Modules for course QW53 | BA/WMU
BA Cymraeg/Music

This is a provisional list of modules to be offered on this course in the 2019–20 academic year.

The list may not be complete, and the final course content may be different.

You can also view the modules offered in the years: 2017–18; 2018–19.

Find out more about studying and applying for this degree.

Use the buttons after the module titles (where available) to see a brief description of the content, or:
Show all descriptions
Hide all descriptions

Year 1 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg (20)
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • CXC-1016: Llenyddiaeth Gyfoes (10)
    Mae’r modiwl yn ystyried detholiad o wahanol genres gan dri awdur cyfoes, h.y. dwy nofel a chyfrol o gerddi. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at lyfrau gosod y modiwl: yn achos y tri thestun yn eu tro, cyflwynir cyfres o ddarlithoedd rhagarweiniol cyn rhannu’n ddiweddarach yn grwpiau seminarau a rydd gyfle ichi drafod y testunau ar lafar. Rhoddir deunyddiau sy’n berthnasol i’r modiwl o fewn yr amgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, a geir ar fewnrwyd PCB a bydd disgwyl i chwi lawrlwytho’r deunyddiau hyn drosoch eich hun. Ar Blackboard hefyd y bydd teitlau a llyfryddiaethau y tri thraethawd yn cael eu gosod. Dylech nodi’n ofalus y trefniadau ar gyfer y modiwl hwn a geir isod a chofio bod mynychu’r seminarau yn hanfodol bwysig gan y bydd 25% o’ch marc ar gyfer pob un traethawd yn seiliedig ar eich cyfraniad ynddynt.

Semester 2

  • CXC-1002: Llen y Cyfnod Modern Cynnar (10)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar – cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.
  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.

20 credits from:

Optional Modules

40 credits from:

  • WXC-1004: Cyflwyniad Harmoni/Gwrthbwynt (20) (Semester 1)
    Bwriad y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o elfennau ieithwedd gerddorol – alaw, harmoni, gwrthbwynt, rhythm – trwy astudio’r arfer a oedd yn gyffredin i gyfansoddwyr yn ystod cyfnod y Dadeni Hwyr a'r Baróc. Mae myfyrwyr yn gweithio trwy gwrs o astudiaeth a fydd yn datblygu medrau sain glust, darllen sgorau, a medrau dadansoddol, creadigrwydd a dealltwriaeth o’r paramedrau a osodai’r sylfeini ar gyfer creu cerddoriaeth yn ystod y cyfnod dan sylw. Bwriedir y modiwl hwn ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd â phrofiad cyfyngedig o egwyddorion harmonig. Anogir myfyrwyr mwy profiadol (e.e. y rhai sydd wedi astudio cydgordio corâl fel rhan o Lefel-A) i gofrestru ar gyfer WXC1008 yn lle hwn.
    or
    WXM-1004: Intro - Harmony & Counterpoint (20) (Semester 1)
    This module aims to develop students’ understanding of the elements of musical language – melody, harmony, counterpoint, rhythm – through the study of compositional practice in the late Renaissance and Baroque periods. Students work through a course of study which will develop aural skills, score reading and analytical skills, creativity, and a thorough understanding of the parameters for the construction of music during the periods in question. This module is intended for those students who little or no prior knowledge of harmonic principles. Students with some prior experience (e.g. those who have done chorale harmonization as part of A-Levels or equivalent) will be encouraged to register for WXM1008. Please note: WXM1004 and 1008 both cover effectively the same material in both semesters; in semester 2, both groups are taught together; in semester 1 WXM1004 covers similar ground as WXM1008, but at a slower pace (hence the doubled contact hours).
  • WXC-1010: Celfyddyd Sonig (20) (Semester 1) or
    WXK-1010: Sonic Art (20) (Semester 1)
  • WXC-1011: Cyfansoddi Blwyddyn 1 (20) (Semester 2)
    Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno’r myfyriwr i rai o’r technegau cyfansoddi a ddefnyddiwyd yn yr 20fed ganrif, gan ddangos sut mae harmoni, rhythm, adeiledd, offeryniaeth a thraw wedi datblygu. Rhoddir y cyfryngau sylfaenol i’r myfyrwyr ar gyfer cyfansoddi. Bydd y cwrs hefyd yn ystyried offerynnau penodol a’u nodweddion arbennig, yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer y llais. Yna anogir y myfyrwyr i roi cynnig ar y technegau yn eu cyfansoddiadau hwy eu hunain.
    or
    WXK-1011: Composition Year 1 (20) (Semester 2)
    This course will introduce students to some of the compositional techniques used in the twentieth and twenty first centuries and show how harmony, rhythm, structure, instrumentation and pitch have evolved, presenting students with the basic tools for composition. The first half of the course will look at these techniques in relation to a number of important musical styles that evolved during the twentieth century. The course will also consider individual instruments and their particular characteristics, in addition to vocal writing. Students are then encouraged to try out these techniques in exercises and assignments, which will be set throughout the course..
  • WXC-1016: Perfformio Unawdol Blwyddyn 1 (20) (Semester 2)
    Mae’r modiwl yn cyfuno rhaglen o hyfforddiant unigol ar offeryn neu lais â chyflwyniad i amrediad o faterion pwysig sy’n ymwneud â cherddorion, yn cynnwys paratoi a pherfformio rhaglen datganiad, technegau ymarfer effeithiol, gweithio â cherddorion eraill, a dulliau gwahanol o dehongli. NID YW'R MODIWL HWN AR GAEL I FYFYRWYR O'R TU ALLAN I'R YSGOL CERDDORIAETH. CYD-OFYNIAD: o leiaf ABRSM Gradd 7 neu gyfwerth.
    or
    WXP-1016: Solo Performance Year 1 (20) (Semester 2)
    This module combines a programme of individual instrumental or vocal tuition with an introduction to a range of important issues which concern performers, including preparing and delivering a recital programme, effective practice techniques, working with other musicians, and different approaches to interpretation. THIS MODULE IS NOT AVAILABLE TO STUDENTS OUTSIDE THE SCHOOL OF MUSIC. CO-REQUISITE: minimum of ABRSM 7 or equivalent.

20 credits from:

  • Myfyrwyr IAITH CYNTAF yn unig
  • CXC-1001: Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer (10) (Semester 2)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Rhoddir y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol. Gwneir hyn drwy gyfres o astudiaethau manwl ar gerddi a darnau rhyddiaith unigol. (Darperir llyfryn gan yr Ysgol yn cynnwys y testunau hyn.) Gweithiau o’r ugeinfed ganrif yw’r mwyafrif o’r darnau a drafodir, ond byddir hefyd yn ymdrin yn feirniadol ag ambell awdl a chywydd o’r Oesoedd Canol, a cherddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrir swyddogaeth beirniadaeth lenyddol mewn gwahanol gyd-destunau – cystadlaethau eisteddfodol a chyfieithu llenyddol, er enghraifft. Er goleuo’r pwnc ymhellach, ymdrinnir â nifer o’r cerddi a’r darnau rhyddiaith Cymraeg ochr yn ochr â gweithiau Saesneg ac enghreifftiau o lenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad).
  • CXD-1013: Theatr Fodern Ewrop (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd, gan ganolbwyntio ar waith dramodwyr fel Ibsen a Strindberg. Bydd ail ran y modiwl yn trafod yr adwaith datblygiad y ddrama fodernaidd, gan ganolbwyntio ar ddramâu Mynegiadol, dramâu Brecht a Theatr yr Abswrd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau.
  • CXD-1016: Sgriptio Teledu (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.
  • CXC-1018: Gweithdy Creadigol (20) (Semester 2)
    Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. Defnyddir tri dull dysgu, sef seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Mewn seminarau, trafodir enghreifftiau llwyddiannus o wahanol genres ffuglennol a barddol, dulliau a chonfensiynau llenyddol. Tynnir sylw at amryw fathau o ysgrifennu creadigol a’u cynnig yn ganllawiau i’r rhai sy’n dilyn y modiwl, modelau y gallen nhw eu hefelychu wrth fynd ati i gyfansoddi eu hunain. Mewn gweithdai, gosodir ymarferion penodol i’r myfyrwyr weithio arnynt er mwyn hybu creadigrwydd a datblygu syniadau newydd. Mewn tiwtorialau a gynhelir yn gyson yn ystod y semester, rhoddir adborth i’r ymarferion dosbarth, trafodir syniadau’r myfyriwr unigol ar gyfer ei ffolio, a chynigir sylwadau ar unrhyw waith creadigol sydd ar y gweill.
  • CXC-1019: Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol (10) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.

Year 2 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu (20)
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.

Semester 2

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.

20 to 40 credits from:

  • WXC-2011: Cerddoreg Blwyddyn 2 (20) (Semester 2)
    Mae ymchwil yn fedr academaidd sylfaenol, ac felly hefyd y gallu i ysgrifennu’n effeithiol ar ganlyniad yr ymchwil honno. Ar y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn gwneud ymchwil i bwnc o’u dewis, ac yn ysgrifennu ar eu canfyddiadau mewn traethawd o ryw 4500-5000 o eiriau. Ar yr un pryd, mae’r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i rai o gonfensiynau a dulliau ymchwil a chyflwyno cerddoregol, a hynny trwy astudiaeth ar wahanol enghreifftiau o ysgrifennu academaidd. Ar ben hynny, bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu’r medrau astudio a ddysgir yn Astudio Cerddoriaeth, yn cynnwys medrau llyfryddiaethol, medrau meddwl yn annibynnol, a medrau cyflwyno ar lafar. Bydd y modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ysgrifennu Traethawd Hir ym Mlwyddyn 3, a gall hefyd fod yn fuddiol i fyfyrwyr sy’n ystyried Project Golygu ym Mlwyddyn 3.
    or
    WXM-2011: Musicology Year 2 (20) (Semester 2)
    Research is a fundamental academic skill, and so too is the ability to effectively communicate the results of that research in writing. On this module, students undertake research into a musical topic of their own choice, and write up their findings in the form of a short dissertation of around 4500-5000 words. At the same time, the module introduces students to some of the conventions and methods of musicological research and presentation, through the study of various examples of academic writing. Moreover, students will continue to develop study skills taught in The Study of Music, including bibliographical skills, skills of independent thinking, and skills in oral presentation. The module will prepare students for undertaking a Dissertation in Year 3, and may also be useful to students considering undertaking an Editing Project in Year 3.
  • WXC-2233: Cyfansoddi Blwyddyn 2 (20) (Semester 2)
    Adeilada’r modiwl hwn ar astudiaethau Cyfansoddi Blwyddyn 1, ynghyd â chyflwyno syniadau a thechnegau newydd ar yr un pryd. Bydd pwyslais cyson ar arbrofi mentrus a newydd-deb creadigol, gan weithio gydag arddulliau anghyweiraidd (cyn-donyddol, ôl-donyddol ac anhonyddol), ynghyd ac ymdriniaethau newydd o ffurf. Ceir gwaith damcaniaethol (gwrando, dadansoddi a thrafod pynciau) ynghyd a gwaith ymarferol (gweithio drwy dechnegau, cyflwyno enghreifftiau, datrys problemau), gan ganolbwyntio ar dechnegau ac elfennau penodol - rhai yn newydd, a rhai yn gyfarwydd ers modiwl Cyfansoddi Lefel 1. Nid yw’r modiwl hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno cyfansoddi mewn arddulliau hanesyddol neu pastiche.
    or
    WXK-2233: Composition Year 2 (20) (Semester 2)
    This module seeks to build on Level 4 Composition, while at the same time introducing new ideas and techniques. Throughout, the emphasis will be on introducing students to the multiplicity of styles and techniques that have emerged during the second half of the 20th century and the first decade of the 21st. This may include bold experimentation and creative innovation, including working with non-tonal styles (pre-tonal, post-tonal, atonal), or the study of post-tonal and post-minimal styles of recent decades.
  • WXK-2235: Acousmatic Composition (20) (Semester 2)
    Acousmatic music is sonic art which uses sound as its basic material and the loudspeaker as its mode of delivery. This module aims to introduce students to acousmatic composition in a more focused way than is possible in the Year 1 Practical Music Technology module, and with a more creative emphasis. It aims to equip students with the basic technological, compositional and aesthetic knowledge and understanding necessary for acousmatic composition. (This module is not intended for students wishing to compose popular music, or music using conventional approaches to harmony, melody or rhythm.)
  • WXC-2241: Perfformio Unawdol Blwyddyn 2 (20) (Semester 2)
    Bydd disgwyl i’r myfyrwyr adeiladu ar fedrau y maent eisoes wedi’u dysgu yn ystod y modiwlau perfformio unigol ar lefelau 1 neu 2 ac adeiladu arnynt. Gwneir hyn trwy hyfforddiant offerynnol neu leisiol unigol. Bydd y myfyriwr a’r tiwtor yn ymgynghori, a bydd y tiwtor yn cynorthwyo i lunio rhaglen arfaethedig o repertoire technegol a deongliadol yn dangos arddulliau amrywiol, i’r harchwilio gan y myfyriwr, ac a fydd yn fuddiol i ddatblygiad technegol a cherddorol yr unigolyn. modiwl 'cap' o 20 o fyfyrwyr
    or
    WXP-2241: Solo Performance Year 2 (20) (Semester 2)
    The students will be expected to build on and expand skills already established during the solo performance modules in Year 1. This will be carried out through individual instrumental or vocal tuition. The tutor will provide consultation and help construct a projected programme of stylistically-varied technical and interpretive solo repertoire for the students to explore that will benefit the individual’s technical and musical development. Please note that students may also follow a maximum of 20 credits in ensemble performance across levels 5 & 6. This module is capped at 20 students

Optional Modules

20 to 40 credits from:

  • WXC-2232: Cerddorfaeth Gyfoes (20) (Semester 1)
    Bwriad y modiwl hwn yw dysgu'r sylfeini ar gyfer cerddorfaeth. Bydd pob enghraifft cerddorol yn deillio o gyfansoddwyr o gyfnodau Clasurol, Rhamantaidd a'r Ugeinfed Ganrif (e.e. Beethoven, Rachmaninov a Prokofiev) sydd wedi dylanwau yn gryf ar gyfansoddwyr ffilm heddiw (e.e. John Williams, Dario Marianelli a David Arnold). Bydd y cwrs yn ddechrau gyda'r Gerddorfa Linynnol gan ychwanegu offerynau chwyth a pres yn raddol. Erbyn wythnos darllen, bydd y myfyriwr yn medru trefnu yn hyderus ar gyfer cerddorfa fechan. Yn ystod yr ail hanner, bydd pwyslais ar dechnegau cerddorfaeth ar gyfer cerddorfa lawn gan ychwanegu mwy o offerynnau. Bwriad y cwrs yw dysgu cerddorddfaeth draddodiadol gyda phwyslais ar ddefnydd mewn cerddorfaeth ffilm. Gorau oll os yw'r myfyriwr yn dilyn (neu wedi dilyn) WXC2234/3234
    or
    WXK-2232: Orchestration Today (20) (Semester 1)
    Description: This course aims to expand upon issues addressed in Orchestration A. More involved orchestration procedures will be discussed in relation to the new elements of instrumental technique that evolved in the wake of developments in instrumental technology. Students will add auxiliary woodwind instruments to their orchestras together with additional percussion so that students can score for a modern orchestra. Each student is required to respond both verbally and on paper in either week 3, 6 or 9, to a task which will be given out in the previous seminar. This will be assessed as part of the coursework (see assessment below). Method, frequency and number of classes: Eight classes of around 1 hour and 15 minutes during weeks 1 - 6 and weeks 8 - 9, with a one-to-one tuition session in week 10. Assessment: One large assignment at 50% with three smaller pieces of course work making up 30%, and a verbal/written response to a set task, worth 20%. coursework 1: set in week 1, to be submitted in week 3 coursework 2: set in week 4 to be submitted in week 6 coursework 3: set in week 8 to be submitted in week 10 assignment: set in semester 2 week 10, to be submitted in week 13 WXK 2232: Learning Outcomes: On completion of the module, a student should have: 1. acquired skills of scoring in an appropriate manner for a modern orchestra, writing idiomatically for the instruments used (assessed by the written coursework and the assignment) 2. understood the technical restraints of instruments (assessed by the written coursework and the assignment) 3. developed skills in score presentation, using appropriate indications such as bowing (assessed by the written coursework and the assignment) 4. identified Orchestration procedures and should be able to discuss these (assessed by the aural task)
  • WXK-2300: Interactive Sound and Music (20) (Semester 1)
  • WXC-2303: Genres a Chyfansoddwyr A (20) (Semester 1) or
    WXM-2303: Genres & Composers A (20) (Semester 1)
  • WXM-2304: Genres and Composers B (20) (Semester 2)
  • WXP-2307: Ensembles and Groups A (20) (Semester 1)
  • WXP-2308: Conducting (20) (Semester 1)
  • WXC-2309: Cerdd mewn Iechyd a Lles (20) (Semester 2) or
    WXM-2309: Music in Health and Well-being (20) (Semester 2)
  • WXC-2310: Hanes Cerddoriaeth Cymru A (20) (Semester 1)

40 credits from:

  • CXC-2002: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXD-2024: Y Theatr Gymraeg Fodern (20) (Semester 1)
    Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.
  • CXC-2026: Llên a Chymdeithas 1500 - 1740 (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad manwl i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaih datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, llawysgrif a llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i'r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymru. Trwy drafod Dyneiddiaeth, Protestaniaeth, Methodistiaeth a Chlasuriaeth ceir archwilio'r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol.
  • CXC-2033: Datblygiad yr Iaith (20) (Semester 2)
    Bydd tair rhan i'r cwrs: Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith. Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern. Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith.
  • CXC-2118: Gweithdy Barddoniaeth (20) (Semester 2)
    Fel Ysgrifennu Rhyddiaith (lefel 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (lefel 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw I’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema I’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a’r hen bennill; vers libre; y delyneg a’r villanelle; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a lefel 3; bydd y cynnwys yr un fath I’r ddwy lefel ond bydd natur y cwestiwn traethawd yn wahanol.
  • CXC-2202: Athroniaeth a Llenyddiaeth (20) (Semester 1)
    Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir (y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth). Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth (e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd). Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
  • CXC-2203: Blas ar y Wyddeleg (20) (Semester 2)

Year 3 Modules

Compulsory Modules

0 to 40 credits from:

  • WXC-3277: Traethawd Hir (40) (Semester 1 + 2)
    Mae'r traethawd hir yn ddarn o ysgrifennu annibynnol ar destun a ddewisir gan yr ymgeisydd mewn ymgynghoriad ag aelod staff ac a gymeradwyir gan yr Bwrdd Arholi. Mae'r dewis a'r cymeradwyo hwn yn digwydd yn ystod tymor yr haf yn union cyn Blwyddyn 3. Dylai'r ysgrifennu gymryd i ystyriaeth ymchwil flaenorol berthnasol, ond dylai ddangos gwreiddioldeb meddwl o ran dull ymdrin a dadl. Rhoddir credyd am ansawdd syniadau, eglurder a rhesymeg dadl, dull cyflwyno, addasrwydd llyfryddiaeth a mireinder y cyflwyniad. I gyd-fynd a'r traethawd hir ceir seminarau bob pythefnos lle bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda thiwtoriaid y modiwl ar y sgiliau ymchwil, llyfryddiaeth a methodoleg sydd eu hangen i ysgrifennu'r traethawd hir
    or
    WXM-3277: Dissertation (40) (Semester 1 + 2)
    The dissertation is an independent piece of writing on a subject selected by the candidate in consultation with a member of staff and approved by the Board of Examiners. This selection and approval takes place in the summer term immediately preceding Year 3. The writing should take account of previous relevant research but demonstrate originality of mind in approach and argument. Credit will be given for quality of ideas, clarity and logic of argument and presentation, suitability of bibliography, and elegance of presentation. The dissertation will be accompanied by seminars on the research, bibliography and methodology skills required for writing the dissertation.
  • WXM-3283: Edition (40) (Semester 1 + 2)
    Participants of this module will prepare a critical edition of a suitable work from original sources or photographic reproductions of such sources. The work concerned will be selected by the candidate in consultation with a member of staff; the selection approved by the Board of Examiners, during the summer term of Year 2. The length of the work will depend upon various factors, including scoring, the number and complexity of sources, and the extent and degree of editorial intervention the materials demand; but in every instance full editorial apparatus will be required, including a detailed textual commentary. The edition should show awareness of previous editions of relevant music, but also demonstrate a capacity for solving specific editorial problems. Credit will be given for the quality of presentation as well as of editorial work. The project will be accompanied by seminars on the research, bibliography and methodology skills required for preparing the edition.
  • WXC-3289: Cyfansoddi (project) (40) (Semester 1 + 2)
    Mae’r project yn gyfle i fyfyrwyr dreulio cyfnod estynedig mewn gweithgaredd yn ymwneud â chyfansoddi, gan weithio tuag at greu gwaith, neu weithiau, ar raddfa a hyd sylweddol. Mae myfyrwyr yn cwblhau cyfansoddiad neu bortffolio o gyfansoddiadau ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnau, lleisiau, adnoddau electroacwstig ac adnoddau stiwdio, dan gyfarwyddyd arolygwr. Bydd y cyfansoddwyr sydd ar y project yn cwrdd yn gyson fel grŵp i ystyried materion eang ac i rannu syniadau a dulliau. Dylai cyfansoddiadau ddangos dealltwriaeth drylwyr o’u genre, meistrolaeth ar y medrau technegol perthnasol, eglurder o ran bwriad creadigol, a pherthnasedd diwylliannol cyfoes o ran eu dull esthetig. Dylai myfyrwyr gyflwyno cyfansoddiadau ar ffurf sgôr wedi’i nodiannu, recordiad neu gyfuniad. Os yw’r gwaith yn cynnwys cerddoriaeth ar gyfer delwedd symudol, dylech hefyd gyflwyno DVD o gerddoriaeth wedi’i chydamseru â’r llun. Fel rheol, dylai’r darn neu’r portffolio gymryd rhyw 22 munud, trwy gytundeb â’r arolygwr, ac yn ôl y tempo, cymhlethdod y gerddoriaeth a nodweddion yr adnoddau offerynnol/ lleisiol/ electroacwstig a ddefnyddir. Gall portffolios gynnwys cymysgedd o wahanol genres. Nid yw’r modiwl hwn yn addas i fyfyrwyr sy’n dymuno cyfansoddi mewn arddulliau hanesyddol neu pastiche.
    or
    WXK-3289: Composition (project) (40) (Semester 1 + 2)
    The composition project is an opportunity for students to spend a sustained period engaged in compositional activity, working towards the production of a work, or works, of significant scale and duration. Students complete a composition or portfolio of compositions for any combination of instruments, voices, electroacoustic and studio resources, with the guidance of a supervisor. Project composers meet regularly as a group to consider broad issues and to share ideas and approaches. Compositions should demonstrate a thorough understanding of their genre, facility in the relevant technical skills, clarity of creative intent, and contemporary cultural relevance in their aesthetic approach. Compositions should be submitted in the form of a notated score, recording or a combination. If the work involves music for moving image, a DVD of music synchronised to picture must also be submitted. The piece or portfolio should normally be about 22 minutes in duration, by agreement with the supervisor, and depending on the tempo, the complexity of the music and the nature of the instrumental/vocal/ electroacoustic resources used. Portfolios may contain a mix of different genres. This module is not appropriate for students wishing to compose in historical or pastiche styles.
  • WXC-3298: Project Perfformio Unawdol (40) (Semester 1 + 2)
    Bydd y rhai sy’n dilyn y modiwl yn paratoi a pherfformio datganiad cyhoeddus yn para am 40 munud, yn cynnwys repertoire unawdol mewn arddulliau amrywiol o gyfnodau gwahanol. Caiff myfyrwyr hyfforddiant offerynnol neu leisiol unigol ochr yn ochr â seminarau, lle bydd y myfyrwyr yn gweithio ar gwestiynau uwch ar repertoire, strategaethau ymarfer, ymarfer ar gyfer perfformio, a pherfformio dan ddylanwad hanesyddol. Dim ond 15 o fyfyrwyr ar y modiwl yma
    or
    WXP-3298: Solo Performance Project (40) (Semester 1 + 2)
    Participants of the module will prepare and perform a public recital of 40 minutes’ duration, featuring stylistically-diverse solo repertoire from different periods. Individual instrumental or vocal tuition will be accompanied by seminars in which the students will work on advanced questions of repertoire, rehearsal strategies, performance practice and historically-informed performance. This module is capped at 15 students
  • SPECIAL PROJECTS: Students must choose at least ONE project, either in Music or in other subject. Students are welcome to choose more than one project one from each school.

Optional Modules

20 to 60 credits from:

60 credits from:

  • CXC-3009: Traethawd Estynedig (20) (Semester 1 + 2)
    Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasg ragarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.
  • CXC-3016: Medrau Cyfieithu (20) (Semester 2)
    Bydd y modiwl yn rhoi hyfforddiant i gyfieithu gwahanol fathau o destunau, yn bennaf o’r Saesneg i’r Gymraeg. Canolbwyntir ar gyfieithu darnau o ryddiaith ffeithiol: rhestrau o gyfarwyddiadau, erthyglau papur newydd, cofnodion cyfarfodydd ac ati. Rhoddir sylw arbennig i gyfieithu dogfennau swyddogol o bob math, gan roi sylw i ofynion proffesiynol y grefft.
  • CXC-3018: Gweithdy Barddoniaeth (20) (Semester 2)
    Fel Ysgrifennu Rhyddiaith (lefel 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (lefel 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw I’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema I’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a’r hen bennill; vers libre; y delyneg a’r villanelle; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi.
  • CXD-3024: Y Theatr Gymraeg Fodern (20) (Semester 1)
    Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.
  • CXC-3026: Llên a Chymdeithas 1500 - 1740 (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaith datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, y llawysgrif a’r llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i’r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymry. Trwy drafod mudiadau megis Dyneiddiaeth a Phrotestaniaeth ceir archwilio’r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol, gan gynnwys Morgan Llwyd ac Ellis Wynne.
  • CXC-3033: Datblygiad yr Iaith (20) (Semester 2)
    Bydd tair rhan i'r cwrs: Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith. Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern. Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith. Bydd y modiwl hwn yn olrhain amryfal agweddau ar hanes y Gymraeg o’i chyfnodau cynharaf hyd at ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod ail hanner yr 20g. Cyflwynir y myfyrwyr i’r ymchwil diweddaraf sy’n ymwneud â datblygiad y Gymraeg yn y cyfnod ôl-Rufeinig a;i pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd; trafodir hefyd y ffynonellau cynharaf sy’n tystio i fodolaeth yr iaith. Cynigir arolwg o’r berthynas rhwng tafodieithoedd y Gymraeg a’i chyweiriau ysgrifenedig, ac anelir hefyd at amlinellu’r grymoedd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd a bennodd hynt y Gymraeg, yn enwedig o’r 16g hyd at y presennol.
  • CXC-3102: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXC-3202: Athroniaeth a Llenyddiaeth (20) (Semester 1)
    Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir: y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth. Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth: e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd. Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
  • CXC-3203: Blas ar y Wyddeleg (20) (Semester 2)