Module SCS-2018:
Cymdeithas, Iaith a Phrotest

Module Facts

Run by School of History, Philosophy and Social Sciences

20 Credits or 10 ECTS Credits

Semester 2

Organiser: Dr Rhian Hodges

Overall aims and purpose

Ymdrinia’r modiwl hwn â’r mudiad iaith fel symudiad cymdeithasol newydd gan olrhain hanes a chymdeithaseg ymgyrchoedd iaith yng Nghymru a chanolbwyntio ar rôl a dylanwad canu protest yng Nghymru a thu hwnt.

Yn ogystal, ffocws amlwg i’r modiwl hwn yw cynnig trosolwg effeithiol o ddatblygiadau polisi iaith a chynllunio ieithyddol yng Nghymru o safbwynt hanesyddol, beirniadol a damcaniaethol.

Cyflwynir cerrig milltir deddfwriaethol nodweddiadol y maes. Ymhellach, cynigir y modiwl hwn cyd-destun Ewropeaidd perthnasol sy’n darparu trosolwg cychwynnol o sefydliadau a deddfwriaethau allweddol i faes cynllunio ieithyddol.

Yna, yr ymdreiddir i feysydd allweddol i faes polisi a chynllunio ieithyddol yng Nghymru sef meysydd addysg cyfrwng Cymraeg, iechyd yng Nghymru a’r trydydd sector yng Nghymru yn benodol er mwyn asesu eu cyfraniad i ddatblygiadau cymdeithaseg iaith yn y Gymru gyfoes.1. Cyflwynir prif elfennau maes Cymdeithaseg Iaith sy’n cynnwys meysydd symudiad cymdeithasol, cymdeithaseg cerddoriaeth a chynllunio a pholisi ieithyddol.

Course content

  1. Trafodir a chroniclir hanes datblygiad mudiadau iaith, cerddoriaeth brotest a maes cynllunio ieithyddol er mwyn rhoi cyd-destun priodol i’r maes.

  2. Cynhelir astudiaeth o brif ddatblygiadau mudiadau iaith a chynllunio ieithyddol ym meysydd cerddoriaeth, addysg, iechyd a’r trydydd sector yng Nghymru gan gynnwys trosolwg sylfaenol o gyd-destun cynllunio ieithyddol Ewropeaidd.

  3. Ymdrinnir â’r mudiad iaith fel symudiad cymdeithasol newydd a thrafodir polisïau a strategaethau er cynllunio yng nghyd-destun polisi cymdeithasol beirniadol ieithyddol wedi’u gwreiddio mewn fframwaith ddamcaniaethol ehangach.

  4. Trafodir yn feirniadol brif strategaethau a pholisïau iaith ym maes addysg, iechyd a’r trydydd sector yng Nghymru fel astudiaethau achos hollbwysig yn natblygiad y maes Cymdeithaseg Iaith.

Assessment Criteria

threshold

D- i D+

Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o theorïau a phersbectifau ym maes mudiadau iaith, cymdeithaseg cerddoriaeth, cynllunio ieithyddol a pholisi iaith. Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o rôl mudiadau iaith fel symudiad cymdeithasol gan gynnig trosolwg sylfaenol o brif hanfodion maes cynllunio ieithyddol a pholisi iaith yng Nghymru yn ogystal.

good

C- i B+

Dangos dealltwriaeth dda o theorïau a phersbectifau ym maes mudiadau iaith, cymdeithaseg cerddoriaeth, cynllunio ieithyddol a pholisi iaith . Dangos dealltwriaeth dda o rôl mudiadau iaith fel symudiad cymdeithasol newydd gan gynnig trosolwg effeithiol o brif hanfodion maes cynllunio ieithyddol a pholisi iaith yng Nghymru yn ogystal.

excellent

A- i A+

Medru ymdrin yn feirniadol â theorïau a phersbectifau ym maes mudiadau iaith, cymdeithaseg cerddoriaeth, cynllunio ieithyddol a pholisi iaith . Dangos dealltwriaeth arbennig a’r gallu i werthuso’n feirniadol rôl mudiadau iaith fel symudiad cymdeithasol newydd gan gynnig trosolwg a dadansoddiad gwreiddiol o brif hanfodion maes cynllunio ieithyddol a pholisi iaith yng Nghymru yn ogystal.

Learning outcomes

  1. Arddangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad eang o hanes mudiadau iaith yng Nghymru.

    Dangos dealltwriaeth o ddamcaniaethau ‘symudiad cymdeithasol newydd’.

  2. Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brif rôl gwahanol ddulliau o brotest ac adeiladu consensws.

    Medru gwerthuso’n feirniadol datblygiad polisi a chynllunio ieithyddol o fewn y fframweithiau damcaniaethol addas.

  3. Deall a dadansoddi’r feirniadol brif gysyniadau allweddol maes Cynllunio Ieithyddol yng Nghymru.

    Cyflwyno darpariaeth Gymraeg o fewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru mewn modd beirniadol.

Assessment Methods

Teaching and Learning Strategy

Hours
Seminar

Seminarau - 1 awr yr wythnos am 12 wythnos.

12
Private study

Astudio annibynnol.

176
Lecture

Darlithoedd - 1 awr yr wythnos am 12 wythnos.

12

Transferable skills

  • Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
  • Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
  • Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
  • Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
  • Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
  • Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
  • Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
  • Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
  • Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
  • Leadership - Able to lead and manage, develop action plans and objectives, offer guidance and direction to others, and cope with the related pressures such authority can result in

Courses including this module

Optional in courses: