Ffair Swyddi'r Gwasanaethau Campws
Os ydych chi'n ystyried cael swydd ran amser tra byddwch yn astudio, dyma ddigwyddiad na ddylech ei golli! Mae llawer o gyfleoedd gwaith yn y Brifysgol, felly rydym wedi dod â phawb at ei gilydd o dan yr un to. Darganfyddwch sut mae gwneud cais, mynnwch gyngor gan ein harbenigwyr gyrfa ynglŷn ag ysgrifennu CV, paratoi at gyfweliad a chael swydd ran-amser berffaith.