Newyddion: Mehefin 2016

A century after the Battle of the Somme, can we finally explain shell shock?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson myfyrwraig Doethuriaeth yn yr Ysgol Seicoleg a Sefydliad Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2016

Independence Day: what alien invasions tell us about current global politics

Dyma erthygl yn Saesneg gan Gregory Frame o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2016

Edrych tuag at y dyfodol: Dementia a Dychymyg yn Ffair Utopia

Bydd Dementia a Dychymyg, project cyffrous dan arweiniad Prifysgol Bangor sy'n rhoi cyfle i bobl â dementia gymryd rhan mewn gweithgareddau celf, yn cynnal stondin yn Ffair UTOPIA 2016 yn Somerset House.

Mae UTOPIA 2016 yn broject ar y cyd rhwng tri chymydog yn Llundain: Somerset HouseKing's College, Llundain a Sefydliad ac Oriel Courtauld, mewn partneriaeth â'r Llyfrgell Brydeinig, yr AHRC, y Cyngor Prydeinig, y London School of Economics and Political ScienceM-Museum yn Leuven, Guardian Live a Verso

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2016

Eu dal yn y gwifrau: Y cynnydd mewn ffensys diogelwch ar ffiniau gwledydd yn gorfodi ailystyried strategaethau diogelu bywyd gwyllt yn Ewrasia

Mae rhwng 25,000 a 30,000 cilometr o ffensys gwifrau a waliau yn amgylchynu llawer o wledydd yn Nwyrain Ewrop a Chanolbarth Asia.  Mae'r rhain yn lladd bywyd gwyllt sy'n mynd yn sownd ynddynt a hefyd yn rhwystro symudiadau bywyd gwyllt, gan gau rhywogaethau oddi wrth gynefinoedd tymhorol pwysig.  Canlyniadau hir dymor hyn yw gostyngiad mewn poblogaethau bywyd gwyllt a gostyngiad yn eu gallu i ymateb i newid hinsawdd.  Mae'r sefyllfa hon yn gorfodi ailfeddwl ynghylch strategaethau cadwraeth trawsffiniol. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2016

A all diagnosis cynharach wella canlyniadau canser yng Nghymru?

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2016

Ymchwil ar ddefnydd y Gymraeg yn cael ei gyflwyno yng Nghynhadledd Ryngwladol ar Ddwyieithrwydd yn Addysg

Yr wythnos diwethaf, bu Dr Rhian Siân Hodges a Sioned Wyn Williams, myfyriwr PhD, yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil diweddar ar ddefnydd y Gymraeg yn y gymuned yng Nghynhadledd Ryngwladol gyntaf Prifysgol Bangor ar Ddwyieithrwydd yn Addysg.

Bu’r ddwy – sy’n cael eu cynorthwyo gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – yn cyflawni’r prosiect ymchwil (‘Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned’) ar ran Llywodraeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2016

Brexit and Britpop: Europeans have stronger cultural links to the UK thanks to English language music

Dyma erthygl yn Saesneg gan Jochen Eisentraut o’r Ysgol Cerddoriaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2016

Gellir atal colli carbon o gorstiroedd mangrof ac felly arafu newid hinsawdd - medd gwyddonwyr Bangor

Mae gwyddonwyr yn honni y gellir rhoi terfyn ar ryddhau symiau peryglus o nwyon tŷ gwydr o gorstiroedd mangrof.

Mae tîm o ymchwilwyr, a arweinir gan Brifysgol Bangor, yn dweud bod ganddynt y potensial i roi terfyn ar ryddhau nwyon sy'n newid hinsawdd, megis carbon deuocsid, rhag cael eu gollwng o gorstiroedd mangrof os ydynt yn cael eu niweidio neu eu torri i lawr.  

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2016

How forests recover rapidly on logging roads in the Congo Basin

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro John Healy a myfyriwr PhD, Fritz  Kleinschroth o’r Ysgol  yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth,  sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2016

Sut mae sicrhau'r canlyniadau gorau mewn addysg ddwyieithog

With this years’ National Literacy and Numeracy tests for primary school children aged 6-14 across Wales just about complete, experts will be discussing the best way to educate children in a bilingual setting at a major international conference on Bilingualism in Education and will be making recommendations on how to ensure that the highest standards are achieved by children in all of their languages.

Bangor University is hosting the International Conference on Bilingualism in Education June 10th – 12th 2016.  This event, sponsored by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol, draws together researchers and practitioners from a range of countries to discuss developments and best practice in bilingualism in education. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2016

Prifysgol Bangor yn dechrau ymchwil mewn Rhith Ganolfannau ar y Cyd â Brasil a Tsiena i wella defnydd nitrogen mewn amaethyddiaeth

Mae amaethyddiaeth yn wynebu problem sylweddol: yr angen i sicrhau cyflenwad digonol o fwyd i boblogaeth gynyddol gan ddiogelu'r amgylchedd yr un pryd. Tra bo defnyddio gwrtaith nitrogen wedi helpu i gynyddu cynhyrchu bwyd, mae hyn wedi bod ar draul yr amgylchedd, yn arbennig mewn gwledydd fel Tsiena a Brasil sy'n datblygu'n gyflym.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2016

Gwyddonwyr yn asesu potensial gwahanol ddiodydd o ran hydradu

Mae gwyddonwyr ym mhrifysgolion Stirling, Loughborough a Bangor yn galw am greu mynegai hydradiad i ddiodydd er mwyn helpu pobl i ddeall sut y gall gwahanol ddiodydd sicrhau bod gennych ddigon o hylif yn eich corff. 

Fe ddarganfu prawf ymchwil diweddar a brofodd effeithiau 13 o ddiodydd cyffredin ar gynhyrchu wrin a chydbwysedd hylifau, bod amryw o hylifau'n cael eu cadw yn yr corff am yr un amser â dŵr, os nad yn hirach na hynny.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2016