Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MA mewn Astudiaethau Arthuraidd yn cynnig rhaglen o fodiwlau wedi'u dewis yn ofalus i'ch tywys trwy'r maes ymchwil rhyngddisgyblaethol cyfoethog hwn a'ch paratoi ar gyfer ymchwil ar lefel uwch.
Hyd y Cwrs
MA: Blwyddyn yn llawn-amser, 2 flynedd yn rhan-amser; PGDiploma: 9 mis llawn-amser (hefyd ar gael rhan-amser) PGCert: 8 mis llawn-amser; 1 blwyddyn rhan-amser.
Cysylltiadau â diwydiant
Mae cydweithrediad yr atyniad twristaidd 'Labrinth y Brenin Arthur' yng Nghorris wedi arwain at ariannu lleoedd Mynediad i Radd Meistr MA dros y blynyddoedd diwethaf.
Cyflwynwch eich hun.
Raluca Radulescu wyf i, athro mewn llenyddiaeth ganoloesol a chyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yma ym Mangor.
Dywedwch wrthym am yr MA mewn Astudiaethau Arthuraidd
Mae’r MA mewn Astudiaethau Arthuraidd yn rhedeg ym Mhrifysgol Bangor ers dros 20 mlynedd a chyn hynny hefyd ers bron i 40 mlynedd. Mae’n rhaglen ryngwladol iawn sy’n dod ag arbenigedd mewn Astudiaethau Arthuraidd, Astudiaethau Celtaidd, a Hanes Cymru ynghyd. Sylfaen y rhaglen yw’r Chwedlau a’r wlad ei hun. Yma ym Mangor, rydym yng nghanol tarddle’r chwedlau. Rydym hefyd yn defnyddio’r arbenigedd sydd gennym mewn nifer o feysydd gan gynnwys llenyddiaeth Saesneg, llenyddiaeth Gymraeg, hanes y Gymru ganoloesol a modern, treftadaeth, a chyhoeddi. Rydym yn bwrw golwg dros ffenomen fyd-eang y chwedlau Arthuraidd, ac amrywiol gyfieithiadau mewn ieithoedd gwahanol fel y Ffrangeg, yr Almaeneg, a’r Eidaleg, a’r tu hwnt hyd at y nofel fodern a’r cyfryngau modern.
Beth sy'n gwneud yr MA mor arbennig?
Mae gradd MA Astudiaethau Arthuraidd Bangor yn arbennig oherwydd mae’n dwyn ynghyd arbenigeddau’r rhai sy’n ei dysgu, yn ogystal â’r rhai sy’n ymchwilio i wahanol agweddau ar y chwedlau. Mae fy niddordeb yn y chwedl yn deillio o’m harbenigedd innau yn llenyddiaeth Saesneg yr Oesoedd Canol, yn enwedig o ran y croniclau, y cyfeiriad at Arthur yn y cronicl canoloesol The Brut, sy’n mynd yn ôl at sylfaenydd chwedlonol Prydain y cyfeiria Sieffre o Fynwy ato yn Historia Regum Britanniae, sef Brutus, a sut mae stori Arthur yn dwyn ynghyd wahanol elfennau o chwedl genedlaethol a stori genedlaethol am goncwest ond hefyd am wareiddiad, o ddod â gwerthoedd cwrtais i’r rhan hon o’r byd.
Mae gennyf ddiddordeb yn hynny yn ogystal ag yng ngwaith Syr Thomas Mallory, yr awdur o’r bymthegfed ganrif a oedd yn ysgrifennu yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, a’i destun Le Morte d’Arthur, marwolaeth Arthur, yn adrodd chwedl hir unigol mewn rhyddiaith am esgyniad a chwymp y bwrdd crwn o dan arweiniad y Brenin Arthur. Mewn geiriau eraill, dyma'r testun Saesneg hiraf o'r Oesoedd Canol. Dylanwadodd ar genedlaethau o awduron a darllenwyr a wnaeth ei berchenogi a’i fwynhau dros y canrifoedd hyd at yr 21ain. Felly, fy arbenigedd innau yw gwaith Syr Thomas Mallory yr awdur o’r 15fed ganrif a ddaeth â gwahanol elfennau o chwedl Arthur ynghyd mewn un darn rhyddiaith hir yn yr iaith Saesneg. Hyd heddiw, dyma un o’r fersiynau mwyaf poblogaidd a pharhaol o chwedl Arthur.
Yn benodol felly, gallaf weithio yma ym Mhrifysgol Bangor a gall y myfyrwyr rwy'n eu dysgu ddefnyddio'r casgliadau, gan gynnwys yr enghraifft hon o'r argraffiad printiedig modern cynnar olaf o Le Morte d'Arthur o 1634 a argraffwyd gan William Stansby yn Llundain. Mae’n enghraifft o argraffiad hwyr, o bosib, o’r testun o’r bymthegfed ganrif. Felly yn yr 17eg ganrif mae gennym y llythrennau gothig o hyd, y llythrennau du ochr yn ochr â’r torlun pren a gyflwynwyd gyntaf gan Wynkyn de Worde, prentis William Caxton i argraffu Le Morte d'Arthur.
Yn ogystal â hynny mae gennyf ddiddordeb mawr yn hanes cyhoeddi’r testunau Arthuraidd, boed Le Morte d’Arthur Mallory, neu eraill gan gynnwys er enghraifft, straeon neu ddiddordeb hynafiaethol yn hanesyddiaeth Arthur, yr ailargraffiadau neu’r argraffiadau a’r golygiadau o Gildas a Nennius ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae gennym enghraifft yma o Gasgliad Harries Sir y Fflint, ac enghreifftiau cain o oes aur darlunio ac o hanes cyhoeddi Le Morte d’Arthur a ailargraffwyd yn gynnar yn yr 20fed Ganrif gyda thorluniau pren gwreiddiol Wynkyn de Worde ond mewn teip
modern. Neu yn wir archwilio sut yn y 18fed ganrif, nid yn unig y bu i Charles Bertram argraffu Gildas a Nennius yn ei ymdrechion i’w osod ei hun yn hanes astudiaethau Arthuraidd fel hynafiaethydd, a sut y bu iddo ffugio testun am y Brenin Arthur a rhoi ei enw ei hun yn y llyfr fel golygydd y testunau hynny.
Mae sawl peth arbennig am astudio ar gyfer MA Arthuraidd ym Mangor. Un o’r rheini’n ddigamsyniol yw bod yn rhan o’r gymuned o ysgolheigion sy’n mwynhau bod yn y llefydd y cododd chwedl Arthur, lle cafodd ei hysgrifennu, a gweithio gydag arbenigwyr boed mewn archaeoleg Geltaidd, chwedlau Celtaidd, hanes Cymru’r canoloesoedd a hanes cyhoeddi’r llyfrau. Ym Mhrifysgol Bangor mae gennym un o'r casgliadau pwysicaf o lyfrau Arthuraidd yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop ac rydym yn ffodus iawn fod gennym y casgliad hwnnw at ein defnydd ninnau ar yr MA a gyda’r myfyrwyr PhD.
Yn benodol hoffwn dynnu sylw at y ffaith ein bod yn gweithio gyda'r gymuned yn gyson, rydym yn derbyn rhoddion, ac rydym yn trefnu nifer o ddigwyddiadau sy'n cynnwys rhoi ein myfyrwyr mewn cysylltiad â'r ymchwil diweddaraf yn y maes. Rydym yn cynnal digwyddiadau i’r myfyrwyr gymryd rhan ynddynt i gyflwyno eu hymchwil lle maent yn rhan o grŵp darllen rhyngwladol fel yr ydym ninnau ar hyn o bryd, p'un a ydynt yn helpu gydag arddangosfeydd amrywiol neu ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol. Mae digon o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau academaidd, efallai cyhoeddi yng Nghylchgrawn y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, neu yn wir i ddatblygu sgiliau at ryw broffesiwn yn y dyfodol, swydd yn y dyfodol boed ym maes treftadaeth, y cyfryngau, neu rywbeth arall cysylltiedig.
Mewn geiriau eraill, ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn darparu addysg lawn a chymhleth iawn sy'n eich paratoi ar gyfer y byd sydd ohoni, nid dim ond gwybod sut mae darllen a dadansoddi'r testunau a sut mae mwynhau’r ffordd y mae’r chwedl yn mynd rhagddi ac yn ysbrydoli. Mae’n ymwneud hefyd â darparu’r gwaddol parhaus hwnnw fel llwybr ffrwythlon at ddarllen ac ymchwil pellach boed hynny gan yr ifanc yn ffuglen y plant neu’r cyhoedd boed mewn ffilmiau neu newyddiaduraeth, mae MA Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig y cyfleoedd hynny i gyd a llawer mwy.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ceir dwy ran i’r rhaglen: Rhaid cwblhau Rhan Un (hyfforddedig) yn llwyddiannus cyn symud ymlaen i Ran Dau (y traethawd hir).
Rhan Un: Mae'r rhaglen yn cynnwys modiwlau hyfforddedig gorfodol.
Rhan Dau: Traethawd hir - darn sylweddol (20,000 o eiriau) o ymchwil ysgolheigaidd, ar bwnc o'ch dewis eich hun ac wedi'i drafod yn fanwl gyda'r goruchwyliwr a ddewisir. Bydd yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd goruchwylio un i un dros yr haf, unwaith y bydd Rhan I wedi’i chwblhau’n llwyddiannus. (Sylwch: Bydd angen i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu portffolio ysgrifennu creadigol fel rhan neu'r cwbl o'u Traethawd Hir ddangos profiad blaenorol lefel gradd (neu gyfwerth) o ysgrifennu creadigol, a thrafod yr opsiwn hwn gyda chyfarwyddwr y cwrs).
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. Astudiaethau Llenyddol, Hanes, Astudiaethau/Llenyddiaeth Arthuraidd, Astudiaethau Ffilm) a diddordeb amlwg mewn Llenyddiaeth Arthuraidd.
Yn achos myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.5 o leiaf (heb i unrhyw elfen fod yn is na 6.0).
Gyrfaoedd
Mae myfyrwyr ymchwil presennol a blaenorol wedi mynd ymlaen at raddau uwch, addysgu, ymchwil a llyfrgellyddiaeth mewn addysg uwch (y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, Japan, a mannau eraill), cyhoeddi, ac ystod o weithgareddau cysylltiedig.