darllenwch gerdd gyfarch Peredur Lynch i’w gydweithiwr, Dr Jason Walford Davies, pan enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004: http://www.cynghanedd.com/annedd/content/view/47/41/

Dysgu

Rhyddiaith yr Oesoedd Canol (Lefel 1) CXC1019
Canu Llys (Lefel 2 a 3): CXC2001 / CXC3101
Cerdd Dafod a Chynganeddu (Lefel 2 a 3): CXC2012 / CXC3112
Beirdd yr Uchelwyr (Lefel 2 a 3): CXC
Traethawd Estynedig (Lefel 3): CXC3009

Cyfrifoldebau

Pennaeth yr Ysgol

Meysydd Ymchwil

Beirdd y Tywysogion a barddoniaeth yr Oesoedd Canol; mydryddiaeth Gymraeg a datblygiad y gynghanedd; proffwydoliaethau Cymraeg yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar; llenyddiaeth a chenedligrwydd.

Detholiad o Gyhoeddiadau

'Dic yr Hendre, y Bardd Llawryfog a Saunders', yn Tudur Hallam ac Angharad Price (goln.), Ysgrifau Beirniadol XXXI (Bethesda: Gwasg Gee, 2012), tt. 119-158.

'Refferendwm 1979: Cerddi Ianws a Thopos y "Cymry Taeog"' yn Gerwyn Wiliams (gol.), Ysgrifau Beirniadol XXX (Bethesda: Gwasg Gee, 2011), tt. 78-109.

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig: Welsh Academy Encyclopedia of Wales [cyd-olygydd] (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008)

Proffwydoliaeth a'r Syniad o Genedl (Bangor: Ysgol y Gymraeg, 2007)

‘Cynghanedd Dafydd ap Gwilym: Tystiolaeth y Llawysgrifau Cynnar’, yn Dafydd Johnston, Iestyn Daniel, Marged Haycock, a Jenny Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol  (Cyfrol Goffa Yr Athro J.E. Caerwyn Williams), (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2003), 109–47.

‘Court Poetry, Power and Politics’, yn T.M. Charles–Edwards, Morfydd E. Owen, Paul Russell (goln.), The Welsh King and his Court. (Cardiff: University of Wales Press, 2000), 167–90.

‘Einion Offeiriad a’r Gyhydedd Fer’, Dwned, 4 (1998), 59-74.

‘“Problemau Prifysgol”: Saunders Lewis a Phrifysgol Cymru’ (Darlith Eisteddfodol y Brifysgol) (Caerdydd: Cofrestrfa Prifysgol Cymru, 1997), 21.

‘Yr Awdl a’i Mesurau’, yn M.E. Owen a Brynley F. Roberts (goln.), Beirdd a Thywsogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban (Caerdydd: Prifysgol Cymru, 1996), 258-87.

‘Gwaith Llygad Gŵr’, yn R. M. Andrews, N.G. Costigan (Bosco), Christine James, Peredur I. Lynch, Catherine McKenna a Morfydd E. Owen (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill Ail Hanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1996), 207-303.

‘Gwaith Einion Wan’, yn N.G. Costigan (Bosco), R. Geraint Gruffydd, Nerys Ann Jones, Peredur I. Lynch, Catherine McKenna, Morfydd E. Owen a Gruffydd Aled Williams (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o Feirdd Hanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1995),  3-100.

Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion ynghyd â dwy awdl fawl ddienw o Ddeheubarth, golygwyd gan J. E. Caerwyn Williams, Peredur I. Lynch ac R. Geraint Gruffydd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994), xxiv + 559.

‘Morris T. Williams y Nofelydd’, Taliesin, 85 (Gwanwyn 1994), 7-25.

‘Aberpergwm a’r Traddodiad Mawl’, yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Cyfres y Cymoedd: Nedd a Dulais (Llandysul: Gwasg Gomer, 1994), 1–25.

‘Cân Gwalchmai “Y eua y wreic”’, yn J.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol XVIX (Dinbych: Gwasg Gee, 1993), 29-45.

‘“Y Sant” Gwenallt’, yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Cyfres y Cymoedd: Cwm Tawe (Llandysul: Gwasg Gomer, 1993), 293-328.

‘Llygad Gŵr : Sylwebydd Cyfoes’, yn J.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol XVI  (Dinbych: Gwasg Gee, 1990), 31-51.