Newyddion: Gorffennaf 2013

Hiliaeth gynhenid mewn systemau credyd banciau yn lleihau mynediad at gredyd i leiafrifoedd ethnig

Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddi adroddiad gan y llywodraeth i hiliaeth yn nulliau banciau Prydain o fenthyca arian, mae ymchwil gan un arbenigwr blaenllaw ym myd bancio'n awgrymu bod hiliaeth yn amlwg iawn, ac yn ymddangos yn gynhenid, yn system fenthyca'r banciau. Honnir hefyd bod hynny wedi bodoli drwy gydol y blynyddoedd o gynnydd yn ogystal ag yn yr argyfyngau ariannol presennol a diweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2013

Y rhesymau dros gymryd rhan mewn gweithgareddau risg uchel yn cael eu datgelu am y tro cyntaf

Ers dros 50 mlynedd, meddyliwyd mai "chwilio am gyffro" oedd cymhelliad pobl dros gymryd rhan mewn gweithgareddau risg uchel. Mae gwaith ymchwil newydd yn herio'r farn simplistig honno'n llwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2013

Gwobrau am effaith ymchwil Prifysgol Bangor

Mae tri phroject sydd wedi cael effaith eithriadol mewn meysydd gwahanol iawn i'w gilydd wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Effaith Ymchwil a Menter cyntaf Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

Ymchwilwyr yn datgelu bod siarcod yn defnyddio’u cynffonau i ddyrnu wrth hela

Mae gwyddonwyr wedi dangos bod llwynogod môr (siarcod 'thresher'), yn hela heigiau o bysgod trwy chwipio eu cynffonau mor galed fel eu bod yn anafu ac yn lladd llawer o bysgod ar yr un pryd. Dyna a ddywed ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored PLOS ONE gan Dr Simon Oliver, Dr John Turner a Tim D’Urban Jackson o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, a Klemens Gann a Medel Silvosa o broject ymchwil a chadwraeth llwynogod môr yn y Philippines.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013