Cysylltu

Mae tîm yr Ysgol Ddoethurol ym Mhrifysgol Bangor yma i ddarparu cefnogaeth i ymgeiswyr Ymchwil Ôl-raddedig yn ystod eu cyfnod yma.

Cyfarfod y Tîm

Professor Paul Spencer in a lab at Bangor University

  Proffil Yr Athro Paul Spencer

 Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi a Phennaeth Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg

  p.spencer@bangor.ac.uk

  +44 (0)1248 382738

  Prifysgol Bangor

Mae'r Athro Paul Spencer yn Ddirprwy Is-Ganghellor (PVC) ar gyfer Ymchwil ac Arloesi ac yn Bennaeth Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg.

Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae Paul yn gyfrifol am arwain a gweithredu Strategaeth Ymchwil ac Effaith a hyfforddiant doethurol y Brifysgol.

Ef hefyd sydd â throsolwg o strategaeth fasnacheiddio ac ymgysylltiad busnes y Brifysgol, gan gynnwys M-Sparc, parc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor ar Ynys Môn. Mae’n darparu arweinyddiaeth strategol ar bartneriaethau allanol sy’n cael effaith ar ddatblygiad economaidd ac agenda sgiliau ehangach Gogledd Cymru, ac ef yw’r arweinydd academaidd ar gyfer cyflogadwyedd myfyrwyr.

Derbyniodd Paul B.Sc. gradd mewn Ffiseg Gymhwysol a Ph.D. gradd mewn Peirianneg Electronig o Brifysgol Caerfaddon yn 1990 a 1994. Bu'n gynorthwyydd ymchwil ar nifer o brosiectau ymchwil a ariannwyd gan EPSRC ym Mhrifysgol Caerfaddon cyn symud i swydd darlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn 1996. Daeth yn uwch ddarlithydd yn 2003 a Derbyniodd Gadair Bersonol yn 2006. Yn 2007 fe’i penodwyd yn Bennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig, swydd a ddaliodd am saith mlynedd. Yn 2009 fe’i penodwyd yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol ac yn 2017 fe’i penodwyd yn Ddeon Coleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg.

Prif ddiddordebau ymchwil Paul yw deinameg laser lled-ddargludyddion, effeithiau adborth optegol, lluosogi curiadau, a phriodweddau tonnau optegol dyfeisiau optoelectroneg. Mae wedi bod yn awdur ar fwy na 100 o bapurau cyfnodolion a 140 o bapurau cynhadledd ac mae’n adolygwr rheolaidd o gyfnodolion archifol. Yn 2000 enillodd wobr peirianneg orau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET) ac mae hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg.

Professor Andrew Hiscock outside Main Arts' Terrace, wearing a yellow jumper

  Professor Andrew Hiscock's profile

Deon Ymchwil Ôl-raddedig; Athro mewn Llenyddiaeth Fodern Gynnar

  a.hiscock@bangor.ac.uk

  01248 382563

  Prifygol Bangor: 404, Adeilad y Celfyddydau

Yr Athro Hiscock yw Deon Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Bangor ac Athro Llenyddiaeth Fodern Gynnar yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth lle mae’n arbenigo mewn Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg y Dadeni. Fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr cyntaf Ysgol y Graddedigion ar gyfer Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau (2006–15) a gweithredodd hefyd fel Dirprwy Ddeon yn ystod y cyfnod hwn. Mae wedi gwasanaethu ddwywaith fel Pennaeth yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil AHRC iddo yn 2011–12 a Chymrodoriaeth Ymchwil Marie Skłodowka-Curie yn 2016–18. Mae wedi bod yn Ymddiriedolwr i'r Gymdeithas Astudiaethau Dadeni ac i Gymdeithas Shakespeare Prydain. Ers 2011 mae wedi bod yn Ymddiriedolwr ar gyfer Cymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Modern lle mae’n gweithredu fel cyd-olygydd y cyfnodolyn academaidd MLR ac fel golygydd cyfres ar gyfer y Yearbook of English Studies. Ers 2010 mae hefyd wedi bod yn gyd-olygydd cyfres ar gyfer yr Arden Early Modern Drama Guides. Yn 2018 fe’i penodwyd yn Gymrawd Ymchwil yn Institut de Recherche sur la Renaissance, l’Age Classique et les Lumières ym Mhrifysgol Paul-Valéry, Montpellier 3, yn Ffrainc.

 

Penny Dowdney outside Main Arts' Terrace, wearing a denim jacket

 Rheolwr yr Ysgol Ddoethurol

  p.j.dowdney@bangor.ac.uk

   +44(0)1248 382266

  Llawr Cyntaf, Prif Adeilad y Celfyddydau,Prifysgol Bangor, Bangor

Mae Penny wedi gweithio ym Mhrifysgol Bangor ers 15 mlynedd. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn wreiddiol, ac yna aeth ymlaen i ddilyn cyrsiau ôl-radd mewn Addysg, gan arbenigo mewn Addysg Uwch ac yna yn TEFL (Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor), EAP (Saesneg at Bwrpas Academaidd) ac ESP (Saesneg at Ddibenion Penodol).

Mae hi wedi gweithio dramor fel athrawes, hyfforddwr athrawon ac ymgynghorwr, gan weithio mewn Prifysgolion, Colegau ac Ysgolion yn Japan, Corea, Tsieina, De Affrica a Chanolbarth America. Mae ei gwaith pennaf ym Mhrifysgol Bangor wedi ymwneud â bod yn diwtor ac yn ymgynghorydd i fyfyrwyr ôl-radd o dramor; ysgrifennu, datblygu a chyfarwyddo cyrsiau (gyda meysydd arbenigol yn cynnwys ysgrifennu Cyfreithiol a Gwyddonol); datblygu deunyddiau; datblygu ac ehangu gwaith ymgynghori dramor a pheth gwaith profi a recriwtio dramor (e.e. sefydlu rhaglenni 2+2 yn Tsieina).

Yn dilyn hynny, symudodd i rôl newydd yn y Swyddfa Ymchwil a Menter fel Rheolwr Datblygu Sgiliau Ymchwil, gan weithio ar y Prosiect Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS), o’r Uned Datblygu Academaidd, lle sefydlodd hi’r Rhaglen Sgiliau Graddedigion (hyfforddiant sgiliau trosglwyddadwy i Ymchwilwyr). Mae’r rôl newydd hon wedi cynnwys sefydlu Gwobr Datblygu Sgiliau Ôl-raddedigion i holl gyfranogwyr KESS, ymhob Prifysgol yng Nghymru.

Yn 2013 cafodd Penny ei phenodi yn Rheolwr Prosiect ar gyfer Prosiect KESS. Yn ystod ei hamser fel Rheolwr Prosiect KESS mae Penny wedi sefydlu cyswllt traws-genedlaethol cadarn i’r prosiect, gan adeiladu cronfa ddata o arbenigedd (o ran ymchwil a chwmni) ar draws rhwydwaith o Brifysgolion Ewropeaidd. Mae KESS yn rhaglen a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ac felly mae yna gynlluniau i symud ymlaen fel ‘KESS II’, prosiect 7 mlynedd, Cymru gyfan, a fydd yn darparu dros 650 o ysgoloriaethau Doethur a Meistr Ymchwil, gan gysylltu academia a diwydiant drwy gydweithio.

Fel Cymrawd Addysg, a Phennaeth Academi Cymrodyr Addysg, mae Penny yn dal i fod yn rhan flaengar o’r Dystysgrif Ôl-radd Addysg Uwch, rhaglen a weithredir gan CELT. Mae ei hymchwil doethur hi yn y maes Ymddiwylliannu. Mae Penny yn cynnal gweithdai hyfforddiant staff yn y maes Rhyngwladoli ar draws y sefydliad.

Ers mis Ionawr 2013, Penny yw Rheolwr Ysgol Ddoethurol newydd Prifysgol Bangor.

Doctoral School Administrator Aashu Jayadeep on the Terrace, outside Main Arts Building

 Gweinyddwr yr Ysgol Ddoethurol

   a.jayadeep@bangor.ac.uk

   +44(0)1248 382357

  Llawr Cyntaf, Prif Adeilad y Celfyddydau,Prifysgol Bangor, Bangor

Daeth Aashu i Brifysgol Bangor fel myfyriwr yn y lle cyntaf i wneud ei hail gwrs Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA – Rheoli Gwybodaeth) a graddiodd gyda rhagoriaeth yn 2013. Cafodd y cyfle i ymuno â’r Swyddfa Ymchwil a Menter fel rhan o’r project KESS yn 2014 ac ers hynny mae wedi cefnogi rheoli Skills Forge i brojectau Meistr Ymchwil a PhD KESS.

Dechreuodd fel gweinyddwr yr Ysgol Ddoethurol ym mis Rhagfyr 2015 a gyda’i chyfrifoldebau yn y swydd honno caiff y cyfle i weithio’n agos â rheolwr yr Ysgol Ddoethurol yn cefnogi gweinyddu a hyfforddiant cyffredinol. Mae ei dyletswyddau’n cynnwys cydlynu’r rhaglen hyfforddiant Doethurol a hyrwyddo’r Ysgol Ddoethurol ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt. Mae’n gweithio gyda’r gymuned Ddoethurol yn y brifysgol (myfyrwyr ôl-radd ymchwil, goruchwylwyr academaidd, Cyfarwyddwyr Astudiaethau Graddedig) ac yn rheoli gwe-dudalennau’r Ysgol Ddoethurol a’i phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae ei chefndir mewn TG a rheolaeth Addysg Uwch. Ar ôl cwblhau ei gradd Meistr gyntaf mewn Rhaglenni Cyfrifiadurol yn y College of Engineering Trivandrum (CET), yr India, bu’n gweithio fel hyfforddwr cyfrifiaduron mewn sefydliadau yn yr India ac Oman. Wedyn bu Aashu yn gweithio i’r Middle East College (MEC), Oman, sefydliad Addysg Uwch o fri sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Coventry (DU) fel darlithydd Cyfrifiadureg. Yn ystod ei chyfnod yn y sefydliad, bu’n gweithio hefyd fel Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd a Swyddog Polisi, yn cydlynu a rheoli nifer o wahanol brojectau oedd yn gysylltiedig ag archwilio a sicrhau ansawdd mewn addysg uwch. Mae’r holl brofiadau hyn wedi ei helpu i gael gwybodaeth werthfawr am weinyddu a rheoli ym maes addysg uwch.

Cysylltiadau eraill

Coleg Cyswllt Estyniad Ebost
College of Arts, Humanities and Business Julie Bolton / Everil McQuarrie 3023/3671 pgr.studentadmin@bangor.ac.uk
College of Human Sciences Everil McQuarrie / Julie Bolton 3671/3023 pgr.studentadmin@bangor.ac.uk
College of Environmental Sciences and Engineering Chris Parry 2314 pgr.studentadmin@bangor.ac.uk

 

Enw E-bost School
Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
Felicity Parry  elpd38@bangor.ac.uk Arts, Culture and Language
Bethan Collins weu626@bangor.ac.uk Arts, Culture and Language
Nathalie Thomas n.thomas@bangor.ac.uk Arts, Culture and Language
Stevie Fox elp609@bangor.ac.uk Arts, Culture and Language
Llinos Stone weua13@bangor.ac.uk Arts, Culture and Language
Brooke Martin mupa17@bangor.ac.uk

Arts, Culture and Language

Rachel Healand-Sloan rsua4e@bangor.ac.uk History, Law and Social Sciences
Joseph Myler jsm19bzp@bangor.ac.uk History, Law and Social Sciences
Jack Whatley rsu806@bangor.ac.uk History, Law and Social Sciences
Anna Monnereau sou1db@bangor.ac.uk History, Law and Social Sciences
Bukola Adetonwa abp4bd@bangor.ac.uk Bangor Business School
Marc Christian Davies abp8e3@bangor.ac.uk Bangor Business School
Ho Phuong Lan Dang abp722@bangor.ac.uk Bangor Business School

Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg

Abi Cousins bsuba3@bangor.ac.uk Natural Sciences
Bethan Greer bsu6c4@bangor.ac.uk Natural Sciences
Edward Roome dwr19fbr@bangor.ac.uk Ocean Sciences
Jennifer Hewitt jnh19vyr@bangor.ac.uk Ocean Sciences
Megan O'Hara osu894@bangor.ac.uk Ocean Sciences
Nia Jones niajones@bangor.ac.uk Ocean Sciences
Thea Moule t.moule@bangor.ac.uk Ocean Sciences
Guy Walker- Springett g.r.w.springett@bangor.ac.uk Ocean Sciences
Will Stewart osuac9@bangor.ac.uk Ocean Sciences
Josh Davies joshua.davies@bangor.ac.uk Computer Science and Electronic Engineering
Ben Winter eeu60d@bangor.ac.uk Computer Science and Electronic Engineering
Gareth Stephens g.stephens@bangor.ac.uk Computer Science and Electronic Engineering

Coleg Gwyddorau Dynol

Libby Steele peu721@bangor.ac.uk Human and Behavioural Sciences
Hamidreza Bagheri hmb19lyz@bangor.ac.uk Human and Behavioural Sciences
Seren Evans peu643@bangor.ac.uk Human and Behavioural Sciences
Michel Ewalts mcw20jpv@bangor.ac.uk Human and Behavioural Sciences
Amelia Gamble mlg20nyr@bangor.ac.uk Medical and Health Sciences
Madhur Mrinal mdm21rbc@bangor.ac.uk Medical and Health Sciences
Morgan Dafydd mrd19ygq@bangor.ac.uk Educational Sciences

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Ble rydym ni

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?