Cerddoriaeth yng Nghymru'r Oesoedd Canol a Modern Cynnar

Mae archwilio cerddoriaeth Cymru yn yr oesoedd canol a’r cyfnod modern cynnar yn ganolbwynt cyson i weithgareddau’r Ganolfan ers ei chychwyn ym 1994, a hynny’n arwain at lif cyson o erthyglau a monograffau sylweddol. Music in Welsh Culture before 1650: A Study of the Principal Sources gan Sally Harper (Ashgate, 2007), yw’r diweddaraf o’r rhain, ac mae’n archwilio llifoedd tra gwahanol cerddoriaeth gysegredig a cherddoriaeth seciwlar yng Nghymru’r oesoedd canol ac yn y cyfnod modern cynnar.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwaith ddiweddar CUACC ac ysgolheigion eraill ym Mangor ar gerddoriaeth litwrgaidd a chysegredig gynnar, ewch i dudalen Cerddoriaeth Eglwysig yng Nghymru [cyswllt].

Mae cysylltiad y Ganolfan â cherddoriaeth seciwlar gynnar yng Nghymru yn ymestyn o gyfres o brojectau yn ymdrin â diwylliant barddol (yn cynnwys y llawysgrif enwog i’r delyn a gopïwyd gan Robert ap Huw [cliciwch yma]) hyd at y gerddoriaeth yr arferid ei chanu a’i chwarae ar aelwydydd Seisgarol tua diwedd yr 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif. Cliciwch yma am gyflwyniad cyffredinol i gerddoriaeth gynnar ar gyfer y delyn a’r crwth yng Nghymru’r canol oesoedd.

Delwedd yn dangos yn cofnodi enwau 13 o gerddorion barddol a beirdd o GymruCeir peth o’r deunydd a drafodir ar Archif Prifysgol Bangor ei hun, sy’n gartref i nifer o drysorau – yn cynnwys dwy restr hynod o gerddoriaeth diwedd yr 16eg ganrif sy’n gysylltiedig â Phlas Lleweni yng ngogledd Cymru. Roedd Lleweni, ger Dinbych, yn gartref i’r gŵr llys John Salusbury (c.1566–1612), bardd Saesneg galluog a fedrai’r Gymraeg, ac a oedd yn adnabod Shakespeare a Ben Jonson yn bersonol. Mae’r gyntaf o’r rhestri yn cofnodi enwau 13 o gerddorion barddol a beirdd o Gymru a fu ar ymweliad ag Delwedd yn yn rhestru teitlau rhyw 80 o eitemau poblogaiddaelwyd Lleweni un Nadolig yn y 1590au, tra bo’r ail yn rhestru teitlau rhyw 80 o eitemau poblogaidd – cofnod, yn ôl pob tebyg, ar gronfa ddomestig Lleweni ar y pryd. Mae’r rhain yn cadarnhau hoffter y teulu o’r gerddoriaeth ddiweddaraf, yn cynnwys cerddoriaeth offerynnol gan Dowland, ac alawon jig sy’n gysylltiedig â’r dyn ffraeth o oes Elisabeth, Richard Tarlton. Am fwy o fanylion, gweler Sally Harper, ‘An Elizabethan Tune List from Lleweni Hall, North Wales’, Royal Musical Association Research Chronicle, 38 (2005), 45-98.)

Mae’r Athro David Klausner o Brifysgol Toronto yntau wedi gwneud gwaith pwysig ar Leweni a’i gerddoriaeth, a’i astudiaeth ar y dramodydd Thomas Salusbury o Leweni (1612–43) a’r masques a gyfansoddwyd gan Salusbury ar gyfer ei ffrindiau i’w gweld yn Hanes Cerddoriaeth Cymru cyfrol 6 (‘Diddanwch Teuluaidd ymysg Salsbrïaid Lleweni a’u Cylch, 1595–1641’). Mae cyhoeddiadau eraill gan y Ganolfan hefyd wedi tynnu’n helaeth ar gasgliad amhrisiadwy’r Athro Klausner o ddeunydd dramatig a barddol Cymreig a gyhoeddwyd yn Records of Early Drama: Wales (Toronto, 2005).

Mae CUACC hefyd wedi ymrwymo i archwilio adnoddau theori cerddoriaeth Gymreig gynnar. Mae Paul Whittaker, Irwen Cockman, Stephen Rees a Sally Harper i gyd wedi ysgrifennu ar y maes hwn, ac mae argraffiad cyfochrog o’r testunau theoretig canoloesol sydd ar gael ar y gweill ar gyfer y dyfodol agos.

Llinyn arall o waith y Ganolfan – ac un o’r rhai pwysicaf – yw ei harchwiliad parhaus o’r cyswllt allweddol a geid rhwng cerddoriaeth offerynnol gynnar yng Nghymru a barddoniaeth ganoloesol yn y mesurau caeth. Cynhelir llawer o’r gwaith hwn mewn cysylltiad ag ysgolheigion eraill, yn cynnwys rhai mewn disgyblaethau cysylltiedig. Hyd yma, mae CUACC wedi cynnal dau berfformiad mewn gweithdai arbrofol, gan gyplysu  cywyddau canoloesol â deunydd o lyfr Robert ap Huw o gerddoriaeth delyn, gyda chyfraniadau gan Dr Meredydd Evans, Phyllis Kinney ac Elinor Bennett ym 1999, a chan yr Athro Gwyn Thomas ac Elinor Bennett ym 1995. Mae’r Ganolfan hefyd wedi cyfrannu mewn modd arwyddocaol at argraffiad electronig newydd yr Athro Dafydd Johnston o waith bardd canoloesol gorau Cymru, sef Dafydd ap Gwilym (DafyddapGwilym.net), a gyhoeddwyd ar-lein yn 2007). Mae’r wefan ddiweddar hon yn cynnwys adroddiadau arbrofol ar dair o gerddi Dafydd wedi’u perfformio gan Dr Meredydd Evans i gyfeiliant Bethan Bryn (telyn), ochr yn ochr â pherfformiadau o wahanol eitemau offerynnol o lawysgrif Robert ap Huw wedi’u chwarae gan William Taylor (telyn) ynghyd â thraethawd estynedig ar Dafydd ap Gwilym a cherddoriaeth gan Sally Harper.