Astudiaethau Ôl-radd
Mae Ysgol Busnes Bangor yn adnabyddus am natur arloesol ein haddysg ôl-radd. Yn ôl ym 1973 fe wnaethom sefydlu'r radd MA gyntaf mewn Bancio a Chyllid i'w chynnig mewn unrhyw brifysgol yn y Deyrnas Unedig, ac yn fwy diweddar ni oedd y cyntaf i gynnig graddau MBA mewn Bancio a Chyllid a Bancio a Chyllid Islamaidd.
Heddiw, rydym y parhau i arloesi drwy gynnig meysydd llafur cyfoes wedi'u seilio ar yr ymchwil ddiweddaraf yn y diwydiant, ynghyd ag amrywiaeth o opsiynau astudio.
Meysydd arbenigedd
Rydym yn cynnig graddau Meistr ac ymchwil ar draws y disgyblaethau canlynol:
- Cyfrifeg
- Bancio
- Cyllid
- Bancio a Chyllid Islamaidd
- Rheolaeth
- Marchnata
- Meistr ar y Cyd, yn cyfuno'r Gyfraith gyda Bancio / Rheolaeth
- Busnes a Seicoleg Defnyddwyr
Edrychwch ar yr holl gyrsiau ôl-radd
Bwriedir ein cyrsiau ôl-radd i ymgeiswyr gyda graddau neu gefndiroedd cysylltiedig, sydd eisiau datblygu eu harbenigedd a hyrwyddo eu gyrfaoedd proffesiynol. Mae'r rhaglenni MBA yn gyrsiau ôl-radd o natur fwy ymarferol i gyd-fynd â'n rhaglenni MA ac MSc sydd wedi eu sefydlu ers tro; tra bo'r graddau ymchwil MPhil a PhD yn rhoi cyfle i wneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol i wybodaeth yn y maes pwnc a ddewiswyd.
Darllenwch amdan ein cyfleoedd cyllid i fyfyrwyr ôl-radd
Amrywiaeth o opsiynau astudio
Mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnig ystod o opsiynau i alluogi myfyrwyr i ddyfnhau eu profiad astudio ôl-radd:
- Mewnlif Ionawr: gellir dechrau'r rhan fwyaf o'n rhaglenni Meistr ym mis Ionawr, yn ogystal â'r amser dechrau traddodiadol ym Medi
- Rhaglenni 10 mis: gellir astudio nifer benodol o raglenni ym maes Cyllid mewn 10 mis yn hytrach na'r 12 mis arferol.
- Llwybr Dadansoddwr Ariannol Siartredig (CFA): mae ein rhaglenni'n ymwneud â Chyfrifeg, Bancio a Chyllid yn rhoi cyfle i chi ddilyn y llwybr arbenigol CFA a meithrin y sgiliau i sefyll arholiad Lefel 1 CFA - y cymhwyster proffesiynol uchaf ei barch a'i bwysigrwydd yn y byd ym maes cyllid.
- Achrediad deuol y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI): mae llawer o'n rhaglenni (meysydd pwnc Busnes, Rheolaeth a Marchnata) yn elwa o achrediad deuol gan y CMI.
- Achrediadau proffesiynol: mae rhai o'n rhaglenni'n manteisio ar achrediadau ychwanegol a all ganiatáu i raddedigion beidio â gorfod gwneud rhannau o rai cymwysterau proffesiynol (neu gael credydau tuag atynt).
Mae'r tabl canlynol yn amlinellu pa opsiynau sydd ar gael ym mhob un o'n rhaglenni Meistr:
Rhaglen |
||||
MA/MSc Banking & Finance | x |
x |
||
MA/MSc Banking & Finance (Chartered Banker) | x |
|||
MA Banking & Law | x |
|||
MA Business & Marketing | x |
x |
||
MA/MSc Business with Consumer Psychology | x |
|||
MSc Finance | x |
x |
x |
|
MSc Islamic Banking & Finance | x |
x |
||
MA/MSc Management & Finance | x |
x |
x |
|
MBA Banking & Finance | x |
x |
||
MBA Banking & Law | x |
|||
MBA Environmental Management | x |
x |
||
MBA Finance | x |
x |
x |
|
MBA Information Management | x |
|||
MBA International Business | x |
x |
||
MBA International Marketing | x |
x |
||
MBA Islamic Banking & Finance | x |
x |
||
MBA Law & Management | x |
x |
||
MBA Management | x |
x |
||
MSc Accounting | x |
x |
||
MSc Accounting & Banking | x |
x |
||
MSc Accounting & Finance | x |
x |
||
MSc International Banking | x |
|||
MSc International Media & Management | ||||
MSc Investment Management | x |
x |