Tîm y Gaplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
Croeso i dudalennau Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd Prifysgol Bangor
Bydd yr Ystafell Gyfarfod a’r Ystafell Dawel yn Anecs Rathbone ar Ffordd y Coleg ar gael o 16 Mai 2022. Mae’r Ystafell Dawel ar gael yn ystod oriau dysgu i unigolion ei defnyddio i weddïo’n dawel ac i fyfyrio. Mae ystafell gyfarfod ar gael i grwpiau ei harchebu i gynnal gweithgareddau sy'n gysylltiedig â ffydd. Mae toiledau ar wahân i ferched a dynion yn yr Anecs yn ogystal â thoiled hawdd ei gyrraedd ac maent i gyd yn cynnwys cyfleusterau ymolchi at ddibenion crefyddol. Er diogelwch pawb, staff, myfyrwyr a’n cymunedau, ac yn arbennig er diogelwch y rhai sy’n agored i niwed o ran iechyd, argymhellir gorchuddion wyneb o fewn holl adeiladau a chludiant y Brifysgol ac fel y nodir gan asesiadau risg gweithgaredd.
Gellir gwneud ymholiadau trwy anfon neges e-bost at ffydd@bangor.ac.uk a gellir archebu'r stafell yma.
Mae rhai Eglwysi a Mannau Ffydd dal ar gau am y tro, tra bod eraill yn ailagor o fewn gofynion pellhau cymdeithasol, rydym yn dal yma ar gyfer staff a myfyrwyr y brifysgol o bob ffydd a dim ffydd.
Fel cymaint o ddarpariaeth y brifysgol, bu’n rhaid i Dîm Caplaniaeth Prifysgol Bangor, sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaethau Myfyrwyr ac yn gweithio gyda nhw, addasu i’r sefyllfa bresennol a symud eu presenoldeb ar-lein i fod ar gael i staff a myfyrwyr y brifysgol Bellach mae gan aelodau'r tîm fynediad at e-bost prifysgol ac rydym (ac eithrio’r Caplan Uniongred, oherwydd problemau technegol) ar gael i bobl gysylltu â nhw, sgwrsio a chael sgwrsio fideo trwy Microsoft Teams. Mae holl aelodau’r Tîm ar gael i roi cefnogaeth fugeiliol neu gyngor unigol i staff a myfyrwyr
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r fideo bach yma - 'Tîm Caplaniaeth - Y Ffilm' fel cyflwyniad i'r Tîm a beth rydyn ni'n ei gwneud.