Gweithdai Sgiliau Ysgrifennu ac Ymchwil
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o un ar bymtheg gweithdy rhyngweithiol sy’n agored i bob myfyriwr ar draws pob lefel astudio. Darpara’r gyfres hon gyfle ymarferol i archwilio materion sy’n ganolog i ysgrifennu yn y brifysgol ac i’r broses ymchwilio ac ysgrifennu ar gyfer eich traethodau hir, ac mae’n cynnwys y themâu canlynol:
- Bod yn feirniadol
- Llwyddo gyda’ch astudiaethau ôl-raddedig
- Deall cwestiynau traethawd
- Diffinio pwnc eich traethawd hir
- Darllen i ysgrifennu
- Cynllunio eich traethawd hir
- Ysgrifennu brawddegau gwell
- Adolygu’r llenyddiaeth
- Aralleirio ac osgoi llên-ladrad
- Cynigion ymchwil
- Sut i gryfhau eich dadl
- Ysgrifennu crynodeb eich traethawd hir
- Rhoi graen ar eich gwaith
- Ysgrifennu rhagarweiniad eich traethawd hir
- Hyder i gyflwyno ar lafar
- Canfod atebion i’ch cwestiynau ymchwil
Mae croeso i chi ddilyn y rhaglen weithdai gyflawn, neu ddewis o’r sesiynau hynny’n unig sy’n apelio atoch chi. Bydd lleoliad y gweithdai yn cael eu datgelu unwaith fyddwch chi wedi archebu eich lle. I gael amlinelliad llawn o’r rhaglen ac i archebu eich lle, ewch i: https://www.bangor.ac.uk/studyskills/workshops/rhaglen
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2019