Modules for course LQK5 | BA/SPWW
BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg

These were the modules for this course in the 2017–18 academic year.

You can also view the modules offered in the years: 2018–19; 2019–20.

Find out more about studying and applying for this degree.

Use the buttons after the module titles (where available) to see a brief description of the content, or:
Show all descriptions
Hide all descriptions

Year 1 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • SCU-1001: Ymchwil Cymdeithasol (20)
    Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwil ar lefel gyffredinol a fydd yn sail i waith mwy ymarferol yn yr ail flwyddyn. Byddwch yn dysgu am seiliau cysyniadol a methodoleg ymchwil yn gyffredinol, a'r dewisiadau sydd ynghlwm wrth ddewis dull ymchwil arbennig. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer sgiliau ar lefel mwy ymarferol ar draws y cwricwlwm ac yn enwedig parthad gwaith Treathawd Hir yn yr ail flwyddyn.
    or
    SXU-1002: Doing Social Research (20)
    The course will cover the following topics: • What is Social Research? • Research design • The importance of ethics in social science research • Quantitative data collection, analysis and presentation (sampling, surveys, interviews, questionnaire research, content analysis and the use of secondary data in social research). • Qualitative data collection, analysis and presentation (ethnographies, qualitative interviews, observational research, focus groups, the uses of documents in social research. • An introduction to multi-method research. • Preparing for your dissertation
  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg (20)
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • SCP-1006: Cyflwyniad Astudiaethau Iechyd (10)
    Bydd y modiwl hwn yn edrych ar y modd y darperir gwasanaethau ‘lles’ i gleientiaid. Bydd yn edrych ar agweddau personol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol gofal iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn ystyried rhai o’r materion moesol ac athronyddol a godir. Mae’r cwrs hefyd yn olrhain datblygiad a defnydd cysyniadau megis angen cymdeithasol, angen o ran gofal iechyd, lles cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, dinasyddiaeth ac eithrio cymdeithasol ymysg eraill o fewn fframwaith proses y polisi. Bydd myfyrwyr yn ystyried cyfres o faterion perthnasol, e.e. gofal yr henoed, amddiffyn plant, thriniaeth i bobl â salwch meddwl, ayyb. Daw myfyrwyr yn gyfarwydd ag amrywiaeth o safbwyntiau theoretig a ddefnyddir gan y gwasanaethau cymdeithasol. Bydd yn edrych ar brif sefydliadau iechyd a lles, ac yn ystyried rhai o brif ddilemâu ein hoes, e.e. sut i greu cydbwysedd rhwng cyfrifoldebau unigol a chyfrifoldebau torfol, sut i greu cydbwysedd rhwng anghenion cynhalwyr a’r rhai sy’n cael gofal, a sut i ymdrin â rhai o’r materion moesegol a godir gan feddyginiaeth fodern. I ba raddau y dylai’r wlad fod yn gyfrifol am ddarpariaeth lles - yn breswyl neu’n gyffredinol? I ba raddau y mae’r wlad yn lluosogi neu’n creu anghyfartaleddau cymdeithasol?
    or
    SXP-1006: Health & Welfare Issues (20)
    This module will provide an exploration of the ways and means by which welfare is delivered to service users and patients. It will examine personal, social, economic and political aspects of health and social care, and consider some of the moral and philosophical issues raised. The course also traces the development and use of concepts such as social need, health care need, welfare, social justice and equality, citizenship and social exclusion amongst others within the framework of the policy process. Students will consider a series of substantive issues, e.g. the care of older people, child protection, services for people with mental health problems, etc. Students will become familiar with a variety of theoretical perspectives used by the social sciences. They will examine the main institutions of health and welfare, and consider some of the main dilemmas of our age, e.g. how to balance individual and collective responsibilities; how to balance the needs of carers, and those receiving care; and how to address some of the ethical issues raised by modern medicine. To what extent should the state be involved in the provision of welfare - residually or universally? To what extent does the state amplify or produce social inequalities?
  • CXC-1016: Llenyddiaeth Gyfoes (10)
    Mae’r modiwl yn ystyried detholiad o wahanol genres gan dri awdur cyfoes, h.y. dwy nofel a chyfrol o gerddi. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at lyfrau gosod y modiwl: yn achos y tri thestun yn eu tro, cyflwynir cyfres o ddarlithoedd rhagarweiniol cyn rhannu’n ddiweddarach yn grwpiau seminarau a rydd gyfle ichi drafod y testunau ar lafar. Rhoddir deunyddiau sy’n berthnasol i’r modiwl o fewn yr amgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, a geir ar fewnrwyd PCB a bydd disgwyl i chwi lawrlwytho’r deunyddiau hyn drosoch eich hun. Ar Blackboard hefyd y bydd teitlau a llyfryddiaethau y tri thraethawd yn cael eu gosod. Dylech nodi’n ofalus y trefniadau ar gyfer y modiwl hwn a geir isod a chofio bod mynychu’r seminarau yn hanfodol bwysig gan y bydd 25% o’ch marc ar gyfer pob un traethawd yn seiliedig ar eich cyfraniad ynddynt.

Semester 2

  • SCU-1001: Ymchwil Cymdeithasol
    Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwil ar lefel gyffredinol a fydd yn sail i waith mwy ymarferol yn yr ail flwyddyn. Byddwch yn dysgu am seiliau cysyniadol a methodoleg ymchwil yn gyffredinol, a'r dewisiadau sydd ynghlwm wrth ddewis dull ymchwil arbennig. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer sgiliau ar lefel mwy ymarferol ar draws y cwricwlwm ac yn enwedig parthad gwaith Treathawd Hir yn yr ail flwyddyn.
    or
    SXU-1002: Doing Social Research
    The course will cover the following topics: • What is Social Research? • Research design • The importance of ethics in social science research • Quantitative data collection, analysis and presentation (sampling, surveys, interviews, questionnaire research, content analysis and the use of secondary data in social research). • Qualitative data collection, analysis and presentation (ethnographies, qualitative interviews, observational research, focus groups, the uses of documents in social research. • An introduction to multi-method research. • Preparing for your dissertation
  • CXC-1002: Llen y Cyfnod Modern Cynnar (10)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar – cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.
  • SCP-1002: Cyflwyniad i Bolisi Cym (10)
    Mae¿r modiwl hwn yn ystyried beth yw polisi cymdeithasol, ac yn trafod cysyniadau allweddol yn y maes.Cyflwynir ideolegau gwahanol ym maes polisi cymdeithasol, ac ystyrir sut mae polisiau cymdeithasol yn cael eu llunio, gweithredu a'u hariannu.Mae'r modiwl yn edrych ar ddatblygiad polisiau cymdeithasol o ddechrau y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol, a gwneir hynny o fewn cyd-destun gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol.Ystyrier pwy yw'r prif ddarparwyr lles,ac edrychir yn arbennig ar y dimensiwn Cymreig wrth ystyried anghenion,polisiau cymdeithasol a darpariaeth lles yng Nghymru.Rhoddir sylw bras i rôl yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas a pholisiau cymdeithasol.
  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
    or
    SXP-1006: Health & Welfare Issues
    This module will provide an exploration of the ways and means by which welfare is delivered to service users and patients. It will examine personal, social, economic and political aspects of health and social care, and consider some of the moral and philosophical issues raised. The course also traces the development and use of concepts such as social need, health care need, welfare, social justice and equality, citizenship and social exclusion amongst others within the framework of the policy process. Students will consider a series of substantive issues, e.g. the care of older people, child protection, services for people with mental health problems, etc. Students will become familiar with a variety of theoretical perspectives used by the social sciences. They will examine the main institutions of health and welfare, and consider some of the main dilemmas of our age, e.g. how to balance individual and collective responsibilities; how to balance the needs of carers, and those receiving care; and how to address some of the ethical issues raised by modern medicine. To what extent should the state be involved in the provision of welfare - residually or universally? To what extent does the state amplify or produce social inequalities?

Optional Modules

20 credits from:

  • SCY-1003: Sgiliau Craidd yr Heddlu (20) (Semester 2)
    Modiwl arloesol sydd yn rhan o'r fenter newydd a sefydlwyd yn ddiweddar rhwng Heddlu Gogledd Cymru a'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. Bydd y Prif Arolygydd Ray Hughes, Heddlu Gogledd Cymru yn cyfrannu'n helaeth i'r modiwl. Bwriad y modiwl yw eich paratoi ar gyfer lleoliad gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru. Yn hyn o beth trafodir gofynion a disgwyliadau'r lleoliad, ynghyd â chyflwyniad cymdeithasegol o'r heddlu fel sefydliad cenedlaethol ym Mhrydain er mwyn deall y cyd-destun ehangach. Meithrinir yr angen i ddatblygu sgiliau craidd penodol drwy weithdai ymarferol. Mae'r sgiliau craidd yn cynnwys parchu amrywiaeth, gweithio mewn tîm, canolbwyntio ar y gymuned a chwsmeriaid, cyfathrebu'n efeithiol, cymryd cyfrifoldeb personol, datrys problemau a gwytnwch. Pwysleisir yr angen i berthnasu'r sgiliau craidd hyn drwy gwblhau ffurflen gais yn gyntaf ar gyfer ennill eich lleoliad, cwblhau'r system fetio a chyfweliad gyda'r heddlu. Bydd rhaid pasio pob cam o'r broses cyn y gellir ennill lleoliad gyda Heddlue Gogledd Cymru.
  • SCS-1004: Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes (20) (Semester 1)
    Ceir cyflwyniad i'r prif theorïau cymdeithasegol, gan ganolbwyntio ar bersbectifau ffwythiannaeth a theori gwrthdaro. Edrychir ar waith Emile Durkheim a Karl Marx a'u gwaith arloesol mewn ffurfio theorïau cymdeithasegol cynnar. Yna edrychir ar sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes, gan gymhwyso'r theorïau a'r persbectifau at ddadansoddi sefydliadau fel y teulu, addysg, gwaith a dosbarth cymdeithasol.
  • SCY-1004: Cyfl. i Drosedd a Chyfiawnder (20) (Semester 1 + 2)
    Mae'r fodiwl yn eich cyflwyno at faes trosedd a chyfiawnder troseddol. Trafodir theorïau a themau allweddol a ddefnyddir i egluro ymddygiad droseddol sy'n cynnwys esboniadau clasurol i'r rhai mwyaf cyfoes; y mesurau a ddatblygwyd i atal trosedd, ynghyd â gorolwg o'r system gyfiawnder troseddol sy'n cynnwys prif asiantaethau cyfiawnder troseddol, datblygiad hanesyddol, strwythur ac atebolrwydd y system.
    or
    SXY-1007: Intro to Crmnlgy & Crim'l Just (20) (Semester 1 + 2)
    Part One of this module is intended to provide Level One students with a sound understanding of the ways in which in England and Wales, crime comes to the attention of the authorities, how crime is measured and investigated, how accused persons are brought to trial, and those who are convicted are sentenced and punished. This module takes an historical view of criminal law, the police, the criminal courts and the prision system, examining the significant social, economic, and philosophical changes that have helped to shape the modern criminal justice and penal systems. It examines the functions of the criminal justice agencies, explores some of the predominant ideas and theories about how the system operates and raises critical questions about the ways in which criminal justice is done and punishment is delivered. In Part Two the aim is to provide students with a thorough familiarity of major ways of thinking about crime, with reference to some of the main theoretical perspectives within criminology. This module provides an introduction to a range of criminological thought. Theoretical perspectives have been developed in an attempt to explain why people commit crime, and the history of thought on this question will be examined. The module considers the shifting definitions of crime and to offenders. Empirical concerns are likely to include to role of the media in crime construction, the use and abuse of drugs, the experiences of victims of crime and attitudes towards white-collar and organised crime.
  • SCS-1006: Cyflw'd i Gynllunio Ieithyddol (20) (Semester 2)
    Ceir cyflwyniad i faes cyffredinol cynllunio ieithyddol drwy ffocysu’n benodol ar yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Diffinnir a nodir pwrpas maes cynllunio ieithyddol a gosodir cyd-destun cyfreithiol i’r iaith Gymraeg yng Nghymru drwy archwilio i gynnwys Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Cyflwynir yn sylfaenol prif sfferau trosglwyddo iaith yng Nghymru sef y teulu, y gymuned, y system addysg a’r gweithle. Yn ogystal, cyflwynir a chrybwyllir beth yw cynllun iaith a’i phwrpas ym maes cynllunio ieithyddol. Archwilir cysyniadau creiddiol i’r maes megis y berthynas rhwng iaith, diwylliant a hunaniaeth yng Nghymru.
  • Noder: Mae SCY-1003 yn orfodol i ddeiliaid Ysgoloriaethau Heddlu Gogledd Cymru

20 credits from:

  • Myfyrwyr IAITH CYNTAF yn unig
  • CXC-1001: Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer (10) (Semester 2)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Rhoddir y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol. Gwneir hyn drwy gyfres o astudiaethau manwl ar gerddi a darnau rhyddiaith unigol. (Darperir llyfryn gan yr Ysgol yn cynnwys y testunau hyn.) Gweithiau o’r ugeinfed ganrif yw’r mwyafrif o’r darnau a drafodir, ond byddir hefyd yn ymdrin yn feirniadol ag ambell awdl a chywydd o’r Oesoedd Canol, a cherddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrir swyddogaeth beirniadaeth lenyddol mewn gwahanol gyd-destunau – cystadlaethau eisteddfodol a chyfieithu llenyddol, er enghraifft. Er goleuo’r pwnc ymhellach, ymdrinnir â nifer o’r cerddi a’r darnau rhyddiaith Cymraeg ochr yn ochr â gweithiau Saesneg ac enghreifftiau o lenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad).
  • CXD-1013: Theatr Fodern Ewrop (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd, gan ganolbwyntio ar waith dramodwyr fel Ibsen a Strindberg. Bydd ail ran y modiwl yn trafod yr adwaith datblygiad y ddrama fodernaidd, gan ganolbwyntio ar ddramâu Mynegiadol, dramâu Brecht a Theatr yr Abswrd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau.
  • CXD-1016: Sgriptio Teledu (20) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.
  • CXC-1018: Gweithdy Creadigol (20) (Semester 2)
    Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. Defnyddir tri dull dysgu, sef seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Mewn seminarau, trafodir enghreifftiau llwyddiannus o wahanol genres ffuglennol a barddol, dulliau a chonfensiynau llenyddol. Tynnir sylw at amryw fathau o ysgrifennu creadigol a’u cynnig yn ganllawiau i’r rhai sy’n dilyn y modiwl, modelau y gallen nhw eu hefelychu wrth fynd ati i gyfansoddi eu hunain. Mewn gweithdai, gosodir ymarferion penodol i’r myfyrwyr weithio arnynt er mwyn hybu creadigrwydd a datblygu syniadau newydd. Mewn tiwtorialau a gynhelir yn gyson yn ystod y semester, rhoddir adborth i’r ymarferion dosbarth, trafodir syniadau’r myfyriwr unigol ar gyfer ei ffolio, a chynigir sylwadau ar unrhyw waith creadigol sydd ar y gweill.
  • CXC-1019: Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol (10) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.
  • CXC-1030: Gwyddeleg Modern 1 (10) (Semester 1)
    Rhydd y modiwl hwn gyflwyniad ymarferol i’r iaith Wyddeleg Modern, a bydd yn cyflwyno pynciau gramadegol a geirfa sylfaenol fel bod y myfyrwyr yn medru defnyddio’r rhain yn gywir. Yn ystod y gwersi byddir yn rhoi’r pwyslais pennaf (rhyw 2/3 o’r amser) ar feithrin sgiliau llafar. Y tu allan i’r ystafell ddosbarth bydd myfyrwyr yn defnyddio adnoddau cyfrifiadurol yn ogystal â’r cwrs lyfrau i ymarfer yr iaith a dysgu geirfa. O bryd i’w gilydd bydd y gwersi yn cynnwys sgyrsiau yn y Gymraeg er mwyn cyflwyno’r cyd-destun hanesyddol a diwylliannol na cheir yn y deunydd craidd (e.e. ieithyddiaeth, hanes, diwylliant, llenyddiaeth).
  • CXC-1031: Gwyddeleg Modern 2 (10) (Semester 2)
    Bydd y modiwl hwn yn parhau â’r cyflwyniad ymarferol i’r iaith Wyddeleg Modern a ddechreuwyd yn ‘Gwyddeleg Modern 1’, a bydd yn cyflwyno pynciau gramadegol a geirfa canolig fel bod y myfyrwyr yn medru defnyddio’r rhain yn gywir. Yn ystod y gwersi byddir yn rhoi’r pwyslais pennaf (rhyw 2/3 o’r amser) ar feithrin sgiliau llafar, a bydd y myfyrwyr yn paratoi yn fanwl cyn y seminarau, er mwyn medru defnyddio’r amser yn ymarferol. Y tu allan i’r ystafell ddosbarth bydd myfyrwyr yn defnyddio adnoddau cyfrifiadurol, yn ogystal â’r cwrs lyfrau i ymarfer yr iaith a dysgu geirfa. O bryd i’w gilydd bydd y gwersi yn cynnwys sgyrsiau yn y Gymraeg er mwyn cyflwyno elfennau o’r cyd-destun hanesyddol a diwylliannol na cheir yn y deunydd craidd (e.e. ieithyddiaeth, hanes, diwylliant, llenyddiaeth).
  • Myfyrwyr IAITH CYNTAFyn unig

Year 2 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • SCP-2001: Gwasanaethu Cymdeithasol (20)
    Mae'r modiwl yma yn olrhain datblygiad y Gwasanaethau Cymdeithasol Personol yng Nghymru a Lloegr. Ystyrir pwysigrwydd gwerthoedd ym maes gwaith a gofal cymdeithasol ac yn arbennig y pwyslais ar ymarfer gwrth wahaniaethol a gwrthormesol. Ceir cyfle i gyfarwyddo gyda'r fframwaith cymdeithasol cyfoes ac i ymdrin ag anghenion cymdeithasol personol grwpiau amrywiol megis plant a'u teuluoedd pobl hyn, pobl ag anableddau, a phobl sy'n profi afiechyd meddwl. Mae'r modiwl yn archwilio sut y ceisir diwallu'r anghenion cymdeithasol drwy weithredu polisiau megis 'Gofal yn y Gymuned' a datblygu 'Economi Lles Cymysg'. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ddyfodol y Gwasanaethau Cymdeithasol Personolyng ngoleuni polisiau cyfredol y llywodraeth.
  • SCU-2001: Dulliau Ymchwil (20)
    Edrychir ar seiliau athronyddol ymchwil gymdeithasol, a'r gwahanol ddulliau sy'n deillio ohonynt. Trwy ddefnyddio'r syniad o'r 'Broses Ymchwil Ddelfrydol', gwelir sut mae angen datblygu bob cam o ymchwil maes mewn modd disgybledig a gofalus, er mwyn sicrhau dilysrwydd a dibynadwyedd. Ystytir sut i weithrediadu cysyniadau, adolygu'r lenyddiaeth berthnasol, ffurfio'r broblem i'w hastudio, diffinio'r newidynnau, creu damcaniaeth, dethol dulliau addas, samplo, a chreu offeryn ymchwil (holiadur/atodlen gyfweld).
    or
    SXU-2001: Methods of Social Research (20)
    This module is an introduction to social research. Primarily it is a practical course in the practices of research in social science. Covering the main elements of research design, question formulation, data collection and analysis it informs students of good practice in the area of survey design, cases studies and evaluation methods.
  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu (20)
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.

Semester 2

or
SXU-2001: Methods of Social Research
This module is an introduction to social research. Primarily it is a practical course in the practices of research in social science. Covering the main elements of research design, question formulation, data collection and analysis it informs students of good practice in the area of survey design, cases studies and evaluation methods.
  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.
  • Mae SCY2004 yn orfodol i ddeiliaid Ysgoloriaethau Heddlu Gogledd Cymru
  • Optional Modules

    0 to 20 credits from:

    • SCS-2007: Theori Gymdeithasegol (20) (Semester 2)
      Ceir cyflwyniad i wreiddiau theori gymdeithasegol glasurol, gan gychwyn gydag ystyriaeth o syniadau meddylwyr yr Aroleuad a sut maent yn parhau'n ddylanwadol hyd heddiw. Ystyrir yn arbennig gyfraniad Emile Durkheim a Karl Marx at ddatblygiad theori gymdeithasegol. Ystyrir eu cyfraniad at ein dealltwriaeth o dwf cyfalafiaeth, theori gwrthdaro, biwrocratiaeth, ffwythiannaeth, a rheolaeth gymdeithasol. Yna edrychir ar gorff o waith sy'n feirniadol o theori glasurol, sef theori ffeministiaeth. Gwelir sut mae syniadaeth yn y maes hwn wedi datblygu'n hanesyddol hyd at y sefyllfa gyfoes. Mae theori ffemiistiaeth yn cynnwys ystod eang o safbwyntiau gwleidyddol ac athronyddol, o ffeministiaeth ryddfrydol sy'n canolbwyntio ar greu newid yn amodau byw'r ferch unigol, hyd at y ffeminstiaid radical sydd am weld y sefyllfa gymdeithasol bresennol yn cael ei gwyrdroi'n llwyr. Maes astudiaeth ffeministiaid Marcsaidd-sosialaidd yw cyfalafiaeth a phatriarchaeth, ac ystyrir beirniadaeth y ffeministiaid hyn ar theori gymdeithasegol glasurol.
    • SCS-2011: Cymdeithaseg Iechyd (20) (Semester 2) or
      SXS-2009: Sociology of Health (20) (Semester 2)
      This module will introduce students to the main sociological perspectives on health and medicine, and will explore current debates concerning the nature and role of biomedicine. Lay experiences and health beliefs will be studied, and lay/professional interactions explored. The role of the professions, and changing power relationships within the health services will be put under scrutiny. The medicalization of birth, death and society will be considered. Students will evaluate the changing profile of health and illness in contemporary society, and consider the experience of chronic illness and disability. The social patterning of health according to class, gender and ethnicity will be analyzed, and competing explanations considered. Geographic inequalities in health status will be explored as well as social differences relating to age and the life course.
    • SCS-2018: Cymdeithaseg Iaith (20) (Semester 2)
      Ymdrinia’r modiwl hwn â’r mudiad iaith fel symudiad cymdeithasol newydd gan olrhain hanes a chymdeithaseg ymgyrchoedd iaith yng Nghymru a chanolbwyntio ar rôl a dylanwad canu protest yng Nghymru a thu hwnt. Yn ogystal, ffocws amlwg i’r modiwl hwn yw cynnig trosolwg effeithiol o ddatblygiadau polisi iaith a chynllunio ieithyddol yng Nghymru o safbwynt hanesyddol, beirniadol a damcaniaethol. Cyflwynir cerrig milltir deddfwriaethol nodweddiadol y maes. Ymhellach, cynigir y modiwl hwn cyd-destun Ewropeaidd perthnasol sy’n darparu trosolwg cychwynnol o sefydliadau a deddfwriaethau allweddol i faes cynllunio ieithyddol. Yna, yr ymdreiddir i feysydd allweddol i faes polisi a chynllunio ieithyddol yng Nghymru sef meysydd addysg cyfrwng Cymraeg, iechyd yng Nghymru a’r trydydd sector yng Nghymru yn benodol er mwyn asesu eu cyfraniad i ddatblygiadau cymdeithaseg iaith yn y Gymru gyfoes.
    • SCP-2040: Safbwyntiau GC (20) (Semester 2)
      1. What is Social Work? Describing and defining Social Work. 2. You and Social Work. What do Social Workers do and where do they work? 3. Values and Ethics for Social Work. Codes of Practice for Social Work Practice. 4. The Legal and Organisational context in which the Social Work process occurs. 5. Research and service user and carer experiences – analysing serious case reviews in social work and how they inform current social work practice. 6. Anti -oppressive practice. Identity and understanding oppression and the many faces of oppression in society. 7. Social work process: Assessment: Theories and Models (Questioning model, Procedural model, Exchange model and Narrative) Assessment of Risk and Need; Assessment and Oppression; Multi-disciplinary assessment. 8. Social Work process: Systems Theory as an underpinning approach to social work interventions; User participation; Theories of Empowerment; Advocacy, Negotiation and Partnership. 9. Social Work processes: Communication- Interviewing skills and structure; Questioning; Responding; Barriers; Using interpreters; Interviewing children. 10. Social Work processes: Reflective practice; Review stages in social work; Endings.

    40 credits from:

    • CXD-2018: Y Sgrin Fach Gymraeg (20) (Semester 2)
      Yn y modiwl hwn astudir nodweddion y gyfres ddrama a’r ddrama gyfres fel cyfryngau dramatig ac olrheinir datblygiad y cyfryngau yng Nghymru rhwng diwedd y 1970au a’r cyfnod presennol. Canolbwyntir ar ddadansoddi themâu a chynnwys gan archwilio’r berthynas rhwng cymeriadau a’r modd y caiff Cymru (a’r gwahanol ardaloedd o fewn y wlad) a’i phobl eu portreadu ar y sgrin deledu Gymraeg. Astudir y technegau a ddefnyddir mewn cyfresi drama a dramâu cyfres i ddenu gwylwyr a chyfleu tensiwn. Canolbwyntir ar drawstoriad eang o weithiau o wahanol gyfnodau gan gynnwys gweithiau gan ddramodwyr megis Meic Povey a Siwan Jones. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a 3. Bydd y cynnwys yr un fath ond bydd natur y tasgau’n wahanol.
    • CXD-2024: Y Theatr Gymraeg Fodern (20) (Semester 1)
      Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.
    • CXC-2026: Llên a Chymdeithas 1546 - 1659 (20) (Semester 2)
      Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad manwl i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaih datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, llawysgrif a llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i'r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymru. Trwy drafod Dyneiddiaeth, Protestaniaeth, Methodistiaeth a Chlasuriaeth ceir archwilio'r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol.
    • CXC-2033: Datblygiad yr Iaith (20) (Semester 2)
      Bydd tair rhan i'r cwrs: Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith. Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern. Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith.
    • CXC-2102: Beirdd yr Uchelwyr (20) (Semester 1)
      Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o waith y Cywyddwyr, gyda’r rhan fwyaf o’r cerddi yn deillio o’r bymthegfed ganrif. Yn dilyn amlinelliad o gefndir diwylliannol a hanesyddol y canu, eir ati i ddarllen detholiad o gerddi a fydd yn engreifftio’r prif genres, sef mawl, marwnad, gofyn, serch, crefydd, brud a dychan.
    • CXC-2118: Gweithdy Barddoniaeth (20) (Semester 2)
      Fel Ysgrifennu Rhyddiaith (lefel 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (lefel 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw I’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema I’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a’r hen bennill; vers libre; y delyneg a’r villanelle; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a lefel 3; bydd y cynnwys yr un fath I’r ddwy lefel ond bydd natur y cwestiwn traethawd yn wahanol.
    • CXC-2202: Athroniaeth a Llenyddiaeth (20) (Semester 1)
      Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir (y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth). Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth (e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd). Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.

    Year 3 Modules

    Compulsory Modules

    Semester 1

    • SCU-3001: Methodoleg Ymchwil (20)
      Yn y modiwl hwn, parheir i ddatblygu'r sgiliau ymchwil a ddysgwyd ar lefel 2. Rhoddir hyfforddiant benodol ar ddefnyddio cyfrifiaduron in gynhyrchu data meintiol. Ystyrir hefyd sut i gyflwyno ffrwyth ymchwil maes ar ffurf ddarllenadwy a chymen mewn adroddiad ymchwil.
    • SCH-3025: Llywodraethiant: Iechyd a Lles (20)
      Bydd y modiwl hwn yn amlygu damcaniaethau sylfaenol ynghylch rheolaeth a rheoleiddio ym meysydd iechyd a lles. Bydd yn ystyried priod rol llywodraethau o ran rheolaeth dros y sectorau hyn ac yn ystyried perthynas llywodraeth a’r sector breifat y trydydd sector a chymdeithas sifil. Bydd felly yn gosod seiliau ddealltwriaeth cymdeithasegol o fodelau llywodraethiant. Bydd yn olrhain datblygiad amrywiol llywodraethiant ar draws gwledydd a gwladwriaethau gwahanol ac yn cyflwyno darlun manwl o systemau penderfynnu, craffu a monitro polisi iechyd a lles yng Nghymru a Lloegr.

    Optional Modules

    20 credits from:

    • SCY-3004: Yr Heddlu a Chymdeithas Gyfoes (20) (Semester 1)
      Amcan pennaf y fodiwl yw trafod ein dealltwriaeth o'r heddlu, ac yn ehangach, eu swyddogaeth mewn cymdeithas gyfoes. Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r heddlu fel sefydliad wedi profi newid sylweddol a bydd y pwysau gan y Llywodraeth am ddiwygiadau pellach yn parhau. Ystyriwn polisiau ac ymarfer gwaith cyfoes yr heddlu a'r fframwaith statudol y maent yn gweithredu. Trafodir y newid yng nghyd-destun polisi cyfiawnder troseddol:- eu prif swyddogaethau; yr heddlu a'r cyfryngau; atal trosedd a gweithio mewn partneriaeth; datblygiadau mewn polisi cyffuriau; yr heddlu; trefn gyhoeddus ac iawnderau dynol; asesu cyfrifoldeb, ansawdd a pherfformiad; cyfle cyfartal a rheoli i'r dyfodol.
    • SCH-3010: Y Corff Caeth (20) (Semester 2)
      • Dehongliad Cymdeithasol y Corff • Y Corff a'r Synhwyrau: Profiadau bywyd a sgema'r corff • Camddefnyddio Sylweddau a'r Hunaniaeth a Ddifethwyd • Seiocodeinameg Caethiwed • Caethiwed ac Adferiad: Cysyniadau a Dulliau • Deinameg Gymdeithasol ac Ymddygiadau Cysylltiedig • Stigma, Hunaniaeth a Labelu • Habitus, Cyfalaf Cymdeithasol ac Anomie • Llywodraetholdeb a Bio-bŵer • Meddyginiaethu a Rheolaeth • Rheoleiddio Cymdeithasol: Disgyblaeth, Cosb neu Ailsefydlu?
    • SCS-3010: Hawliau Ieithyddol (20) (Semester 2)
      Ceir ymdriniaeth drylwyr o faes hawliau ieithyddol yn ystod y modiwl hon. Mae'n cynnwys ymdrin â'r ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a gosod yr hawliau hyn o fewn fframwaith polisi hanesyddol y maes ac yn ogystal o fewn cyd-destun ehangach hawliau lleiafrifol. Mae'r modiwl yn pwyso a mesur hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a'r damcaniaethau allweddol sydd ynghlwm wrthynt. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys trafodaeth ynglyn â sicrhau hawliau ieithyddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac yn ogystal, yn tynnu ar ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd yn y maes.

    60 credits from:

    • CXC-3002: Beirdd yr Uchelwyr (20) (Semester 1)
      Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o waith y Cywyddwyr, gyda’r rhan fwyaf o’r cerddi yn deillio o’r bymthegfed ganrif. Yn dilyn amlinelliad o gefndir diwylliannol a hanesyddol y canu, eir ati i ddarllen detholiad o gerddi a fydd yn engreifftio’r prif genres, sef mawl, marwnad, gofyn, serch, crefydd, brud a dychan.
    • CXC-3009: Traethawd Estynedig (20) (Semester 1 + 2)
      Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasg ragarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.
    • CXC-3016: Medrau Cyfieithu (20) (Semester 1)
      Bydd y modiwl yn rhoi hyfforddiant i gyfieithu gwahanol fathau o destunau, yn bennaf o’r Saesneg i’r Gymraeg. Canolbwyntir ar gyfieithu darnau o ryddiaith ffeithiol: rhestrau o gyfarwyddiadau, erthyglau papur newydd, cofnodion cyfarfodydd ac ati. Rhoddir sylw arbennig i gyfieithu dogfennau swyddogol o bob math, gan roi sylw i ofynion proffesiynol y grefft.
    • CXC-3018: Gweithdy Barddoniaeth (20) (Semester 2)
      Fel Ysgrifennu Rhyddiaith (lefel 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (lefel 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw I’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema I’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a’r hen bennill; vers libre; y delyneg a’r villanelle; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi.
    • CXD-3024: Y Theatr Gymraeg Fodern (20) (Semester 1)
      Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.
    • CXC-3026: Llên a Chymdeithas 1546 - 1659 (20) (Semester 2)
      Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaith datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, y llawysgrif a’r llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i’r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymry. Trwy drafod mudiadau megis Dyneiddiaeth a Phrotestaniaeth ceir archwilio’r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol, gan gynnwys Morgan Llwyd ac Ellis Wynne.
    • CXC-3033: Datblygiad yr Iaith (20) (Semester 2)
      Bydd tair rhan i'r cwrs: Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith. Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern. Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith. Bydd y modiwl hwn yn olrhain amryfal agweddau ar hanes y Gymraeg o’i chyfnodau cynharaf hyd at ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod ail hanner yr 20g. Cyflwynir y myfyrwyr i’r ymchwil diweddaraf sy’n ymwneud â datblygiad y Gymraeg yn y cyfnod ôl-Rufeinig a;i pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd; trafodir hefyd y ffynonellau cynharaf sy’n tystio i fodolaeth yr iaith. Cynigir arolwg o’r berthynas rhwng tafodieithoedd y Gymraeg a’i chyweiriau ysgrifenedig, ac anelir hefyd at amlinellu’r grymoedd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd a bennodd hynt y Gymraeg, yn enwedig o’r 16g hyd at y presennol.
    • CXD-3118: Y Sgrin Fach Gymraeg (20) (Semester 2)
      Yn y modiwl hwn astudir nodweddion y gyfres ddrama a’r ddrama gyfres fel cyfryngau dramatig ac olrheinir datblygiad y cyfryngau yng Nghymru rhwng diwedd y 1970au a’r cyfnod presennol. Canolbwyntir ar ddadansoddi themâu a chynnwys gan archwilio’r berthynas rhwng cymeriadau a’r modd y caiff Cymru (a’r gwahanol ardaloedd o fewn y wlad) a’i phobl eu portreadu ar y sgrin deledu Gymraeg. Astudir y technegau a ddefnyddir mewn cyfresi drama a dramâu cyfres i ddenu gwylwyr a chyfleu tensiwn. Canolbwyntir ar drawstoriad eang o weithiau o wahanol gyfnodau gan gynnwys gweithiau gan ddramodwyr megis Meic Povey a Siwan Jones. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a 3. Bydd y cynnwys yr un fath ond bydd natur y tasgau’n wahanol.
    • CXC-3202: Athroniaeth a Llenyddiaeth (20) (Semester 1)
      Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir: y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth. Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth: e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd. Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.