Dewislen
- Hafan
- Hanes Cerddoriaeth Cymru (Welsh Music History)
- Cyhoeddiadau ac Archif
- Cerddoriaeth yng Nghymru’r Oesoedd Canol a Modern Cynnar
- Cerddoriaeth Llawysgrif Robert ap Huw
- Cerddoriaeth Eglwysig yng Nghymru
- Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru
- Cerddoriaeth Boblogaidd Gyfoes yng Nghymru
- Archif Bop Cymru
- Cyswllt
Canolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru
Cyfarwyddwr: Dr Sally Harper
Mae Canolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru (CUACC) yn ganolfan unigryw o ran ei rhagoriaeth academaidd, ac yn gweithredu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Hon yw’r canolbwynt ar gyfer diddordeb ysgolheigaidd mewn cerddoriaeth yng Nghymru ar ei holl ffurfiau, ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ledaenu ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Cymru o fewn Cymru a’r tu hwnt. Mae’n hyrwyddo dadl ac ysgrifennu ysgolheigaidd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Hanes Cerddoriaeth Cymru (Welsh Music History), a gyhoeddir bob yn ail flwyddyn, yw ei phrif gylchgrawn.
Mae pedair cangen i’w chenhadaeth:
- cydlynu a datblygu ysgolheictod yng ngherddoriaeth Cymru
- hyrwyddo cynadleddau a chyhoeddiadau rheolaidd
- darparu adnoddau ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg
- cydweithio gydag ysgolheigion ar lefel ryngwladol, yn cynnwys y rhai mewn gwledydd Celtaidd eraill
Mae’r tudalennau hyn yn rhoi cyflwyniad i waith y Ganolfan. Rydym yn croesawu sylwadau ac ymholiadau, yn benodol gan ddarpar-gyfranwyr at ein cylchgrawn a’n cynadleddau, neu gan rai sy’n awyddus i astudio cerddoriaeth Cymru neu i wneud ymchwil yn y maes.