Modules for course QVM2 | BA/WHW
BA Welsh History/Cymraeg

These are the modules currently offered on this course in the 2018–19 academic year.

You can also view the modules offered in the years: 2017–18; 2019–20.

Find out more about studying and applying for this degree.

Use the buttons after the module titles (where available) to see a brief description of the content, or:
Show all descriptions
Hide all descriptions

Year 1 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • CXC-1002: Llen y Cyfnod Modern Cynnar (10)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar – cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.
  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg (20)
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • HXC-1007: Cymru: Tywysogion i Duduriaid (20)
    Oes Owain Gwynedd a'r Arglwydd Rhys; Gerallt Gymro; Llywelyn ap Iorwerth (m. 1240) a'i feibion; Penarglwyddiaeth a chwymp Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (m. 1282); barddoniaeth a hanes yn yr Oesoedd Canol; dyheadau gwleidyddol Cymreig yn y bedwaredd ganrif ar ddeg; mudiad Glyndwr; Brutus, 1485 a'r traddodiad proffwydol; Cymru a'r Diwygiad Protestannaidd; Cymru a'r Dadeni; Cymru a gwleidyddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg - y Deddfau Uno.
    or
    HXW-1007: Wales: Princes to Tudors (20)
    Wales in the age of Owain Gwynedd and Lord Rhys; Gerald of Wales; rise of Llywelyn ap Iorwerth in Gwynedd and over much of the rest of Wales; the reign of Dafydd ap Llywelyn and succession to Gwynedd; the hegemony and downfall of Llywelyn ap Gruffudd, prince of Wales; poetry and history writing in medieval Wales; Welsh political aspirations in l4th century; Owain Glyndŵr and his movement; Brutus, 1485 and political prophecy; Wales and the Reformation; Wales and the Renaissance; Wales and 16th-century politics – the Acts of Union.
  • HCC-1050: Dechrau o'r Dechrau (20)
    1. Rhagarweiniad: O'r Gorffennol i'r Presennol: Rhai syniadau ar sut i wneud y defnydd gorau o'ch sgiliau presennol wrth i chi symud ymlaen i astudio ar lefel prifysgol. Dysgu rhai o egwyddorion sylfaenol astudio Hanes ac/neu Archaeoleg ym Mangor. 2. Sgiliau llyfrgell a defnyddio'r we yn ddeallus: Edrych ar yr hyn y dylech ei ddisgwyl yn llyfrgell y brifysgol, sut i ddefnyddio rhestrau darllen, faint i'w ddarllen a beth i'w wneud gyda'r holl adnoddau electroneg hynny sydd ar gael i chi. 3. O anrhefn i drefn: rhoi trefn ar bethau a chymryd nodiadau. Sut i gynllunio a threfnu eich gwaith, a sut i wneud penderfyniadau doeth wrth gymryd nodiadau o lyfrau, erthyglau a darlithoedd. 4. Osgoi llên-ladrad: Dysgu sut mae torri a phastio deunydd o'r we yn ffordd wael iawn o weithio a pham mae camymddwyn academaidd yn cael ei drin fel mater difrifol iawn. Dysgu'n ogystal sut i osgoi hyn drwy gyfeirnodi effeithiol, h.y. defnyddio tystiolaeth, troednodiadau a llunio llyfryddiaethau cadarn. 5. Traethodau a gwneud argraff (ramadegol) dda: Deall beth yn union mae cwestiwn y traethawd eisiau i chi ei wneud, sut i drefnu eich gwaith a sut i ddatblygu dadl. Cael golwg ar rai camgymeriadau cyffredin mewn traethodau Hanes ac Archaeoleg a gweld pam fod sillafu da ac atalnodi yn allweddol. 6. Hanesyddiaeth: Sut i wneud synnwyr o'r holl academyddion hyn yn dweud pethau gwahanol ac anghytuno â'i gilydd. Beth yw'r gwahaniaethau (a'r tebygrwydd) rhwng hanes 'academaidd' a 'phoblogaidd'? 7. Dadansoddi a meddwl yn feirniadol: Neu, sut i fynd ymhellach na dim ond disgrifio'r gorffennol. Deall beth mae eich tiwtor yn ei olygu pan fydd yn dweud wrthych am fod yn fwy beirniadol. 8. Cyfle i ddweud eich dweud: cyfathrebu medrus: Deall pam mae'n bwysig i chi gyfathrebu eich syniadau'n glir, a sut y gellwch baratoi'n effeithiol at gyflwyniadau. 9. Dogfennau a ffynonellau: Dysgu sut mae haneswyr yn defnyddio gwahanol fathau o ddogfennau ac arteffactau ac edrych sut y gellwch eu dadansoddi eich hun. 10. Adborth (sylwadau) pellgyrhaeddol: Beth yw diben adborth (sylwadau ar eich gwaith), a sut y caiff mathau gwahanol o aseiniadau eu marcio? Dysgu bod angen i chi edrych y tu hwnt i'ch marc i wella eich gwaith. 11. Sut i weithredu mewn arholiadau: Sut i beidio â chynhyrfu a gwneud yn dda mewn arholiadau, a gweld beth yn union mae cwestiynau arholiad yn gofyn i chi ei wneud.
    or
    HCH-1050: The Past Unwrapped (20)
    1. Introduction: From Past to Present: Some ideas on how to make the best of your existing skills as you move to university-level study. Learn some of the basics of studying History and/or Archaeology at Bangor. 2. Library skills and making intelligent use of the web: Looking at what to expect in the university library, how to use reading lists, how much to read and what to do with all those electronic resources at your disposal. 3. From chaos to order: organisation and note-taking. How to plan and organise your work, and how to make wise decisions when taking notes from books, articles and lectures. 4. Avoiding plagiarism: Learn why cutting and pasting from the web is bad practice, and why academic misconduct is treated very seriously. Learn as well how to avoid this by referencing effectively i.e. using evidence, footnotes and compiling solid bibliographies. 5. Essays and making a good (grammatical) impression: Understand what the essay question actually wants you to do, how to structure your work, and how to develop an argument. Gain insight into some of the common errors in History and Archaeology essays, and see why good spelling and punctuation are crucial. 6. Historiography: How to make sense of all these academics saying different things and disagreeing with each other. What are the differences (and similarities) between ‘academic’ and ‘popular’ history? 7. Analysis and critical thinking: Or, how to move beyond just describing the past. Understand what your tutor means by telling you to be more critical. 8. Make your voice heard: competent communication: Understand why it’s important for you to communicate your ideas clearly, and how you can prepare effectively for presentations. 9. Documents and sources: Learn how historians use different types of documents and artefacts, and explore how you can analyse them yourself. 10. Far-reaching feedback: What is the purpose of feedback, and how are different types of assignments marked? Learn that you need to look beyond your mark to improve your work. 11. Exam technique: How to keep it together in exams, and how to deduce what exam questions actually want you to do.

Semester 2

  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • HXC-1006: Cymru yn y Byd Modern (20)
    Wythnos 1: Darlith: Deall Cymru fodern ac amcanion y modiwl Dim seminar Wythnos 2: Darlith: Meithrin Cymru fodern (i): Diwydiant ac economi Seminar: Siartiaeth a Beca Wythnos 3: Darlith: Meithrin Cymru fodern (ii): Trosedd, cosb a moesoldeb Seminar: Y Gymru fywgraffiadol: David Lloyd George fel astudiaeth achos Wythnos 4: Darlith: Themâu (i): Mewnfudo ac allfudo Seminar: Mewnfudo Wythnos 5: Darlith: Themâu (ii): Iaith, addysg a chrefydd yn y 19eg ganrif Seminar: Cenedlaetholdeb, Tynged yr Iaith Wythnos 6: Darlith: Themâu (iii): Effaith y ddau ryfel byd Seminar: Y Gymru Lafurol Gweithdy: Eidalwyr yng Nghymru Wythnos 7: WYTHNOS DDARLLEN Wythnos 8: Darlith: Themâu (iv): Merched a llunio Cymru fodern Seminar: Cerddoriaeth boblogaidd Wythnos 9: Darlith: Themâu (v): Diwylliant poblogaidd a newid cymdeithasol Seminar: Merched mewn llenyddiaeth Gymreig Wythnos 10: Darlith: Themâu (vi): Chwaraeon a hunaniaeth Seminar: Hunaniaeth Wythnos 11: Darlith: Materion (i): Y frwydr am hunan-reolaeth Seminar: Y Cwestiwn Cenedlaethol Wythnos 12: Darlith: Materion (ii): Creu Cymru newydd? Seminar: Sesiwn adolygu
    or
    HXW-1010: Wales since 1789 (20)
  • CXC-1016: Llenyddiaeth Gyfoes (10)
    Mae’r modiwl yn ystyried detholiad o wahanol genres gan dri awdur cyfoes, h.y. dwy nofel a chyfrol o gerddi. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at lyfrau gosod y modiwl: yn achos y tri thestun yn eu tro, cyflwynir cyfres o ddarlithoedd rhagarweiniol cyn rhannu’n ddiweddarach yn grwpiau seminarau a rydd gyfle ichi drafod y testunau ar lafar. Rhoddir deunyddiau sy’n berthnasol i’r modiwl o fewn yr amgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, a geir ar fewnrwyd PCB a bydd disgwyl i chwi lawrlwytho’r deunyddiau hyn drosoch eich hun. Ar Blackboard hefyd y bydd teitlau a llyfryddiaethau y tri thraethawd yn cael eu gosod. Dylech nodi’n ofalus y trefniadau ar gyfer y modiwl hwn a geir isod a chofio bod mynychu’r seminarau yn hanfodol bwysig gan y bydd 25% o’ch marc ar gyfer pob un traethawd yn seiliedig ar eich cyfraniad ynddynt.

Optional Modules

20 credits from:

  • Myfyrwyr IAITH CYNTAF yn unig
  • CXC-1001: Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer (10) (Semester 2)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Rhoddir y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol. Gwneir hyn drwy gyfres o astudiaethau manwl ar gerddi a darnau rhyddiaith unigol. (Darperir llyfryn gan yr Ysgol yn cynnwys y testunau hyn.) Gweithiau o’r ugeinfed ganrif yw’r mwyafrif o’r darnau a drafodir, ond byddir hefyd yn ymdrin yn feirniadol ag ambell awdl a chywydd o’r Oesoedd Canol, a cherddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrir swyddogaeth beirniadaeth lenyddol mewn gwahanol gyd-destunau – cystadlaethau eisteddfodol a chyfieithu llenyddol, er enghraifft. Er goleuo’r pwnc ymhellach, ymdrinnir â nifer o’r cerddi a’r darnau rhyddiaith Cymraeg ochr yn ochr â gweithiau Saesneg ac enghreifftiau o lenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad).
  • CXD-1013: Theatr Fodern Ewrop (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd, gan ganolbwyntio ar waith dramodwyr fel Ibsen a Strindberg. Bydd ail ran y modiwl yn trafod yr adwaith datblygiad y ddrama fodernaidd, gan ganolbwyntio ar ddramâu Mynegiadol, dramâu Brecht a Theatr yr Abswrd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau.
  • CXD-1016: Sgriptio Teledu (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.
  • CXC-1018: Gweithdy Creadigol (20) (Semester 2)
    Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. Defnyddir tri dull dysgu, sef seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Mewn seminarau, trafodir enghreifftiau llwyddiannus o wahanol genres ffuglennol a barddol, dulliau a chonfensiynau llenyddol. Tynnir sylw at amryw fathau o ysgrifennu creadigol a’u cynnig yn ganllawiau i’r rhai sy’n dilyn y modiwl, modelau y gallen nhw eu hefelychu wrth fynd ati i gyfansoddi eu hunain. Mewn gweithdai, gosodir ymarferion penodol i’r myfyrwyr weithio arnynt er mwyn hybu creadigrwydd a datblygu syniadau newydd. Mewn tiwtorialau a gynhelir yn gyson yn ystod y semester, rhoddir adborth i’r ymarferion dosbarth, trafodir syniadau’r myfyriwr unigol ar gyfer ei ffolio, a chynigir sylwadau ar unrhyw waith creadigol sydd ar y gweill.
  • CXC-1019: Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol (10) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.
  • CXC-1030: Gwyddeleg Modern 1 (10) (Semester 1)
    Rhydd y modiwl hwn gyflwyniad ymarferol i’r iaith Wyddeleg Modern, a bydd yn cyflwyno pynciau gramadegol a geirfa sylfaenol fel bod y myfyrwyr yn medru defnyddio’r rhain yn gywir. Yn ystod y gwersi byddir yn rhoi’r pwyslais pennaf (rhyw 2/3 o’r amser) ar feithrin sgiliau llafar. Y tu allan i’r ystafell ddosbarth bydd myfyrwyr yn defnyddio adnoddau cyfrifiadurol yn ogystal â’r cwrs lyfrau i ymarfer yr iaith a dysgu geirfa. O bryd i’w gilydd bydd y gwersi yn cynnwys sgyrsiau yn y Gymraeg er mwyn cyflwyno’r cyd-destun hanesyddol a diwylliannol na cheir yn y deunydd craidd (e.e. ieithyddiaeth, hanes, diwylliant, llenyddiaeth).
  • Myfyrwyr IAITH CYNTAF yn unig

Year 2 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu (20)
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.
  • HGW-2008: The Heroic Age (20)

Semester 2

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.
  • HTW-2133: Global Wales (20)

Optional Modules

20 credits from:

  • HCG-2011: Dehongli'r Gorffennol (20) (Semester 1)
    Er y byddir yn rhoi peth sylw i rai o haneswyr mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg – fel Ranke, Macaulay a Marx – bydd pwyslais y cwrs ar hanesyddiaeth yr ugeinfed ganrif. Canolbwyntir gan hynny ar feddylwyr a thueddiadau allweddol ym maes hanesyddiaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf gan astudio enghreifftiau penodol o gynnyrch y meddylwyr a’r ysgolion dan sylw. Ymysg y pynciau a astudir bydd Ysgol yr Annales, Hanesyddiaeth Farcsaidd, Hanes Merched, Hanes Llafar, a her syniadaeth ôl-strwythurol ac ôl-fodern. Neulltuir yn ogystal ddwy ddarlith i drafod agweddau ar Hanesyddiaeth Cymru yn y cyfnod diweddar.
    or
    HCH-2050: Debating History (20) (Semester 1)
    The first part of the course is concerned with the use of the past made by historians and commentators such as politicians, the way traditions are invented (and destroyed), and introduces the different historiographical schools. The second part covers some historiographical (ie. concerned with the art of writing history) issues with emphasis on the various ideas about the study and writing of history which have developed over the last two centuries and which students need to understand in order to engage confidently with the different approaches which professional historians take to their work. This is taught through a case-study approach where students can apply the different approaches studied in the first part of the course to specific controversial historical subjects. The course will cover the following topics: Whig and Tory history, Ranke, the professionalisation of the study of history, nations, empire, structuralism, post-structuralism, revisionism, counter-factual history, case studies may change from year to year but will include topics such as The Peasants’ Revolt, The English civil war, the outbreak of world war one; suffrage, consumerism, the Welsh in history, the Reformation. American Civil war, Cold War; Oral history; National identity.
  • HWC-2070: Modiwl Gweithle Hanes Cymru S1 (20) (Semester 1)
    Fel rheol, mae myfyrwyr yn treulio un diwrnod yr wythnos yn ystod y semester priodol, sef cyfanswm o 70 awr, yn gweithio mewn archifdy, uned archeolegol neu amgueddfa yn cyflawni tasgau penodol, rhai ymarferol yn ogystal â rhai academaidd, a neilltuir iddynt gan y swyddog(ion) â gofal. Mae’r tasgau hyn yn cynnwys llunio stocrestrau, casglu tystiolaeth maes, llunio catalogau o lawysgrifau arwahanol neu gasgliadau o arteffactau. Bydd angen iddynt ddelio ag ymholiadau'r cyhoedd hefyd ar adegau. Ar hyn o bryd, mae gan yr Adran gytundebau gyda'r rhan fwyaf o swyddfeydd cofnodion archifau gogledd Cymru (yn arbennig yng Nghaernarfon a Llangefni), gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Oriel Bangor, Oriel Môn yn Llangefni a’r Amgueddfa Gatrodol yng Nghaernarfon. Gallai cyrsiau hyfforddiant sydd wedi eu cymeradwyo mewn cloddio hefyd fod yn gymwys os ydynt yn ddigon hir a thrylwyr ac yn cydymffurfio a Chanllawiau’r Cwrs. Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol hefyd fod goblygiadau iechyd a diogelwch ynghlwm wrth yr holl leoliadau.
    or
    HWW-2070: Welsh History Workplace S1 (20) (Semester 1)
    The student normally spends one day a week during the appropriate semester, and in total about 70 hours, working in an archives office, an archaeological unit or a museum service undertaking specific tasks of a practical as well as an academic nature as given them by the officer(s) in charge. These typically include drawing up inventories, collating field evidence, drawing up catalogues of discrete manuscript or artefact collections, as well as at times dealing with public enquiries. Currently the Department has agreements with most of the archive record offices in north Wales, but especially at Caernarfon and Llangefni, with the Gwynedd Archaeological Trust, with Oriel Bangor and Oriel Môn at Llangefni and the regimental Museum at Caernarfon. Approved excavation training courses may qualify if of sufficient duration and rigour and conform to the Course Guidelines. Students should also be aware that there are health and safety implications to all placements.
  • HWC-2071: Modiwl Gweithle Hanes Cymru S2 (20) (Semester 2) or
    HWW-2071: Welsh History Workplace S2 (20) (Semester 2)
  • HTA-2103: Early Medieval Ireland (20) (Semester 1)
    This course will discuss the major types of archaeological evidence for early medieval Ireland c. AD 400-1150. It will consider the major types of settlement- ringfort, crannog, unencllosed settlement, ecclestiastical sites, Viking towns- their origins, chronology, layout and functions using specific examples. It will then review the different types of evidence for the farming economy and consider their significance; the evidence of artefact production; trade and exchange and the development of the ealy medieval Irish economy from a society primarily concerned with patronage, gift giving, reciprocity and luxury trade to a limited urban economy using coin and silver.
  • HTH-2110: The Guardians of Heritage (20) (Semester 1)
    This course will examine the agencies which protect our heritage, for example English Heritage, the National Trust, and Cadw and, where applicable, parallel agencies abroad. It will examine the protection of sites and landscapes, historic buildings and objects: legislation and its effectiveness and look at key debates and case-studies. * The Guardians of Heritage: national and international * Protection and curation: law, theory and practice * will the taxpayer foot the bill? Who pays for Heritage? * Selling heritage? Marketing: public and private * Sites and landscaped: who protects what, and how effective is protection? * The protection of buildings: types and legislation; advantages and problems * Portable heritage - the role of museums * Antiquities legislation and the problem of illicit trade This course will examine the agencies which protect our heritage, for example English Heritage, the National Trust, and Cadw and, where applicable, parallel agencies abroad. It will examine the protection of sites and landscapes, historic buildings and objects: legislation and its effectiveness and look at key debates and case-studies.
  • HTA-2120: Rethinking Archaeology (20) (Semester 1)
    Lectures 1. The origins of archaeological theory 2. The ‘New Archaeology’ and post processualism 3. Marxist and structuralist approaches in archaeology 4. The post-processualist critique 5. Multi disciplinary approaches to the archaeological record 6. The archaeology of people and social relations 7. Towards an archaeology of gender 8. Approaches to the study and interpretation of material culture 9. Contemporary approaches to archaeological landscapes 10. Understanding the built environment 11. The archaeology of ritual and religion 12. Archaeology in theory and in practice Seminars 1. The identification of cultural groups from archaeological evidence 2. The loss of innocence and the development of the ‘New Archaeology’ 3. Symbolic and structural archaeology 4. Re-constructing an interpretive archaeology 5. Social evolution and cognitive archaeology 6. How were past societies organised? 7. Representing gender in the archaeological past 8. Art or artefact: key debates in material culture studies 9. Experiencing the past: a phenomenology of landscape 10. House form and culture 11. What is ritual and religion and can we identify them in the archaeological record? 12. Critical approaches to archaeological fieldwork
  • HTA-2125: Time and Tide (20) (Semester 2)
  • HTC-2126: Hanes ar y Teledu (20) (Semester 2)
    1. Cyflwyniad: arolwg o'r maes ac amlinelliad o'r pynciau i'w trafod gan y modiwl; y tensiynau rhwng dyheadau'r hanesydd a gofynion y cynhyrchwyr teledu 2. `Llais yr awdur', a'r trafferthion sy'n deillio wrth adael i unigolyn adrodd yr hanes ei hunan; AJP Taylor a'r mentrau cynnar i gyflwyno hanes ar y teledu 3. “A History of Britain” gan Simon Schama: adrodd hanes y genedl; sut i gadw cydbwysedd rhwng anghenion amrywiol y comisiynwyr, y gynulleidfa a'r sylwebyddion, tra'n diogelu cywirdeb hanesyddol y rhaglen; ai dim ond “Hanes Lloegr” yw'r gyfres hon? 4. Adrodd hanes cenedl fechan - sut cafodd hanes Cymru ei bortreadu ar y teledu; “Tywysogion”; “Dilyn Ddoe”; “Your Century”; “Wales and the History of the World” 5. Gwaith Gwyn Alf Williams: cyflwyno hanes o safbwynt Marcsaidd 6. Cyfuno archif, tystiolaeth llygad-dystion a llais `awdurdodol' y sylwebydd: “The Great War”, a dylanwad parhaol y gyfres, fel y gwelir yn “The World at War” a “Lleisiau'r Rhyfel Mawr” 7. Defnyddio hanes lafar mewn rhaglenni teledu, a'r trafferthion; manteision a phroblemau defnyddio ffilm archif mewn rhaglenni nodwedd hanes 8. Cyflwyno hanes gwrthdaro a therfysg yn hanes y Gymru fodern (“The Dragon has Two Tongues”; “Wales! Wales?”; “Tonypandy Riots - A New History” a.y.y.b.); cyflwyno pynciau dadleuol lle nad oes cytundeb: y Brigadau Rhyngwladol yn Rhyfel Cartref Sbaen 9. Rhaglenni nodwedd bywgraffiadol, a'u trafferthion: sut i fod yn wrthrychol ac osgoi cynnig naill ai `buchedd sant' neu sarhad 10. Problemau'r dull ôl-fodern wrth gyflwyno cyfres hanes : “Y Ditectif Hanes” a “Cymru Hywel Williams”
  • HTC-2129: Morladron a Brenhinoedd y mor (20) (Semester 2)
    Crynodeb o Gynnwys y Cwrs: Dylai hwn fod yn baragraff cryno yn rhestru’r themâu y bydd y modiwl yn ymwneud â hwy. 1. Themau a hanes cynnar. Y craidd, yr ymyl a 'hanes Brydeinig'; cyrchau a gwladychiad y llychlynwyr yn Môr Iwerddon/Ynysoedd Heledd hyd at yr unarddegfed ganrif; brwydr Clontarf. 2. Sefydlu llinach Godred Crovan: gorwel hanesyddol y deyrnas? Crynodeb cronolegol o hanes y deyrnas yn galluogi trafodaethau mwy thematig i ddod. 3. Cyflwyno'r ffynhonellau: gweld popeth o'r tu fas? Cronicl Brenhinoedd Manaw, blwyddnodion, barddoniaeth. 4. Y deyrnas a Norwy: rhan o'r byd Llychlynaidd? Ymgyrchoedd Norwy a'u pwrpas. 5. Y cyd-destun Gwyddelig a'r cyd-destun Cymreig. 6. Yr 'Ymerodraeth Angefinaidd'. Esgobaeth y deyrnas a gwleidyddiaeth. 7. Somerled a'r Alban: brenhin neu wrthryfelwr, Llychlynwr neu Wyddel? 8. Diwylliant. Iaith, archeoleg, enwau lleoedd/personol, arysgrifiadau. Economi a hunaniaeth ddiwylliannol y deyrnas. 9. Dwy deyrnas? Rhyfeloedd cartref, disgynyddion Somerled, disgynyddion Godred a Norwy. 10. Rhyfel 1265 a diwedd annibyniaeth y deyrnas. Hanes hwyrach yr ynysoedd, a'u perthynas a Phrydain ac Iwerddon. Bydd y seminarau yn cynnig ystyriaeth o themau, a bydd cyfle i amlygu pwysigrwydd ystyriaeth fanwl o'r defnydd o ffynhonellau o natur gwahanol trwy drafodaeth. Bydd cyfle hefyd i ffocysu ar drafodaethau hanesyddiaethol ar ddigwyddiadau neu agweddau penodol o'r pwnc, a phontio'r disgyblaethau hanesyddol gwahanol sydd rhaid deall er mwyn cael darlun cyflawn o'r pwnc.
  • HGH-2133: The Tudors 1485-1603 (20) (Semester 2)
    1. Bosworth Field and the end of the Wars of the Roses; 2. Henry VII and the Tudor Dynasty; 3. The reign of Henry VII; 4. The accession of Henry VIII; 5. Henry VIII: ; 6. Henry VIII: The Early Years; Henry VIII: The King's `Great Matter' and Rome ; 7. The Later Years of Henry VIII; 8. Edward VI; 9. Edward VI and the Disputed Succession; 10. The Reign of Mary Tudor: Part I; 11. The Reign of Mary Tudor: Part II; 12. Elizabeth I: 1558-1580; 13. Elizabeth I: 1580-1603; 14. Elizabeth I: The Golden Age?; 15. Religion, Society, and Politics under the Tudors. Students taking this module will study these topics through a in-depth grasp of the modern historiography on the subject, complimented by the use of some primary sources (including select contemporary writings, records, contemporary paintings and woodcuts).
  • HGH-2137: USA, 1945-2001 (20) (Semester 2)
    Lectures on the module will focus on the social and domestic history of the United States and will include: Affluent society – America in the 1950s; The Kennedy assassination and its aftermath; LBJ and ‘the great society’; Civil Rights and the problem of ‘black America’; Nixon and the Watergate scandal; Crime and social dislocation; Ronald Reagan and the rise of Conservative America; Bill Clinton and post-Cold war American society; 9/11 and its impact. Seminars on the module will focus on foreign policy developments and will include: the origins of the Cold War; the Korean war; the Cuban missile crisis; the ‘race to the moon’; the Vietnam war and its aftermath; the politics of détente; Reaganism and the spectre of communism; the end of the cold war; the road to 9/11.
  • HGH-2138: Europe 1945-1992 (20) (Semester 1)
  • HTH-2139: Norman Sicily (20) (Semester 1)
    1. Introduction - the creation of the kingdom, 1000-1130; 2. Roger II: the establishment of a new monarchy, 1130-1154; 3. Court culture and race relations; 4. Roger II's assizes: law and kingship; 5. Government in Sicily under the kings; 6. Reign of William I `the Bad', 1154-1166; 7. Reign of William II `the Good', 1166-1189; 8. The mosaics of the Norman kingdom¿Cefalu, Palermo and Monreale; 9. The church and the kings; 10. The chroniclers: Alexander of Telese and Hugh Falcandus. Students taking the course will study these topics using both primary sources (including the art produced in the kingdom) and the modern historiography.
  • HTH-2145: The Lion of Justice - Henry I (20) (Semester 2)
    1. Background; 2. The youngest brother, 1068¿1100; 3. King of the English, 1100¿1106; 4. The conquest of Normandy, 1106; 5. The governance of the Anglo-Norman regnum; 6. Henry and the Church; 7. Rebellion and disaster, 1118¿1124; 8. The monastic chroniclers: Orderic Vitalis and William of Malmesbury; 9. Henry's personality, family, and environment; 10. The end of the reign and its aftermath. Students taking the course will study these topics using both primary sources and the modern historiography.
  • HTC-2150: Cenedlaetholdeb yn Sbaen (20) (Semester 1)
    1. Sbaen: un gwlad neu nifer? 2. Rhyfel Cartref Sbaen a’r cenhedloedd bach 3. Cenedlaetholdeb Ffasgaidd 4. Ailymddangosiad cenedlaetholdeb lleiafrifol yn yr 1960au 5. Gwlad y Basg (1): iaith a diwylliant 6. Gwlad y Basg (2): terfysgaeth a hunan-lywodraeth 7. Catalwnia (1): 8. Catalwnia (2): 9. Galisia: y brawd tlawd? 10. Yr Undeb Ewropeaidd; Crash Ariannol 2008
  • HTH-2156: Museum - management, curation (20) (Semester 2)
    Practical skills: Curating collections, designing exhibitions and/or museum learning programmes, strategically managing (museum) resources Theoretical knowledge: Diachronic and synchronic knowledge of the evolution of the role of museums in society, of key resources in museum management, of methods, principles and practices of collections management and curation, exhibition design and museum learning programmes.
  • HTW-2159: History in Practice (20) (Semester 2)
  • HTC-2160: Age of Reform (Cymraeg) (20) (Semester 1) or
    HTH-2160: The Age of Reform 1770-1835 (20) (Semester 1)
  • HTH-2165: Magic and the Supernatural (20) (Semester 1)

40 credits from:

  • CXC-2001: Canu Llys (20) (Semester 1)
    Astudir y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, sef canu Taliesin ac Aneirin, a detholiad o gerddi Beirdd y Tywysogion. Rhoddir hyfforddiant i drafod y testunau gwreiddiol, gan roi sylw i ddiweddaru orgraff, sut i chwilio am ystyron geiriau anhysbys, diweddaru testunau gan roi sylw i atalnodi deallus. Yn achos Aneirin a Thaliesin fe drafodir y farddoniaeth fel cynnyrch traddodiad llafar, ac fel testunau llenyddol mewn cyd-destun cymharol, gan roi sylw arbennig i lenyddiaeth arwrol. Yn achos y Gogynfeirdd dangosir fel y diogelwyd geirfa, epithedau, a topoi Aneirin a Thalieisin, ac fel y cywreiniwyd eu harddull a'u harferion mydryddol.
  • CXC-2002: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXC-2012: Gweithdy Cynghanedd (20) (Semester 2)
    Yn y cwrs hwn cynigir hyfforddiant ymarferol fel bod myfyrwyr yn dod i drin y gynghanedd yn gywir ac yn meistroli rhai o brif fesurau cerdd dafod megis yr Englyn Unodl Union a'r Cywydd Deuair Hirion. Rhoddir pwyslais mawr yn rhan gyntaf y cwrs ar ddeall aceniad cynghanedd a chaiff myfyrwyr wybodaeth hefyd ynghylch y beiau gwaharddedig. Bydd y cwrs yn cloi gyda thrafodaeth fer ar yr awdl eisteddfodol. Dysgir y modiwl hwn drwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd.
  • CXC-2023: Rhyddid y Nofel (20) (Semester 1)
    Gan ddilyn cynllun cronolegol, bydd y modiwl hwn yn cychwyn drwy sylwi'n gryno ar rai o fannau cychwyn y nofel Orllewinol yn ystod y Cyfnod Modern. Eir ati wedyn i gynnig trawsolwg o hynt y nofel Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan roi sylw arbennig i weithiau llwyddiannus Daniel Owen. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad cynrychioliadol o nofelau a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif, trafodir prif dueddiadau'r genre yn Gymraeg, e.e. y cronicl cymdeithasol; y nofel syniadau; y nofel hanes. Tynnir sylw at dechnegau'r nofelau, e.e. y traethydd hollwybodol; yr ymson fewnol; y traethydd annibynadwy. Ymhlith y nofelwyr y rhoddir enghreifftiau o'u gwaith dan y chwyddwydr bydd Saunders Lewis, Kate Roberts, T. Rowland Hughes, Islwyn Ffowc Elis, Alun Jones, Angharad Tomos, Robin Llywelyn a Mihangel Morgan. Mewn gair, ystyrir sut mae nofelwyr Cymraeg wedi ymelwa ar y rhyddid sy'n gynhenid i genre y nofel ac wedi ymdrechu i'w ymestyn ymhellach.
  • CXC-2028: Llenyddiaeth Gymraeg America (20) (Semester 2)
    Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r berthynas rhwng llenyddiaeth Cymru America a'u profiadau hanesyddol a chymdeithasol. Ceir cyflwyniad bras i ddiwylliant ymfudwyr Cymreig y cyfnod c.1600 - c. 2000, ond rhoddir sylw'n bennaf i gynnyrch llenyddol cymunedau Cymraeg yr Unol Daleithiau gan ganolbwyntio ar y cyfnod 1840-1900. Trafodir y modd y bu i awduron Cymraeg America harneisio holl gynhysgaeth ddiwylliannnol y Cymry a'i haddasu ar gyfer dibenion newydd mewn gwlad newydd. Astudir diwylliant Cymraeg Patagonia hefyd a chymharu llenyddiaeth y Wladfa â llên Cymry'r Unol Daleithiau. Bydd y cyfan yn gyfle i ystyried y berthynas rhwng llenyddiaeth a gwahanol fathau o hunaniaeth genedlaethol.
  • CXC-2029: Chwedlau'r Oesau Canol (20) (Semester 1)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad bras i chwedlau 'brodorol' yr Oesau Canol. Creffir yn fanwl ar rai chwedlau - megis Pedeir Keinc y Mabinogi a Kulhwch ac Olwen - gan archwilio nifer o'u nodweddion llenyddol (e.e. cymeriadu, strwythur, ac arddull). Rhoddir sylw hefyd i'r berthynas rhwng themâu'r chwedlau a chymdeithas yr Oesau Canol gan drafod cwestiynau perthnasol yn ymwneud ag awduraeth, dyddio a chyd-destun llawysgrifol y chwedlau.
  • CXC-2107: Barddoniaeth Fodern (20) (Semester 2)
    Yn ystod y modiwl hwn byddwn yn astudio mewn trefn gronolegol farddoniaeth rhai o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, o T. Gwynn Jones ar ei dechrau hyd at Gwyn Thomas ar ei diwedd. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad o gerddi unigol, ceisir awgrymu cyfraniad pob un o'r beirdd dan sylw at ddatblygiad barddoniaeth Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ceisir dangos hefyd sut y dylanwadodd eu cerddi ar waith beirdd eraill yn ystod y ganrif. O'r herwydd, er mai modiwl yn cynnig astudiaeth ddethol yn hytrach nag un gynhwysfawr yw hwn yn ei hanfod, ni fydd prinder cyfeiriadau cymharol at amryw feirdd eraill wrth fynd heibio. Yn ogystal â thynnu sylw mewn darlithoedd at fanylion bywgraffyddol a hanesyddol o bwys, cyfeirir hefyd at gysyniadau arwyddocaol fel Rhamantiaeth a Moderniaeth. Ac er mor amrywiol yw gwaith y beirdd dan drafodaeth, un thema y cyfeirir ati droen yn ystod y modiwl yw'r cydchwarae parhaus a welir ym marddoniaeth y ganrif rhwng traddodiad a newydd-deb.
  • CXC-2119: Gweithdy Rhyddiaith (20) (Semester 2)
    Mewn dosbarthiadau seminar byddir yn astudio'n fanwl enghreifftiau o ryddiaith Gymraeg yn ogystal â darnau o draddodiadau llenyddol eraill (mewn cyfieithiad) - esiamplau y gall egin lenorion eu cymryd fel patrymau ar gyfer eu gwaith eu hunain. Y mae ymdrechu i ymgydnabod ag amrywiaeth o wahanol genres, dulliau a chonfensiynau llenyddol yn rhan hollbwysig o ddatblygiad pob llenor. Rhoddir y prif sylw, wrth gwrs, i ystyriaethau megis ffurfiau llenyddol a chrefft y llenor, ond byddir hefyd yn gosod hyn oll yn ei gyd-destun hanesyddol priodol er mwyn goleuo'r modd y datblygodd y gwahanol dechnegau hyn dros y canrifoedd. Byddir yn tynnu sylw at nifer o ddamcaniaethau beirniadol ynghylch perthynas llenor â'i waith, a pherthynas y gwaith hwnnw â chynulleidfa. Gosodir tasgau wythnosol yn y seminarau, a chynhelir dosbarthiadau tiwtorial er mwyn trafod cynnyrch a chynnydd gwaith y myfyrwyr. Cymar i'r modiwl hwn yw 'Ysgrifennu Barddoniaeth'.
  • CXD-2119: Sgriptio (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript - tua 40 munud o hyd- ar gyfer naill ai'r teledu neu'r llwyfan. Bydd pum cam i'r gweithgaredd: yn gyntaf, trafodir gofynion dramatig y ddau gyfrwng; yn ail, gofynnir i'r myfyrwyr gyflwyno braslun ysgrifenedig o thema'r ddrama a thrafodir honno'n fanwl gyda'r tiwtor; yn drydydd, gofynnir iddynt lunio braslun o blot y ddrama ynghyd â dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau sydd ynddi; yn bedwerydd, eir ymlaen i rannu'r plot yn olygfeydd. Y cam olaf yw llunio'r ddeialog a cheir cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny. Dysgir hefyd sut i gyflwyno sgript orffenedig sy'n dilyn confensiynau arferedig. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a 3, ond bydd disgwyl i fyfyrwyr lefel 3 gyflwyno gwaith aeddfetach ei thema a mwy dychmygus o safbwynt ei ffurf.
  • CXD-2124: O'r Llyfr i'r Llwyfan (20) (Semester 2)
    Mewn cyfres o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a chyflwyniadau, bydd y modiwl hwn yn trafod y broses o addasu testunau llenyddol ar gyfer y llwyfan. Ttrafodir ystod o destunau gan wahanol awduron, o addasiad J.M. Edwards o Rhys Lewis gan Daniel Owen ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd addasiad mwy diweddar Siôn Eirian o Cysgod y Cryman Islwyn Ffowc Elis ar gyfer y Theatr Genedlaethol. Bydd cyfle i glywed addaswyr a chynhyrchwyr yn trafod y sialensau a’u hwynebodd. Bydd cyfle hefyd i baratoi addasiad o waith llenyddol byr.

Year 3 Modules

Compulsory Modules

40 credits from:

  • HSW-3019: Native Wales & the Normans (40) (Semester 1 + 2)
  • HDC-3075: Hanes Cymru Traethawd Hir (40) (Semester 1 + 2)
    Bydd yr adroddiad a'r traethawd hir yn gosod yr ymchwil a ddewiswyd yn ei chyd-destun ehangach e.e. hanesyddiaeth, fframwaith theoretig, fframwaith daearyddol a hanesyddol. Bydd yn gosod cwestiynau ymchwil a bydd strwythur yn cael ei lunio. Bydd yn disgrifio ac yn dadansoddi'r pwnc a ddewiswyd gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth wreiddiol ac eilaidd berthnasol. Ysgrifennir adroddiad ar y project mewn dull trefnus ac academaidd
    or
    HDW-3075: Welsh History Dissertation (40) (Semester 1 + 2)
    The report and dissertation will set the chosen Welsh History research in its broader context e.g. historiography, theoretical framework, geographical and historical framework. It will set research questions and a structure will be worked out. It will describe and analyse the chosen topic using a range of relevant secondary and primary evidence. The project will be written up in an ordered and academic manner.
  • Students must EITHER take the Dissertation OR Special Subject (to be taken over both semesters).

Optional Modules

20 credits from:

60 credits from:

  • CXC-3007: Barddoniaeth Fodern (20) (Semester 2)
    Yn ystod y modiwl hwn byddwn yn astudio mewn trefn gronolegol farddoniaeth rhai o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, o T. Gwynn Jones ar ei dechrau hyd at Gwyn Thomas ar ei diwedd. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad o gerddi unigol, ceisir awgrymu cyfraniad pob un o'r beirdd dan sylw at ddatblygiad barddoniaeth Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ceisir dangos hefyd sut y dylanwadodd eu cerddi ar waith beirdd eraill yn ystod y ganrif. O'r herwydd, er mai modiwl yn cynnig astudiaeth ddethol yn hytrach nag un gynhwysfawr yw hwn yn ei hanfod, ni fydd prinder cyfeiriadau cymharol at amryw feirdd eraill wrth fynd heibio. Yn ogystal â thynnu sylw mewn darlithoedd at fanylion bywgraffyddol a hanesyddol o bwys, cyfeirir hefyd at gysyniadau arwyddocaol fel Rhamantiaeth a Moderniaeth. Ac er mor amrywiol yw gwaith y beirdd dan drafodaeth, un thema y cyfeirir ati droen yn ystod y modiwl yw'r cydchwarae parhaus a welir ym marddoniaeth y ganrif rhwng traddodiad a newydd-deb.
  • CXC-3009: Traethawd Estynedig (20) (Semester 1 + 2)
    Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasg ragarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.
  • CXC-3016: Medrau Cyfieithu (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl yn rhoi hyfforddiant i gyfieithu gwahanol fathau o destunau, yn bennaf o’r Saesneg i’r Gymraeg. Canolbwyntir ar gyfieithu darnau o ryddiaith ffeithiol: rhestrau o gyfarwyddiadau, erthyglau papur newydd, cofnodion cyfarfodydd ac ati. Rhoddir sylw arbennig i gyfieithu dogfennau swyddogol o bob math, gan roi sylw i ofynion proffesiynol y grefft.
  • CXC-3019: Gweithdy Rhyddiaith (20) (Semester 2)
    Mewn dosbarthiadau seminar byddir yn astudio'n fanwl enghreifftiau o ryddiaith Gymraeg yn ogystal â darnau o draddodiadau llenyddol eraill (mewn cyfieithiad) - esiamplau y gall egin lenorion eu cymryd fel patrymau ar gyfer eu gwaith eu hunain. Y mae ymdrechu i ymgydnabod ag amrywiaeth o wahanol genres, dulliau a chonfensiynau llenyddol yn rhan hollbwysig o ddatblygiad pob llenor. Rhoddir y prif sylw, wrth gwrs, i ystyriaethau megis ffurfiau llenyddol a chrefft y llenor, ond byddir hefyd yn gosod hyn oll yn ei gyd-destun hanesyddol priodol er mwyn goleuo'r modd y datblygodd y gwahanol dechnegau hyn dros y canrifoedd. Byddir yn tynnu sylw at nifer o ddamcaniaethau beirniadol ynghylch perthynas llenor â'i waith, a pherthynas y gwaith hwnnw â chynulleidfa. Gosodir tasgau wythnosol yn y seminarau, a chynhelir dosbarthiadau tiwtorial er mwyn trafod cynnyrch a chynnydd gwaith y myfyrwyr. Cymar i'r modiwl hwn yw 'Ysgrifennu Barddoniaeth'.
  • CXD-3019: Sgriptio (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript - tua 40 munud o hyd- ar gyfer naill ai'r teledu neu'r llwyfan. Bydd pum cam i'r gweithgaredd: yn gyntaf, trafodir gofynion dramatig y ddau gyfrwng; yn ail, gofynnir i'r myfyrwyr gyflwyno braslun ysgrifenedig o thema'r ddrama a thrafodir honno'n fanwl gyda'r tiwtor; yn drydydd, gofynnir iddynt lunio braslun o blot y ddrama ynghyd â dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau sydd ynddi; yn bedwerydd, eir ymlaen i rannu'r plot yn olygfeydd. Y cam olaf yw llunio'r ddeialog a cheir cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny. Dysgir hefyd sut i gyflwyno sgript orffenedig sy'n dilyn confensiynau arferedig. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a 3, ond bydd disgwyl i fyfyrwyr lefel 3 gyflwyno gwaith aeddfetach ei thema a mwy dychmygus o safbwynt ei ffurf.
  • CXC-3028: Llenyddiaeth Gymraeg America (20) (Semester 2)
    Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r berthynas rhwng llenyddiaeth Cymru America a'u profiadau hanesyddol a chymdeithasol. Ceir cyflwyniad bras i ddiwylliant ymfudwyr Cymreig y cyfnod c.1600 - c. 2000, ond rhoddir sylw'n bennaf i gynnyrch llenyddol cymunedau Cymraeg yr Unol Daleithiau gan ganolbwyntio ar y cyfnod 1840-1900. Trafodir y modd y bu i awduron Cymraeg America harneisio holl gynhysgaeth ddiwylliannnol y Cymry a'i haddasu ar gyfer dibenion newydd mewn gwlad newydd. Astudir diwylliant Cymraeg Patagonia hefyd a chymharu llenyddiaeth y Wladfa â llên Cymry'r Unol Daleithiau. Bydd y cyfan yn gyfle i ystyried y berthynas rhwng llenyddiaeth a gwahanol fathau o hunaniaeth genedlaethol.
  • CXC-3029: Chwedlau'r Oesau Canol (20) (Semester 1)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad bras i chwedlau 'brodorol' yr Oesau Canol. Creffir yn fanwl ar rai chwedlau - megis Pedeir Keinc y Mabinogi a Kulhwch ac Olwen - gan archwilio nifer o'u nodweddion llenyddol (e.e. cymeriadu, strwythur, ac arddull). Rhoddir sylw hefyd i'r berthynas rhwng themâu'r chwedlau a chymdeithas yr Oesau Canol gan drafod cwestiynau perthnasol yn ymwneud ag awduraeth, dyddio a chyd-destun llawysgrifol y chwedlau.
  • CXC-3101: Canu Llys (20) (Semester 1)
    Astudir y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, sef canu Taliesin ac Aneirin, a detholiad o gerddi Beirdd y Tywysogion. Rhoddir hyfforddiant i drafod y testunau gwreiddiol, gan roi sylw i ddiweddaru orgraff, sut i chwilio am ystyron geiriau anhysbys, diweddaru testunau gan roi sylw i atalnodi deallus. Yn achos Aneirin a Thaliesin fe drafodir y farddoniaeth fel cynnyrch traddodiad llafar, ac fel testunau llenyddol mewn cyd-destun cymharol, gan roi sylw arbennig i lenyddiaeth arwrol. Yn achos y Gogynfeirdd dangosir fel y diogelwyd geirfa, epithedau, a topoi Aneirin a Thalieisin, ac fel y cywreiniwyd eu harddull a'u harferion mydryddol.
  • CXC-3102: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXC-3112: Gweithdy Cynghanedd (20) (Semester 2)

  • CXC-3123: Rhyddid Y Nofel (20) (Semester 1)
    Gan ddilyn cynllun cronolegol, bydd y modiwl hwn yn cychwyn drwy sylwi'n gryno ar rai o fannau cychwyn y nofel Orllewinol yn ystod y Cyfnod Modern. Eir ati wedyn i gynnig trawsolwg o hynt y nofel Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan roi sylw arbennig i weithiau llwyddiannus Daniel Owen. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad cynrychioliadol o nofelau a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif, trafodir prif dueddiadau'r genre yn Gymraeg, e.e. y cronicl cymdeithasol; y nofel syniadau; y nofel hanes. Tynnir sylw at dechnegau'r nofelau, e.e. y traethydd hollwybodol; yr ymson fewnol; y traethydd annibynadwy. Ymhlith y nofelwyr y rhoddir enghreifftiau o'u gwaith dan y chwyddwydr bydd Saunders Lewis, Kate Roberts, T. Rowland Hughes, Islwyn Ffowc Elis, Alun Jones, Angharad Tomos, Robin Llywelyn a Mihangel Morgan. Mewn gair, ystyrir sut mae nofelwyr Cymraeg wedi ymelwa ar y rhyddid sy'n gynhenid i genre y nofel ac wedi ymdrechu i'w ymestyn ymhellach.
  • CXD-3124: O'r Llyfr i'r Llwyfan (20) (Semester 2)