Pam dewis astudio ym Mangor?
Pam dewis astudio yn Ysgol Busnes Bangor?
- Rydym yn cael ein enwi fel un o’r 50 gorau yn y byd
am ymchwil ym maes Bancio (RePEc, Medi 2019). - Rydym hefyd ymhlith y 25% uchaf o ysgolion busnes ym Mhrydain am arddwysedd ymchwil (REF 2014)
- Mae ein hymchwilwyr pennaf yn dysgu ar raglenni isradd ac ôl-radd. Felly, caiff myfyrwyr eu dysgu gan staff academaidd sydd yn ymgymryd ag ymchwil arloesol y bydd yn cael ei rhannu mewn darlithoedd.
- Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ymchwil mewn Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Economeg Gyllidol ac Econometreg.
- Mae staff academaidd wedi ysgrifennu prif werslyfrau ac erthyglau sydd wedi eu cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd o’r radd flaenaf. Ceir mwy o fanylion am y rhain ar y tudalennau staff.
- Cynhelir gwaith project ac ymgynghori o lefel uchel gan ein staff ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau, megis y World Bank, Y Comisiwn Ewropeaidd, a Thrysorlys y DU.
- Gyda chymorth ariannol yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth leol a Llywodraeth Cynulliad Cymru, rydym wedi sefydlu Canolfan Rheolaeth o safon fyd-eang sydd werth £14 miliwn. Mae’r Ganolfan, gyda’i chyfleusterau o’r radd flaenaf, yn cynnal hyfforddiant rheoli a phroffesiynol o safon uchel i Ogledd Cymru a thu hwnt.
- Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi dal swyddi uchel mewn sefydliadau cyhoeddus a phreifat yn fyd-eang, megis Deutsche Bank a Rhif 10 Stryd Downing.
- Ni oedd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i gynnig MBA mewn Bancio a Chyllid.
Gwobr Aur i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.
Ystod eang o gyrsiau
Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu ac yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau.
Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU
Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.
Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.
Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi derbyn gwobr Arian yng ngwobrau WhatUni 2020 sy'n ein gosod yn ail orau yn y DU.
Lleoliad heb ei ail
Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Bangor yw'r lle mwyaf fforddiadwy yn y DU i fod yn fyfyriwr (TotalMoney 2019).
Buddsoddiad mewn cyfleusterau
Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.
Sicrwydd o lety
Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n cychwyn eu cais fis Medi, yn gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn.