Module BSC-3071:
Sgiliau Gwyddoniaeth a Gwaith
Module Facts
Run by School of Natural Sciences
10 Credits or 5 ECTS Credits
Semester 1 & 2
Organiser: Dr Stella Farrar
Overall aims and purpose
Cynlluniwyd y modiwl hwn i wella sgiliau ysgrifennu a chyflwyno myfyrwyr, gyda'r nod o wella eu cyflogadwyedd yn gyffredinol a'u gwybodaeth am yrfaoedd yn y dyfodol. Yn ogystal â datblygu gwybodaeth yn ymwneud â llunio papurau gwyddonol y gellir eu cyhoeddi, bydd myfyrwyr yn dysgu hefyd sut i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'w gwaith i gynulleidfa ehangach, gymysg, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau. Bydd myfyrwyr hefyd yn dod i ddeall technegau a sgiliau i wella eu siawns o gael swyddi a chyfleoedd menter.
Ac yn olaf, mae mynd i gynadleddau a seminarau gwyddonol yn rhan hanfodol o aros mewn cysylltiad â'r datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil. Mae’r agwedd olaf y modiwl wedi'i chynllunio i roi i fyfyrwyr y sgiliau allweddol o ran sut i ddehongli, gwerthuso a chrynhoi gwyddoniaeth arloesol a gyflwynir trwy 'fformat seminar ymchwil'. Bydd cyswllt rhwng staff ymchwil a myfyrwyr yn galluogi myfyrwyr i ymwneud ag ymchwil wyddonol a fydd yn ehangu ar eu gwybodaeth o werslyfrau a gwella eu sgiliau ysgrifennu, ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weld yr ystod o ymchwil ôl-raddedig gyffrous sydd ar gael ar gyfer astudiaethau pellach.
Dylai myfyrwyr dreulio amser yn ymchwilio ac adfyfyrio ar eu llwybr gyrfa eu hunain a thrafod hyn gyda'u cyfoedion a staff.
Course content
Bydd y modiwl hwn yn ymdrin â sgiliau ysgrifennu allweddol i ddibenion gwyddonol, yn cynnwys hyrwyddo a lledaenu pynciau cyfoes. Eglurir sgiliau hanfodol i wella cyflogadwyedd a rhagolygon gyrfa myfyrwyr; yn cynnwys llunio CV, ysgrifennu cynllun busnes a marchnata - ynghyd â sgiliau rhwydweithio ac ymarfer at gyfweliadau. Trefnir cyfres o seminarau ymchwil i ymdrin ag ystod eang o feysydd gwyddonol, gan alluogi myfyrwyr i ddod i gysylltiad â phynciau ac academyddion na fyddent yn dod ar eu traws fel arall efallai. Ceir nifer o asesiadau ffurfiannol drwy gydol y modiwl ac asesiad crynodol parhaus ar ffurf blog.
Assessment Criteria
excellent
Dylai bod gan fyfyriwr rhagorol wybodaeth fanwl a chysyniadol am y ffeithiau hanfodol a'r cysyniadau allweddol sy'n ofynnol i gynllunio'n effeithiol ar gyfer cyflogaeth, datblygu menter fusnes ac ystyried y problemau moesegol sydd ynghlwm â bioleg. Dylai'r sesiwn sgiliau cyfweld, y cyflwyniad busnes llafar a'r cynllun busnes ysgrifenedig a'r adroddiad seminar i gyd ddangos gwybodaeth sy'n uwch na'r lefel werslyfrau ddisgwyliedig a chynnwys gwybodaeth o ffynonellau ar-lein, llenyddiaeth wyddonol ac o fodiwlau eraill.
threshold
Dylai bod gan fyfyriwr trothwy wybodaeth sylfaenol am y ffeithiau hanfodol a'r cysyniadau allweddol sy'n ofynnol i gynllunio'n effeithiol ar gyfer cyflogaeth, datblygu menter fusnes ac ystyriaeth o'r problemau moesegol sydd ynghlwm â bioleg. Dylai'r sesiwn sgiliau cyfweld, y cyflwyniad busnes llafar a'r cynllun busnes ysgrifenedig a'r adroddiad seminar i gyd ddangos gallu i ymchwilio a threfnu deunydd o'r darlithoedd, ymarferion grwpiau myfyrwyr a gwerslyfrau yn ddadl resymegol.
good
Dylai bod gan fyfyriwr da wybodaeth ffeithiol drylwyr am y ffeithiau hanfodol a'r cysyniadau allweddol sy'n ofynnol i gynllunio'n effeithiol ar gyfer cyflogaeth, datblygu menter fusnes ac ystyried y problemau moesegol sydd ynghlwm â bioleg. Dylai'r sesiwn sgiliau cyfweld, y cyflwyniad busnes llafar a'r cynllun busnes ysgrifenedig a'r adroddiad seminar i gyd ddangos y gallu i feddwl yn feirniadol am y pwnc a chyfuno deunydd nid yn unig o ddarlithoedd, ymarferion grwpiau myfyrwyr a gwerslyfrau ond hefyd o adnoddau ar-lein.
Learning outcomes
-
Gwerthuso sut mae angen dulliau ysgrifennu a chyflwyno gwahanol, yn dibynnu ar y gynulleidfa, y targed a'r cyfrwng a ddefnyddir, a datblygu dull effeithiol o ymdrin ag ysgrifennu adroddiadau, CV's, cynlluniau busnes ac ysgrifennu ar-lein.
-
Dadansoddi a defnyddio'r dull gorau i fynegi darganfyddiadau a chysyniadau gwyddonol i gynulleidfa mor eang a pherthnasol â phosib.
-
Cyfuno gwybodaeth o seminarau ar ymchwil gyfredol ym maes gwyddor bywyd er mwyn cael dealltwriaeth o waith arloesol - a chyfathrebu hynny i gynulleidfa gymysg.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Blog Gwyddoniaeth a Chyflogadwyedd | 100 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Workshop | Cyfnerthir y darlithoedd gan ail floc dysgu yn cynnwys gweithdai yn ymdrin â sgiliau cyflogadwyedd ymarferol. Bydd myfyrwyr yn cael asesiad ffurfiannol gan eu cyfoedion a staff. |
4 |
Private study | 76 | |
Lecture | Bydd y cwrs yn dechrau gyda 'darlith groeso' yn esbonio fframwaith y modiwlau a'r disgwyliadau gan y myfyrwyr. Yna ceir cyfres o ddarlithoedd dros y ddau semester yn ymdrin ag agweddau ar gyflogadwyedd a sgiliau gwyddonol craidd. |
15 |
Seminar | Mae 'Pynciau Cyfredol yn y Gwyddorau Biolegol' yn agwedd newydd ar y modiwl. Fe'i cyflwynir dros y ddau semester er mwyn dysgu myfyrwyr sut i dynnu gwybodaeth allweddol o gyflwyniadau gwyddonol, crynhoi'r wybodaeth honno mewn fformat cryno a defnyddio'r wybodaeth honno i lywio penderfyniadau ynghylch eu gyrfa yn y dyfodol. Ymhellach, daw'r rhan hon o'r modiwl hwn â myfyrwyr i gyswllt uniongyrchol ag ymchwil flaengar a fydd yn datblygu ar eu gwybodaeth o werslyfrau. Bydd y myfyrwyr yn mynd i fan leiaf bum sgwrs dros y flwyddyn academaidd o gyfres gyfredol o seminarau ymchwil. Ar ddiwedd pob sgwrs bydd gan fyfyrwyr y cyfle i drafod cynnwys a chefndir gwyddonol y sgwrs gyda'r siaradwr, cynullydd y modiwl a gwyddonwyr eraill sy'n bresennol. Anogir myfyrwyr hefyd i gwestiynu eu goruchwylwyr am y cyflwyniadau. Gofynnir i'r holl siaradwyr mewn seminarau roi cyflwyniad mwy cyffredinol i'w hymchwil er mwyn galluogi myfyrwyr Lefel 3 i ddilyn eu cyflwyniadau. Anogir siaradwyr hefyd i bwysleisio darganfyddiadau allweddol a pherthnasedd gwyddonol ehangach eu gwaith. |
5 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Engagement with current developments in the biosciences and their application.
- Engage in debate and/or discussion with specialists and non-specialists using appropriate language.
Courses including this module
Compulsory in courses:
- C100: BSC Biology year 3 (BSC/B)
- C511: BSc Biology with Biotechnology year 3 (BSC/BIOT)
- C102: BSc Biology (with International Experience) year 3 (BSC/BITE)
- C300: BSC Zoology year 3 (BSC/Z)
- C305: BSc Zoology with Animal Behaviour (with International Exp) year 3 (BSC/ZABIE)
- C3L2: BSC Zoology with Conservation year 3 (BSC/ZC)
- C319: BSc Zoology with Climate Change Studies year 3 (BSC/ZCC)
- C3L3: BSc Zoology with Conservation with International Experience year 5 (BSC/ZCIE)
- C3L4: BSc Zoology with Conservation with Placement Year year 4 (BSC/ZCP)
- C304: BSC Zoology with Herpetology year 3 (BSC/ZH)
- C324: BSc Zoology with International Experience year 3 (BSC/ZIE)
- C3C1: BSc Zoology with Marine Zoology (with International Exp) year 3 (BSC/ZMB)
- C350: BSC Zoology with Marine Zoology year 3 (BSC/ZMZ)
- C329: BSc Zoology with Primatology year 3 (BSC/ZP)
- C330: BSc Zoology with Ornithology year 3 (BSC/ZR)
- C3D3: BSC Zoology with Animal Behaviour year 3 (BSC/ZWAB)
- C101: MBiol Master of Biology year 3 (MBIOL/BIO)
- C510: MBiol Biology with Biotechnology year 3 (MBIOL/BIOT)
- C302: MZool Zoology with Animal Behaviour year 3 (MZOOL/AB)
- CD34: MZool Zoology with Conservation year 3 (MZOOL/CONS)
- C303: MZool Zoology with Herpetology year 3 (MZOOL/HERP)
- C325: MZool Zoology with Animal Behaviour with International Exp year 3 (MZOOL/ZAIE)
- C321: MZool Zoology with Climate Change year 3 (MZOOL/ZCC)
- C326: MZool Zoology with Herpetology with International Experience year 3 (MZOOL/ZHIE)
- C353: MZool Zoology with Marine Zoology year 3 (MZOOL/ZMZ)
- C306: MZool Zoology (with International Experience) year 3 (MZOOL/ZOIE)
- C301: MZool Master of Zoology year 3 (MZOOL/ZOO)
- C333: MZool Zoology with Primatology year 3 (MZOOL/ZP)
- C334: MZool Zoology with Ornithology year 3 (MZOOL/ZR)