Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Mai 2020
Trin gwenwyn clorocwin
Mae ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor wedi darparu tystiolaeth bwysig ynglŷn â diogelwch triniaethau sy'n cael eu profi i'w defnyddio gyda COVID-19.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2020
Sut gall Awdurdodau Lleol annog dinasyddion i gymryd rhan mewn trawsnewid ynni
Mae pecyn newydd Ynni Glân i bobl Ewrop yr Undeb Ewropeaidd yn arwain y ffordd i ddinasyddion Ewrop fod yn gyd-gynllunwyr ac arweinwyr ar brojectau cynhyrchu ynni, trafnidiaeth a datblygiadau cymdeithasol sy’n adnewyddadwy a chynaliadwy, yn hytrach na bod dan orfodaeth i dderbyn projectau o'r fath.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2020
Bydd morwellt yn elwa o'r newid byd-eang
Dengys ymchwilwyr y bydd morwellt yn elwa o'r cynnydd yn y tymheredd a CO2 yn y cefnforoedd oherwydd bydd eu gallu i gaffael nitrogen yn cynyddu, heb gyfyngu ar eu twf.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020
Gall coedwigoedd trofannol ymdopi â'r gwres, i ryw raddau
Mae coedwigoedd trofannol yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd newid yn yr hinsawdd, ond mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Science yn awgrymu y gallant barhau i storio llawer iawn o garbon mewn byd cynhesach, os bydd gwledydd yn cyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae coedwigoedd trofannol y byd yn storio gwerth chwarter canrif o allyriadau tanwydd ffosil yn eu coed. Mae pobl yn ofni y gall cynhesu byd-eang leihau'r storfa hon os bydd llai o goed yn tyfu neu os bydd mwy o goed yn marw, gan gyflymu newid yn yr hinsawdd.
Roedd Dr Simon Willcock o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn un o dîm ymchwil rhyngwladol a fesurodd dros hanner miliwn o goed mewn 813 o goedwigoedd ledled y trofannau i asesu faint o garbon sy'n cael ei storio gan goedwigoedd sy'n tyfu o dan amodau hinsoddol gwahanol heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020
Mae gwyddonwyr Bangor yn troi gwlyptiroedd a gafodd eu niweidio'n storfeydd carbon
Mae tîm o wyddonwyr wedi datblygu dull newydd i helpu corsydd mawn a brofodd niwed ddal mwy o garbon, a rhyddhau llai o'r nwyon tŷ gwydr i'r awyr.
Dywed y grŵp, sydd o dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn y gogledd, y gallai eu gwaith arwain at ddatblygu arferion newydd lle mae adfer mawndiroedd yn y cwestiwn.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2020
Gall microbiomau perfedd iach ddylanwadu ar bysgod a ffermir
Mae'n debyg ein bod i gyd wedi clywed neu ddarllen rhywbeth am sut y gall microbiome perfedd iach effeithio ar ein hiechyd yn gyffredinol. Mae microbiome perfedd yr un mor hanfodol i anifeiliaid a physgod ag yw i bobl.
Mae gennym ficrobiomau mewn gwahanol rannau o'n cyrff, ar ein croen, er enghraifft.
Mae microbiomau yn cynnwys cymunedau o wahanol ficro-organebau, firysau a germau ac mae'r cymunedau hyn yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd rydym yn gweithredu. Ceir hyd yn oed dystiolaeth i ddangos y gall biome perfedd gwael arwain at salwch neu afiechyd hyd yn oed.
Gan fod tua 45% o'r pysgod rydym yn eu prynu a'u bwyta'n fyd-eang yn dod o ffermydd pysgod, mae deall microbiome perfedd pysgod yn hanfodol i gyflenwi'r galw hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020
Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned
Yr hyn y gall ein carthffosiaeth ei ddatgelu am gyfraddau heintiad Covid-19 yn y gymuned
Mae gwyddonwyr Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Dŵr Cymru ac United Utilities i fonitro lefelau cefndirol y coronafeirws mewn gwahanol ardaloedd.
Mae'r gwyddonwyr wedi dangos, o olrhain y feirws marw sy'n cael ei ollwng o'r corff yn naturiol, cawn rybudd cynnar ynghylch pryd y gallai rhai ardaloedd fod yn agosáu at anterth nesaf Covid-19, oherwydd gall symptomau gymryd hyd at bythefnos i ddod i'r amlwg, a does dim symptomau ar oddeutu 20% o'r boblogaeth neu fwy.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2020
Ymchwil yn cynnwys Prifysgol Bangor sy'n berthnasol i adferiad llawn cleifion Covid-19 wedi ei ddyfynnu gan Senedd Ewrop
Cyhoeddwyd ymchwil gan yr Athro Dyfrig Hughes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd ar effaith economaidd syndrom blinder cronig (CFS) - a adwaenir hefyd fel enseffalomyelitis myalgig (ME) - yn y cyfnodolyn Healthcare yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2020
Darganfod Bad Glanio o'r Ail Ryfel Byd oddi ar arfordir Cymru yn datrys dirgelwch 77 oed
Mae cydweithrediad rhwng tîm o wyddonwyr a thechnegwyr môr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor, a'r archeolegydd morwrol a hanesydd o fri rhyngwladol Dr Innes McCartney o Brifysgol Bournemouth, wedi arwain at ddigwyddiad annisgwyl. Maent wedi darganfod ac adnabod bad glanio a gollwyd ar y môr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2020