Hedd Wyn
Panelwyr: Huw Garmon, yr Athro Gerwyn Wiliams a Naomi Jones
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y ffilm arobryn, Hedd Wyn, a sgriptiwyd gan Alan Llwyd ac a gyfarwyddwyd gan Paul Turner. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ffilm gan gynnwys y cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, y themâu yr ymdrinnir â hwy, y portread o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt yn ogystal â’r defnydd o symbolaethau o fewn y ffilm. Ystyrir hefyd bwysigrwydd a chyfraniad y ffilm o fewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Bydd cyfle ar ddiwedd y sgwrs i aelodau o’r gynulleidfa holi’r panel. Mae’r digwyddiad am ddim ac mae croeso i unrhyw un fynychu (rhaid archebu tocynnau o flaen llaw trwy wefan Pontio). Croesewir yn arbennig ddisgyblion ysgolion uwchradd sy’n astudio’r ffilm fel rhan o’u cwrs UG. (Os ydych yn archebu tocynnau ac yn methu dod, a fyddai modd i chi gysylltu â swyddfa docynnau Pontio i’w hysbysu, os gwelwch yn dda?)
Cynhelir y digwyddiad hwn mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio Bangor ac fe’i noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.