Dewislen
- Hafan
- Hanes Cerddoriaeth Cymru (Welsh Music History)
- Cyhoeddiadau ac Archif
- Cerddoriaeth yng Nghymru’r Oesoedd Canol a Modern Cynnar
- Cerddoriaeth Llawysgrif Robert ap Huw
- Cerddoriaeth Eglwysig yng Nghymru
- Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru
- Cerddoriaeth Boblogaidd Gyfoes yng Nghymru
- Archif Bop Cymru
- Cyswllt
Monograffau
Peter Crossley-Holland, Some Musical Traditions of the Celtic-speaking Peoples; 1996
46 o dudalennau, Clawr papur: £4.50
Peter Crossley-Holland, ‘Telyn Teirtu’: Myth and Magic in Medieval Wales; 1997; ISBN 898817 58 8 52 o dudalennau Clawr papur: £5.50
Astudiaeth hynod o ddiddorol ar delyn hud Teirtu, sy’n archwilio maes cyfan o fewn yr estheteg gerddorol Geltaidd gan gymharu’r cyfeiriadau niferus at ‘Delyn Teirtu’ o fewn llên a chwedloniaeth Cymru, a chan archwilio traddodiadau cyfochrog mewn chwedlau Gwyddelig a Seisnig.
Peter Crossley-Holland, Musical Learning and Creativity: A Cross-Cultural Perspective, 1997;
ISBN 1 898817 63 4 42 o dudalennau Clawr papur: £5.50
Archwiliad cymharol o’r agwedd tuag at greadigrwydd cerddorol o fewn traddodiadau India, Tsieina a’r Dwyrain Agos, a theori cerddoriaeth Ewropeaidd yn y canol oesoedd, ynghyd ag archwiliad o’u harwyddocâd ar gerddoriaeth yn ein hoes ni.
Peter Crossley-Holland, The Composers in the Robert ap Huw Manuscript, 1998
ISBN 1 898817 68 5 100 o dudalennau Clawr papur: £7.50; Clawr caled: £10
Mae personoliaethau’r cyfansoddwyr a enwyd yn Llawysgrif enwog Robert ap Huw, sef y casgliad mwyaf a chynharaf o gerddoriaeth delyn o Gymru sy’n dal i fodoli, wedi drysu ysgolheigion ers llawer o flynyddoedd. Yn yr astudiaeth dra arwyddocaol hon, mae’r Athro Crossley-Holland yn nodi dyddiad a lleoliad ar gyfer pob un o’r cyfansoddwyr, gan eu holrhain yn mwynhau cwmni beirdd enwog a gyfoesai â hwy, yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol, ac yn gwasanaethu yng nghyflogaeth boneddigion.
D.E. Parry Williams
Early Welsh Music, 1999.
ISBN 1 898817 84 7 42 o dudalennau Clawr papur: £5.50; Clawr caled: £10
Wedi’i chwblhau tua chanol y 1970au, mae’r astudiaeth fer hon yn gynrychioliadol o’i hamser: mae’n cyd-gasglu deunydd pwysig sy’n ymwneud â llawysgrif Robert ap Huw ac alawon gwerin.
I’w gyhoeddi yn 2008
David R.A. Evans
Casgliad George Powell o gerddoriaeth