Newyddion: Ionawr 2017

Iddewiaeth a'r Holocost yn Full Metal Jacket Stanley Kubrick

Mae’r Athro Nathan Abrams o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi derbyn gwahoddiad i draddodi darlith ar ffilm Stanley Kubrick, Full Metal Jacket, yn JW3: Jewish Community Centre London fory (Ionawr 18).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017

Lansio Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor

Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ddydd Gwener, 20 Ionawr, wrth i Gymru ddechrau dathlu Blwyddyn Chwedloniaeth. Trwy gydol 2017 cynhelir digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y wlad. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017

Darlithydd yn mynd i'r afael â 'diffyg democrataidd' Cymru

Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi cael ei benodi'n aelod o dasglu a sefydlwyd er mwyn edrych ar ffyrdd o gau'r 'diffyg democrataidd' yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2017