Cerddoriaeth Gorawl o’r Weriniaeth Tsiec
Côr Siambr Prifysgol Bangor
Arweinydd: Guto Pryderi Puw
Cyfeilydd: Elina Shchohla
Fiolin: Laura Elizabeth Linares Santana
Bydd y cyngerdd hwn yn eich tywyrs ar archwiliad bywiog o gerddoriaeth gorawl enwog gan gyfansoddwyr Tsiec, gyda’r mwyaf adnabyddus fuasai’r cyfansoddwr rhamantaidd Antonin Dvořák gyda Yn Nheyrnas Natur Op.63 (V přírodě). Mae gosodiadau cynnar y 5 Gesänge für Gemischten Chor Op.7 ac Winterlied gan Agnes Tyrell wedi'u gwreiddio'n gadarn yn nhraddodiad rhamantaidd yr Almaen, tra bod arddull Bohuslav Martinů a Petr Eben yn tynnu ar idiomau gwerin a cherddoriaeth draddodiadol. Ceir hefyd berfformiad cyntaf o Ddarn Lleisiol #2 gan Puw, a gafodd ei ysbrydoli gan ei ymweliad diweddar â Prag.
Rhaglen i gynnwys:
Antonin Dvořák: Yn Nheyrnas Natur Op.63
Petr Eben: Tair Carol Tsiec
Bohuslav Martinů: Tair Cân Gysegredig
Guto Pryderi Puw: Darn Lleisiol #2 (Premier Byd)
Agnes Tyrrell: 5 Gesänge für Gemischten Chor Op.7; Winterlied (Cân y Gaeaf)
Bohuslav Martinů: Pedair Cân am y Forwyn Fair
Dim egwyl. Mynediad am ddim (casgliad ymadawol).
FB, X, Insta: @MDPBangor