Bwyty Gorad
Rydym wedi bod yn brysur yn rhoi gwedd newydd a ffres i fwyty Gorad, sydd wedi’i leoli ar ail lawr adeilad Pontio. Dewch draw i roi cynnig ar ein bwydlen newydd sy’n llawn i’r ymylon o gynnyrch lleol.
Edrychwn ymlaen yn eiddgar i’ch croesawu!
Cerddoriaeth yn Gorad
Ymunwch â ni am nosweithiau hamddenol o fwyd gwych a cherddoriaeth fyw. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim i bawb sy’n bwyta yn Gorad.
Mared Williams
Nos Wener 26 Ebrill | 7.30pm
Yn wreiddiol o Lannefydd ger Dinbych, dechreuodd Mared gyfansoddi
ei chaneuon ei hun pan oedd yn yr ysgol uwchradd ac ar hyn o bryd
mae’n astudio am MA mewn Theatr Gerddorol yn yr Academi Gerdd
Frenhinol yn Llundain. Yn 2018 derbyniodd ganmoliaeth am ei chân
“Byw a Bod” a ddaeth yn ail yn Cân i Gymru, a gynhaliwyd yn Theatr
Bryn Terfel, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno cafodd ei henwi yn
Llais Rhyngwladol Theatr Gerdd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, a
arweiniodd at gyfle i berormio yn Eisteddfod yr Arfordir Aur yn Awstralia.
Bydd Mared yn canu cymysgedd o ganeuon gwreiddiol ac o waith
artistiaid eraill, gan gyfuno elfennau o gerddoriaeth jas, pop a soul.
I archebu’ch bwrdd ebostiwch bwydabar@pontio.co.uk neu ffoniwch 01248 383826
Cofrestru
Cofrestrwch am ein newyddion, digwyddiadau a chynigion diweddaraf.
Bwydlenni
- Bwydlen
- Prydau ysgafn a saladau - Ar gael hyd at 5.30yh
- Bwydlen plant
I archebu bwrdd
- Ebostiwch: bwydabar@pontio.co.uk
- Ffoniwch : 01248 383826
Oriau Agor
- Dydd Llun: 8:30yb – archebion bwyd olaf am 6:00yh
- Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn: 8:30yb - archebion bwyd olaf am 8:00yh
- Dydd Sul 12:00yp – archebion bwyd olaf am 6:00yh