Cerddoriaeth Eglwysig yng Nghymru

Ffynonellau Cymreig o Blaensiant a Litwrgi

Delwedd o BenpontMae astudio cerddoriaeth eglwysig Gymreig yn un o ganolbwyntiau gwaith y Ganolfan. Mae’r llyfr esgobol goliwiedig unigryw o ddechrau’r 14eg ganrif a wnaethpwyd ar gyfer Anian II (esgob Bangor 1309–28) ym mherchnogaeth Eglwys Gadeiriol Bangor ac wedi’i  gadw yn archif y Brifysgol. Mae ei gynnwys cerddorol a litwrgaidd ill dau’n arwyddocaol iawn – hwn yw’r unig lyfr esgobol bron yn gyflawn sydd wedi goroesi ac yn cydymffurfio â Defod ganoloesol Caersallog. (Am astudiaeth lawn, gweler Sally Harper, ‘Esgoblyfr Bangor: Esgoblyfr Arfer Caersallog’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 2 (1997), 65–99.) Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n gofyn am ganiatâd i gyhoeddi atgynhyrchiad digidol llawn o Esgoblyfr Bangor ar CD-ROM, ynghyd ag argraffiad ar ffurf testun ochr yn ochr â cherddoriaeth a sylwebaeth. Cyn gynted ag y daw cyllid i law, cyhoeddir hefyd recordiad masnachol ategol ar CD, o  blaensiant o’r Esgoblyfr, ynghyd ag eitemau o wasanaeth odledig unigryw Dewi Sant a geir yn Antiffonari Penpont o bron yr un cyfnod, ac o’r offeryn organ gan y cyfansoddwr o Gymro Philip ap Rhys (m.1566) a oedd yn byw yn Llundain.

Cerddoriaeth yn Nhyddewi’r Oesoedd Canol

Image odf St DavidsMae’r Ganolfan hefyd wedi cyhoeddi gwaith ar ffynonellau sy’n gysylltiedig ag Eglwys Gadeiriol Tyddewi (yn cynnwys Menevia Sacra Henry Thomas Payne (1759–1832)). Ym Mawrth 2007, cyflwynodd Sally Harper (gyda chymorth gan Stephen Rees a’r gantores-delynores Gwenan Gibbard o Fangor) raglen deledu ddogfennol yn y Gymraeg ar ddefosiwn canoloesol i Ddewi Sant, a wnaethpwyd i S4C gan Green Bay Productions, yn cynnwys adrannau o Wasanaeth Dewi Sant, wedi’u canu gan Gonsort Alamire dan gyfarwyddyd Dr David Skinner.

Sallwyr Mydryddol Cymraeg Edmwnd Prys (1621)

Image of the Llyfr y SalmauMae Archif Prifysgol Cymru hefyd â chopïau o’r Sallwyr mydryddol printiedig cynharaf yn y Gymraeg, sef Llyfr y Salmau gan Edmwnd Prys (1621), a oedd nid yn unig y Sallwyr mydryddol cyntaf i’w gyhoeddi yn y Gymraeg, ond hefyd y llyfr cyntaf yn y Gymraeg i’w gyhoeddi gyda cherddoriaeth. Mae dwy o’r deuddeg salmdon fonoffonig a geir yno yn unigryw i’r cyhoeddiad hwn, ac yma y gwelodd dwy arall ohonynt olau dydd am y tro cyntaf. (Am archwiliad llawn, a thrawsgrifiad o’r alawon, gweler Sally Harper, ‘Tunes for a Welsh Psalter: Edmwnd Prys’s Llyfr y Psalmau’, Studia Celtica, 37 (2003), 221–67.)

Cerddoriaeth yng Nghastell y Waun

Delwedd o gastell y WaunMae astudiaeth ar gerddoriaeth eglwysig Duduraidd a Jacobeaidd ddiweddarach hefyd yn cael llawer o sylw ym Mangor, ac mae Dr David R. A. Evans yn parhau i weithio ar y casgliad o lyfrau o ddechrau’r 17eg ganrif sy’n gysylltiedig â Chastell y Waun. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o unica, yn cynnwys sawl darn gan William Deane, a fyddai, fel arall, yn anhysbys. Roedd hwnnw’n organydd yn Eglwys Blwyf Wrecsam ac yng Nghastell y Waun ei hun yn ystod y 1630au. Cyn hir, cyhoeddir y darnau hyn mewn cyfres o Fangor, sef Musica Cambriae, sydd ar y gorwel, ac yn ymdrin yn benodol â cherddoriaeth Cymru. Mae Dr William Reynolds hefyd wedi gwneud gwaith pwysig yn y maes hwn (ac ar gerddoriaeth eglwysig gynnar yn gyffredinol), gan gyhoeddi deunydd ar ranlyfrau Castell y Waun a hefyd ar gontract tra diddorol o’r 17eg ganrif yn disgrifio manyleb organ newydd Castell y Waun.  Mae David R. A. Evans hefyd wedi ysgrifennu ar Thomas Tomkins a anwyd yng Nghymru, ac yn parhau i olygu ei gerddoriaeth.

Emynyddiaeth Anghydffurfiol Gymraeg

Mae sawl astudiaeth ddiddorol ar destunau a cherddoriaeth yng nghyswllt y traddodiad anghydffurfiol yn y 18fed a’r 19eg ganrif wedi ymddangos yng nghyhoeddiadau CUACC, ac mae hwn yn faes ymchwil y mae’r Ganolfan yn arbennig o awyddus i’w annog. Mae astudiaeth David Gosden ar wreiddyn a goroesiad rhai o’r tonau a gyfansoddwyd ar gyfer emynau William Williams, ‘Pantycelyn’ (1717–91) i’w gweld yn Hanes Cerddoriaeth Cymru, 5 (2002), tra bo dau gyfraniad arall i’w gweld yn y gyfrol arbennig a gyflwynwyd i Meredydd Evans a Phyllis Kinney, Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru – Cynheiliaid y Gân  (2007). Yma, mae Rhidian Griffiths yn archwilio emynyddiaeth gynulleidfaol Llyfr Tonau Cynulleidfaol (1859) a olygwyd gan Ieuan Gwyllt, a oedd yn harmoneiddiwr, yn drefnydd ac yn gyfansoddwr ar lawer o emyn-donau a salm-donau Cymreig (gweler ‘“Y Cyfansoddwr Gorau”: Ieuan Gwyllt a’r Alaw Gymreig’ / ‘“The Best Composer”: Ieuan Gwyllt and the Welsh Melody’, tra bo Rhiannon Ifans yn edrych ar garreg filltir lenyddol sy’n gysylltiedig ag un Jane Ellis neu Edward, yn dwyn y teitl Casgliad o Hymnau, Carolau a Marwnadau (1840).  Yn y casgliad hwn, ceir emynau, carolau a marwnadau a ysgrifennwyd yn benodol ar gyfer alawon plygain. (Gweler ‘Ar Drywydd y Gyfrol Brintiedig Gyntaf o Waith Llenyddol yn y Gymraeg gan Ferch’ / ‘On the Trail of the First Literary Volume Published in Welsh by a Woman’.)

Cerddoriaeth ar gyfer Eglwys Ddwyieithog

Roedd cynhadledd ddiweddaraf y Ganolfan hefyd yn cynnwys sesiwn a gynhaliwyd ar y cyd â Chanolfan Ryngwladol newydd Bangor ar gyfer Delwedd o Agnus Dei (John Harper, Cymun y Cymry)Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig, dan gyfarwyddyd yr Athro John Harper. Roedd hon yn canolbwyntio ar gerddoriaeth ar gyfer eglwys ddwyieithog, gan archwilio’r broses o baratoi gosodiad cerddorol llawn o destunau cyffredin Ewcharist 2004 yr Eglwys yng Nghymru, sef ‘Cymun y Cymry’, gyda’r bwriad o roi cyfle i gynulleidfaoedd rannu cerddoriaeth gyffredin, ac yn cynnwys gweithdai arosod y testunau cyffredin i alawon gwerin Cymreig adnabyddus.