Modules for course QW5H | BA/CCYCB
Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd

These are the modules currently offered on this course in the 2018–19 academic year.

You can also view the modules offered in the years: 2017–18; 2019–20.

Find out more about studying and applying for this degree.

Use the buttons after the module titles (where available) to see a brief description of the content, or:
Show all descriptions
Hide all descriptions

Year 1 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • WXC-1002: Astudio Cerddoriaeth (JH) (20)
    Mae’r modiwl yn edrych ar hanes cerddoriaeth gelfyddydol Orllewinol o tua 1000 AD i'r cyfnod presennol. Astudir gweithiau dethol o’r cyfnod yn fanwl, a gosodir newidiadau a datblygiadau mewn arddull gerddorol yn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol, daearyddol ac esthetaidd. Yn ogystal, bydd y modiwl yn annog datblygiad amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen i astudio cerddoriaeth ar lefel gradd, a bydd yn sylfaen ar gyfer astudiaeth gerddolegol a wneir ym Mlynyddoedd 2 a 3 a thu hwnt.
  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg (20)
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • CXD-1016: Sgriptio Teledu (20)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.

Semester 2

  • WXC-1002: Astudio Cerddoriaeth (JH)
    Mae’r modiwl yn edrych ar hanes cerddoriaeth gelfyddydol Orllewinol o tua 1000 AD i'r cyfnod presennol. Astudir gweithiau dethol o’r cyfnod yn fanwl, a gosodir newidiadau a datblygiadau mewn arddull gerddorol yn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol, daearyddol ac esthetaidd. Yn ogystal, bydd y modiwl yn annog datblygiad amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen i astudio cerddoriaeth ar lefel gradd, a bydd yn sylfaen ar gyfer astudiaeth gerddolegol a wneir ym Mlynyddoedd 2 a 3 a thu hwnt.
  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • CXC-1018: Gweithdy Creadigol (20)
    Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. Defnyddir tri dull dysgu, sef seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Mewn seminarau, trafodir enghreifftiau llwyddiannus o wahanol genres ffuglennol a barddol, dulliau a chonfensiynau llenyddol. Tynnir sylw at amryw fathau o ysgrifennu creadigol a’u cynnig yn ganllawiau i’r rhai sy’n dilyn y modiwl, modelau y gallen nhw eu hefelychu wrth fynd ati i gyfansoddi eu hunain. Mewn gweithdai, gosodir ymarferion penodol i’r myfyrwyr weithio arnynt er mwyn hybu creadigrwydd a datblygu syniadau newydd. Mewn tiwtorialau a gynhelir yn gyson yn ystod y semester, rhoddir adborth i’r ymarferion dosbarth, trafodir syniadau’r myfyriwr unigol ar gyfer ei ffolio, a chynigir sylwadau ar unrhyw waith creadigol sydd ar y gweill.

Optional Modules

20 credits from:

  • CXC-1002: Llen y Cyfnod Modern Cynnar (10) (Semester 1)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar – cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.
  • CXD-1013: Theatr Fodern Ewrop (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd, gan ganolbwyntio ar waith dramodwyr fel Ibsen a Strindberg. Bydd ail ran y modiwl yn trafod yr adwaith datblygiad y ddrama fodernaidd, gan ganolbwyntio ar ddramâu Mynegiadol, dramâu Brecht a Theatr yr Abswrd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau.
  • CXC-1016: Llenyddiaeth Gyfoes (10) (Semester 2)
    Mae’r modiwl yn ystyried detholiad o wahanol genres gan dri awdur cyfoes, h.y. dwy nofel a chyfrol o gerddi. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at lyfrau gosod y modiwl: yn achos y tri thestun yn eu tro, cyflwynir cyfres o ddarlithoedd rhagarweiniol cyn rhannu’n ddiweddarach yn grwpiau seminarau a rydd gyfle ichi drafod y testunau ar lafar. Rhoddir deunyddiau sy’n berthnasol i’r modiwl o fewn yr amgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, a geir ar fewnrwyd PCB a bydd disgwyl i chwi lawrlwytho’r deunyddiau hyn drosoch eich hun. Ar Blackboard hefyd y bydd teitlau a llyfryddiaethau y tri thraethawd yn cael eu gosod. Dylech nodi’n ofalus y trefniadau ar gyfer y modiwl hwn a geir isod a chofio bod mynychu’r seminarau yn hanfodol bwysig gan y bydd 25% o’ch marc ar gyfer pob un traethawd yn seiliedig ar eich cyfraniad ynddynt.
  • CXC-1019: Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol (10) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.

20 credits from:

  • WXC-1011: Cyfansoddi Blwyddyn 1 (20) (Semester 1 + 2)
    Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno’r myfyriwr i rai o’r technegau cyfansoddi a ddefnyddiwyd yn yr 20fed ganrif, gan ddangos sut mae harmoni, rhythm, adeiledd, offeryniaeth a thraw wedi datblygu. Rhoddir y cyfryngau sylfaenol i’r myfyrwyr ar gyfer cyfansoddi. Bydd y cwrs hefyd yn ystyried offerynnau penodol a’u nodweddion arbennig, yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer y llais. Yna anogir y myfyrwyr i roi cynnig ar y technegau yn eu cyfansoddiadau hwy eu hunain.
    or
    WXK-1011: Composition Year 1 (20) (Semester 1 + 2)
    This course will introduce students to some of the compositional techniques used in the twentieth and twenty first centuries and show how harmony, rhythm, structure, instrumentation and pitch have evolved, presenting students with the basic tools for composition. The first half of the course will look at these techniques in relation to a number of important musical styles that evolved during the twentieth century. The course will also consider individual instruments and their particular characteristics, in addition to vocal writing. Students are then encouraged to try out these techniques in exercises and assignments, which will be set throughout the course..
  • WXC-1016: Perfformio Unawdol Blwyddyn 1 (20) (Semester 1 + 2)
    Mae’r modiwl yn cyfuno rhaglen o hyfforddiant unigol ar offeryn neu lais â chyflwyniad i amrediad o faterion pwysig sy’n ymwneud â cherddorion, yn cynnwys paratoi a pherfformio rhaglen datganiad, technegau ymarfer effeithiol, gweithio â cherddorion eraill, a dulliau gwahanol o dehongli. NID YW'R MODIWL HWN AR GAEL I FYFYRWYR O'R TU ALLAN I'R YSGOL CERDDORIAETH. CYD-OFYNIAD: o leiaf ABRSM Gradd 7 neu gyfwerth.
    or
    WXP-1016: Solo Performance Year 1 (20) (Semester 1 + 2)
    This module combines a programme of individual instrumental or vocal tuition with an introduction to a range of important issues which concern performers, including preparing and delivering a recital programme, effective practice techniques, working with other musicians, and different approaches to interpretation. THIS MODULE IS NOT AVAILABLE TO STUDENTS OUTSIDE THE SCHOOL OF MUSIC. CO-REQUISITE: minimum of ABRSM 7 or equivalent.

Year 2 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu (20)
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.
  • CXD-2119: Sgriptio (20)
    Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript - tua 40 munud o hyd- ar gyfer naill ai'r teledu neu'r llwyfan. Bydd pum cam i'r gweithgaredd: yn gyntaf, trafodir gofynion dramatig y ddau gyfrwng; yn ail, gofynnir i'r myfyrwyr gyflwyno braslun ysgrifenedig o thema'r ddrama a thrafodir honno'n fanwl gyda'r tiwtor; yn drydydd, gofynnir iddynt lunio braslun o blot y ddrama ynghyd â dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau sydd ynddi; yn bedwerydd, eir ymlaen i rannu'r plot yn olygfeydd. Y cam olaf yw llunio'r ddeialog a cheir cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny. Dysgir hefyd sut i gyflwyno sgript orffenedig sy'n dilyn confensiynau arferedig. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a 3, ond bydd disgwyl i fyfyrwyr lefel 3 gyflwyno gwaith aeddfetach ei thema a mwy dychmygus o safbwynt ei ffurf.
  • WXC-2191: Ysgrifennu Caneuon (20)
    Amcan y modiwl Sgiliau Ysgrifennu Caneuon yw cyflwyno’r myfyriwr i elfennau technegol a chreadigol bwysig y grefft o gyfansoddi cân dda, tra ar yr un pryd yn cynnig cipolwg ar ddatblygiadau ffurfiol y gân boblogaidd yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif drwy ddadansoddi enghreifftiau penodol. Cyflwynir sgiliau sylfaenol ynghŷd â rhai mwy soffistigedig o gyfansoddi a threfnu caneuon mewn nifer o genres gwahanol, gan gyfeirio yn arbennig at elfennau megis gwrthbwynt rhythmig, geirfa harmonig, siapio alawol, ffurfiau set, a gwead a lliwio cerddorol. Dangosir hyn mewn perthynas a nifer o arddulliau caneuon, o Gwerin at Jazz a Roc. Disgwylir i’r myfyriwr feithrin sgiliau’r cyfarwyddwr cerdd hefyd, gan ddangos y gallu i drawsgrifio recordiad o gân bop a’i threfnu yn gywir ar gyfer gitâr fas ac un chwe thant, drymiau, piano, allweddellau, ac yn y blaen. Ar ddiwedd y cwrs fe fydd y myfyriwr yn medru cyfansoddi mewn nifer o arddulliau gwahanol, ac wedi meithrin ar y sgiliau o gyflwyno gwaith i safon boddhâol un ai’n electronaidd (ar ffeil MP3, CD, neu debyg) neu mewn nodiant cerddorol ar feddalwedd Sibelius.
    or
    WXK-2191: Songwriting (20)
    Students will be introduced to many basic and advanced aspects of composing in various song genres, with particular reference to the presentation of rhythmic counterpoint, harmonic vocabulary, melodic shaping, formal archetypes and lyrics in their songs. These will be illustrated with reference to a number of song styles, ranging from folk to jazz and rock genres. At the end of the module, the student will have created a small portfolio their own songs, and be able to present their work to a good standard either on audio CD or in written form. (For recordings this means that the sounds are distortion-free unless intentionally so, all elements are appropriately audible and relatively balanced in terms of level. Scores must be presented in an accepted form such as jazz lead-sheet, full score or popular piano-and-vocal sheet. They should follow the conventions of the particular style chosen and be clear, intelligible, and make sense for the harmonic language, time signature and instruments chosen.)

Semester 2

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.
  • CXC-2119: Gweithdy Rhyddiaith (20)
    Mewn dosbarthiadau seminar byddir yn astudio'n fanwl enghreifftiau o ryddiaith Gymraeg yn ogystal â darnau o draddodiadau llenyddol eraill (mewn cyfieithiad) - esiamplau y gall egin lenorion eu cymryd fel patrymau ar gyfer eu gwaith eu hunain. Y mae ymdrechu i ymgydnabod ag amrywiaeth o wahanol genres, dulliau a chonfensiynau llenyddol yn rhan hollbwysig o ddatblygiad pob llenor. Rhoddir y prif sylw, wrth gwrs, i ystyriaethau megis ffurfiau llenyddol a chrefft y llenor, ond byddir hefyd yn gosod hyn oll yn ei gyd-destun hanesyddol priodol er mwyn goleuo'r modd y datblygodd y gwahanol dechnegau hyn dros y canrifoedd. Byddir yn tynnu sylw at nifer o ddamcaniaethau beirniadol ynghylch perthynas llenor â'i waith, a pherthynas y gwaith hwnnw â chynulleidfa. Gosodir tasgau wythnosol yn y seminarau, a chynhelir dosbarthiadau tiwtorial er mwyn trafod cynnyrch a chynnydd gwaith y myfyrwyr. Cymar i'r modiwl hwn yw 'Ysgrifennu Barddoniaeth'.
  • WXC-2191: Ysgrifennu Caneuon
    Amcan y modiwl Sgiliau Ysgrifennu Caneuon yw cyflwyno’r myfyriwr i elfennau technegol a chreadigol bwysig y grefft o gyfansoddi cân dda, tra ar yr un pryd yn cynnig cipolwg ar ddatblygiadau ffurfiol y gân boblogaidd yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif drwy ddadansoddi enghreifftiau penodol. Cyflwynir sgiliau sylfaenol ynghŷd â rhai mwy soffistigedig o gyfansoddi a threfnu caneuon mewn nifer o genres gwahanol, gan gyfeirio yn arbennig at elfennau megis gwrthbwynt rhythmig, geirfa harmonig, siapio alawol, ffurfiau set, a gwead a lliwio cerddorol. Dangosir hyn mewn perthynas a nifer o arddulliau caneuon, o Gwerin at Jazz a Roc. Disgwylir i’r myfyriwr feithrin sgiliau’r cyfarwyddwr cerdd hefyd, gan ddangos y gallu i drawsgrifio recordiad o gân bop a’i threfnu yn gywir ar gyfer gitâr fas ac un chwe thant, drymiau, piano, allweddellau, ac yn y blaen. Ar ddiwedd y cwrs fe fydd y myfyriwr yn medru cyfansoddi mewn nifer o arddulliau gwahanol, ac wedi meithrin ar y sgiliau o gyflwyno gwaith i safon boddhâol un ai’n electronaidd (ar ffeil MP3, CD, neu debyg) neu mewn nodiant cerddorol ar feddalwedd Sibelius.
    or
    WXK-2191: Songwriting
    Students will be introduced to many basic and advanced aspects of composing in various song genres, with particular reference to the presentation of rhythmic counterpoint, harmonic vocabulary, melodic shaping, formal archetypes and lyrics in their songs. These will be illustrated with reference to a number of song styles, ranging from folk to jazz and rock genres. At the end of the module, the student will have created a small portfolio their own songs, and be able to present their work to a good standard either on audio CD or in written form. (For recordings this means that the sounds are distortion-free unless intentionally so, all elements are appropriately audible and relatively balanced in terms of level. Scores must be presented in an accepted form such as jazz lead-sheet, full score or popular piano-and-vocal sheet. They should follow the conventions of the particular style chosen and be clear, intelligible, and make sense for the harmonic language, time signature and instruments chosen.)

Optional Modules

60 credits from:

  • CXC-2001: Canu Llys (20) (Semester 1)
    Astudir y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, sef canu Taliesin ac Aneirin, a detholiad o gerddi Beirdd y Tywysogion. Rhoddir hyfforddiant i drafod y testunau gwreiddiol, gan roi sylw i ddiweddaru orgraff, sut i chwilio am ystyron geiriau anhysbys, diweddaru testunau gan roi sylw i atalnodi deallus. Yn achos Aneirin a Thaliesin fe drafodir y farddoniaeth fel cynnyrch traddodiad llafar, ac fel testunau llenyddol mewn cyd-destun cymharol, gan roi sylw arbennig i lenyddiaeth arwrol. Yn achos y Gogynfeirdd dangosir fel y diogelwyd geirfa, epithedau, a topoi Aneirin a Thalieisin, ac fel y cywreiniwyd eu harddull a'u harferion mydryddol.
  • CXC-2002: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXC-2023: Rhyddid y Nofel (20) (Semester 1)
    Gan ddilyn cynllun cronolegol, bydd y modiwl hwn yn cychwyn drwy sylwi'n gryno ar rai o fannau cychwyn y nofel Orllewinol yn ystod y Cyfnod Modern. Eir ati wedyn i gynnig trawsolwg o hynt y nofel Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan roi sylw arbennig i weithiau llwyddiannus Daniel Owen. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad cynrychioliadol o nofelau a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif, trafodir prif dueddiadau'r genre yn Gymraeg, e.e. y cronicl cymdeithasol; y nofel syniadau; y nofel hanes. Tynnir sylw at dechnegau'r nofelau, e.e. y traethydd hollwybodol; yr ymson fewnol; y traethydd annibynadwy. Ymhlith y nofelwyr y rhoddir enghreifftiau o'u gwaith dan y chwyddwydr bydd Saunders Lewis, Kate Roberts, T. Rowland Hughes, Islwyn Ffowc Elis, Alun Jones, Angharad Tomos, Robin Llywelyn a Mihangel Morgan. Mewn gair, ystyrir sut mae nofelwyr Cymraeg wedi ymelwa ar y rhyddid sy'n gynhenid i genre y nofel ac wedi ymdrechu i'w ymestyn ymhellach.
  • CXC-2028: Llenyddiaeth Gymraeg America (20) (Semester 2)
    Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r berthynas rhwng llenyddiaeth Cymru America a'u profiadau hanesyddol a chymdeithasol. Ceir cyflwyniad bras i ddiwylliant ymfudwyr Cymreig y cyfnod c.1600 - c. 2000, ond rhoddir sylw'n bennaf i gynnyrch llenyddol cymunedau Cymraeg yr Unol Daleithiau gan ganolbwyntio ar y cyfnod 1840-1900. Trafodir y modd y bu i awduron Cymraeg America harneisio holl gynhysgaeth ddiwylliannnol y Cymry a'i haddasu ar gyfer dibenion newydd mewn gwlad newydd. Astudir diwylliant Cymraeg Patagonia hefyd a chymharu llenyddiaeth y Wladfa â llên Cymry'r Unol Daleithiau. Bydd y cyfan yn gyfle i ystyried y berthynas rhwng llenyddiaeth a gwahanol fathau o hunaniaeth genedlaethol.
  • CXC-2029: Chwedlau'r Oesau Canol (20) (Semester 1)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad bras i chwedlau 'brodorol' yr Oesau Canol. Creffir yn fanwl ar rai chwedlau - megis Pedeir Keinc y Mabinogi a Kulhwch ac Olwen - gan archwilio nifer o'u nodweddion llenyddol (e.e. cymeriadu, strwythur, ac arddull). Rhoddir sylw hefyd i'r berthynas rhwng themâu'r chwedlau a chymdeithas yr Oesau Canol gan drafod cwestiynau perthnasol yn ymwneud ag awduraeth, dyddio a chyd-destun llawysgrifol y chwedlau.
  • CXC-2107: Barddoniaeth Fodern (20) (Semester 2)
    Yn ystod y modiwl hwn byddwn yn astudio mewn trefn gronolegol farddoniaeth rhai o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, o T. Gwynn Jones ar ei dechrau hyd at Gwyn Thomas ar ei diwedd. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad o gerddi unigol, ceisir awgrymu cyfraniad pob un o'r beirdd dan sylw at ddatblygiad barddoniaeth Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ceisir dangos hefyd sut y dylanwadodd eu cerddi ar waith beirdd eraill yn ystod y ganrif. O'r herwydd, er mai modiwl yn cynnig astudiaeth ddethol yn hytrach nag un gynhwysfawr yw hwn yn ei hanfod, ni fydd prinder cyfeiriadau cymharol at amryw feirdd eraill wrth fynd heibio. Yn ogystal â thynnu sylw mewn darlithoedd at fanylion bywgraffyddol a hanesyddol o bwys, cyfeirir hefyd at gysyniadau arwyddocaol fel Rhamantiaeth a Moderniaeth. Ac er mor amrywiol yw gwaith y beirdd dan drafodaeth, un thema y cyfeirir ati droen yn ystod y modiwl yw'r cydchwarae parhaus a welir ym marddoniaeth y ganrif rhwng traddodiad a newydd-deb.
  • CXD-2124: O'r Llyfr i'r Llwyfan (20) (Semester 2)
    Mewn cyfres o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a chyflwyniadau, bydd y modiwl hwn yn trafod y broses o addasu testunau llenyddol ar gyfer y llwyfan. Ttrafodir ystod o destunau gan wahanol awduron, o addasiad J.M. Edwards o Rhys Lewis gan Daniel Owen ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd addasiad mwy diweddar Siôn Eirian o Cysgod y Cryman Islwyn Ffowc Elis ar gyfer y Theatr Genedlaethol. Bydd cyfle i glywed addaswyr a chynhyrchwyr yn trafod y sialensau a’u hwynebodd. Bydd cyfle hefyd i baratoi addasiad o waith llenyddol byr.

20 credits from:

Year 3 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • CXC-3009: Traethawd Estynedig (20)
    Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasg ragarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.

Semester 2

  • CXC-3009: Traethawd Estynedig

  • CXC-3112: Gweithdy Cynghanedd (20)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.

Optional Modules

40 credits from:

  • CXC-3007: Barddoniaeth Fodern (20) (Semester 2)
    Yn ystod y modiwl hwn byddwn yn astudio mewn trefn gronolegol farddoniaeth rhai o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, o T. Gwynn Jones ar ei dechrau hyd at Gwyn Thomas ar ei diwedd. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad o gerddi unigol, ceisir awgrymu cyfraniad pob un o'r beirdd dan sylw at ddatblygiad barddoniaeth Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ceisir dangos hefyd sut y dylanwadodd eu cerddi ar waith beirdd eraill yn ystod y ganrif. O'r herwydd, er mai modiwl yn cynnig astudiaeth ddethol yn hytrach nag un gynhwysfawr yw hwn yn ei hanfod, ni fydd prinder cyfeiriadau cymharol at amryw feirdd eraill wrth fynd heibio. Yn ogystal â thynnu sylw mewn darlithoedd at fanylion bywgraffyddol a hanesyddol o bwys, cyfeirir hefyd at gysyniadau arwyddocaol fel Rhamantiaeth a Moderniaeth. Ac er mor amrywiol yw gwaith y beirdd dan drafodaeth, un thema y cyfeirir ati droen yn ystod y modiwl yw'r cydchwarae parhaus a welir ym marddoniaeth y ganrif rhwng traddodiad a newydd-deb.
  • CXC-3016: Medrau Cyfieithu (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl yn rhoi hyfforddiant i gyfieithu gwahanol fathau o destunau, yn bennaf o’r Saesneg i’r Gymraeg. Canolbwyntir ar gyfieithu darnau o ryddiaith ffeithiol: rhestrau o gyfarwyddiadau, erthyglau papur newydd, cofnodion cyfarfodydd ac ati. Rhoddir sylw arbennig i gyfieithu dogfennau swyddogol o bob math, gan roi sylw i ofynion proffesiynol y grefft.
  • CXC-3028: Llenyddiaeth Gymraeg America (20) (Semester 2)
    Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r berthynas rhwng llenyddiaeth Cymru America a'u profiadau hanesyddol a chymdeithasol. Ceir cyflwyniad bras i ddiwylliant ymfudwyr Cymreig y cyfnod c.1600 - c. 2000, ond rhoddir sylw'n bennaf i gynnyrch llenyddol cymunedau Cymraeg yr Unol Daleithiau gan ganolbwyntio ar y cyfnod 1840-1900. Trafodir y modd y bu i awduron Cymraeg America harneisio holl gynhysgaeth ddiwylliannnol y Cymry a'i haddasu ar gyfer dibenion newydd mewn gwlad newydd. Astudir diwylliant Cymraeg Patagonia hefyd a chymharu llenyddiaeth y Wladfa â llên Cymry'r Unol Daleithiau. Bydd y cyfan yn gyfle i ystyried y berthynas rhwng llenyddiaeth a gwahanol fathau o hunaniaeth genedlaethol.
  • CXC-3029: Chwedlau'r Oesau Canol (20) (Semester 1)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad bras i chwedlau 'brodorol' yr Oesau Canol. Creffir yn fanwl ar rai chwedlau - megis Pedeir Keinc y Mabinogi a Kulhwch ac Olwen - gan archwilio nifer o'u nodweddion llenyddol (e.e. cymeriadu, strwythur, ac arddull). Rhoddir sylw hefyd i'r berthynas rhwng themâu'r chwedlau a chymdeithas yr Oesau Canol gan drafod cwestiynau perthnasol yn ymwneud ag awduraeth, dyddio a chyd-destun llawysgrifol y chwedlau.
  • CXC-3101: Canu Llys (20) (Semester 1)
    Astudir y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, sef canu Taliesin ac Aneirin, a detholiad o gerddi Beirdd y Tywysogion. Rhoddir hyfforddiant i drafod y testunau gwreiddiol, gan roi sylw i ddiweddaru orgraff, sut i chwilio am ystyron geiriau anhysbys, diweddaru testunau gan roi sylw i atalnodi deallus. Yn achos Aneirin a Thaliesin fe drafodir y farddoniaeth fel cynnyrch traddodiad llafar, ac fel testunau llenyddol mewn cyd-destun cymharol, gan roi sylw arbennig i lenyddiaeth arwrol. Yn achos y Gogynfeirdd dangosir fel y diogelwyd geirfa, epithedau, a topoi Aneirin a Thalieisin, ac fel y cywreiniwyd eu harddull a'u harferion mydryddol.
  • CXC-3102: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXC-3123: Rhyddid Y Nofel (20) (Semester 1)
    Gan ddilyn cynllun cronolegol, bydd y modiwl hwn yn cychwyn drwy sylwi'n gryno ar rai o fannau cychwyn y nofel Orllewinol yn ystod y Cyfnod Modern. Eir ati wedyn i gynnig trawsolwg o hynt y nofel Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan roi sylw arbennig i weithiau llwyddiannus Daniel Owen. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad cynrychioliadol o nofelau a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif, trafodir prif dueddiadau'r genre yn Gymraeg, e.e. y cronicl cymdeithasol; y nofel syniadau; y nofel hanes. Tynnir sylw at dechnegau'r nofelau, e.e. y traethydd hollwybodol; yr ymson fewnol; y traethydd annibynadwy. Ymhlith y nofelwyr y rhoddir enghreifftiau o'u gwaith dan y chwyddwydr bydd Saunders Lewis, Kate Roberts, T. Rowland Hughes, Islwyn Ffowc Elis, Alun Jones, Angharad Tomos, Robin Llywelyn a Mihangel Morgan. Mewn gair, ystyrir sut mae nofelwyr Cymraeg wedi ymelwa ar y rhyddid sy'n gynhenid i genre y nofel ac wedi ymdrechu i'w ymestyn ymhellach.
  • CXD-3124: O'r Llyfr i'r Llwyfan (20) (Semester 2)