Newyddion: Gorffennaf 2018

Pobl hŷn yn helpu tyfu economi Cymru

Mae mwy a mwy o bobl dros eu 65 oed yn byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw, ac mae eu cyfraniad at economi Cymru’n tyfu.

Dyna mae economegwyr iechyd Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor yn ei ddweud yn eu hadroddiad Byw yn iach yn hirach: y ddadl economaidd dros fuddsoddi ym maes iechyd a lles pobl hŷn yng Nghymru heddiw (30 Gorffennaf 2018).

Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2018

Addysg feddygol yng ngogledd Cymru

Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei fod yn bwriadu ehangu addysg feddygol ledled Cymru, sy'n cynnwys cyfleoedd newydd i astudio yn y gogledd.

O 2019, trwy gydweithrediad rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor, bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â'u gradd meddygol israddedig yn llawn yn y gogledd.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2018