Modules for course T102 | BA/CHCY
BA Chinese and Cymraeg

These are the modules currently offered on this course in the 2019–20 academic year.

You can also view the modules offered in the years: 2018–19.

Find out more about studying and applying for this degree.

Use the buttons after the module titles (where available) to see a brief description of the content, or:
Show all descriptions
Hide all descriptions

Year 1 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • LZC-1003: Chinese for Beginners 1 (20) Core
  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg (20)
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • CXC-1016: Llenyddiaeth Gyfoes (10)
    Mae’r modiwl yn ystyried detholiad o wahanol genres gan dri awdur cyfoes, h.y. dwy nofel a chyfrol o gerddi. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at lyfrau gosod y modiwl: yn achos y tri thestun yn eu tro, cyflwynir cyfres o ddarlithoedd rhagarweiniol cyn rhannu’n ddiweddarach yn grwpiau seminarau a rydd gyfle ichi drafod y testunau ar lafar. Rhoddir deunyddiau sy’n berthnasol i’r modiwl o fewn yr amgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, a geir ar fewnrwyd PCB a bydd disgwyl i chwi lawrlwytho’r deunyddiau hyn drosoch eich hun. Ar Blackboard hefyd y bydd teitlau a llyfryddiaethau y tri thraethawd yn cael eu gosod. Dylech nodi’n ofalus y trefniadau ar gyfer y modiwl hwn a geir isod a chofio bod mynychu’r seminarau yn hanfodol bwysig gan y bydd 25% o’ch marc ar gyfer pob un traethawd yn seiliedig ar eich cyfraniad ynddynt.

Semester 2

  • CXC-1002: Llen y Cyfnod Modern Cynnar (10)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar – cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.
  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • LZC-1004: Chinese for Beginners 2 (20) Core

Optional Modules

20 credits from:

  • LZF-1003: French for Beginners I (20) (Semester 1)
    The module is devised to suit 'ab initio' and post-GCSE students of French and focuses on the development of basic oral, aural and written communicative skills. The module involves an introduction to and [in the case of those with GCSE knowledge of the language] a revision of key areas of grammar (present and past tenses, the future and conditional tenses, nouns, adjectives, prepositions). Students will acquire general vocabulary and key expressions relating to self, family, daily routine, hobbies, likes and dislikes, in part through role-play situations. Using appropriate audio/visual aids, students will also be introduced to modern and contemporary French culture and society. Key texts: Action Grammaire! 3rd edition by Phil Turk & Geneviève García Vandaele (Hodder Education, 2006). The French Experience 1 Marie Therese Bougard, Daniele Bourdais (BBC Publications, 2003) Students are given the following advice about purchasing a dictionary: “You may be able to manage with a concise one (not a pocket dictionary), but you should consider a ‘proper’ translating dictionary such as the Collins-Robert or Oxford-Hachette, and learn to use it effectively and regularly.”
    or
    LCF-1003: Ffrangeg i Ddechreuwyr I (20) (Semester 1)
    Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a myfyrwyr sydd wedi astudio Ffrangeg at TGAU. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar, gwrando ac ysgrifennu. Mae'r modiwl yn cynnwys cyflwyniad ac adolygu (yn achos rhai sydd eisoes wedi gwneud TGAU) y rhannau allweddol o ramadeg (yr amser presennol a'r gorffennol, y dyfodol a'r amodol, enwau, ansoddeiriau, arddodiaid). Bydd y myfyrwyr yn dysgu geirfa gyffredinol a'r ymadroddion allweddol sy'n ymwneud â'r hunan, y teulu, gweithgareddau bob-dydd, diddordebau, yr hyn maent yn ei hoffi/gasáu, a hynny yn rhannol trwy sefyllfaoedd chwarae rôl. Gan ddefnyddio'r cymhorthion sain/gweledol priodol, bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i'r diwylliant a'r gymdeithas Ffrengig heddiw. Key texts The following textbooks are used: Action Grammaire! 3rd edition by Phil Turk & Geneviève García Vandaele (Hodder Education, 2006). The French Experience 1 Marie Therese Bougard, Daniele Bourdais (BBC Publications, 2003) Students are given the following advice about purchasing a dictionary: “You may be able to manage with a concise one (not a pocket dictionary), but you should consider a ‘proper’ translating dictionary such as the Collins-Robert or Oxford-Hachette, and learn to use it effectively and regularly.”
  • LZG-1003: German for Beginners I (20) (Semester 1)
    The module is devised to suit 'ab initio' and post-GCSE students of German and focuses on the development of basic oral, aural and written communicative skills. The module involves an introduction to and [in the case of those with GCSE knowledge of the language] a revision of key areas of grammar (present and past tenses, the future and conditional tenses, nouns, adjectives, prepositions). Students will acquire general vocabulary and key expressions relating to self, family, daily routine, hobbies, likes and dislikes, in part through role-play situations. Using appropriate audio/visual aids, students will also be introduced to modern and contemporary German culture and society Key Text Storz, Thomas, Jutta Müller and Hartmut Aufderstraße, Delfin (Munich: Hueber Verlag, 2014). Websites SMLC offers a link list for all language students that covers the most important resources (newspapers, TV channels, online grammar and dictionaries, etc.) in the language(s) that they study: http://www.bangor.ac.uk/ml/links-german.php.en (German online resources) http://www.bangor.ac.uk/ml/links-welsh.php.en (Welsh medium resources) Additionally, students are encouraged to consult: English-German Context Dictionary: http://www.linguee.com/
  • LZI-1003: Italian for Beginners I (20) (Semester 1)
    This is a module running in semester 1 aimed at absolute beginners. This module intends to make students become familiar with the basic structures of the language in order to enable them to express themselves, both orally and in writing, on very simple topics related to everyday life situations. The textbook adopted for this course is 'Spazio Italia 1' (Loescher Editore). This particular text has been selected for its communicative approach to language teaching which, in conjunction with a more traditional approach to grammar, allows students to speed up their progress in all the four essential language learning skills of speaking, reading, listening and writing. Key Texts: Diaco, Mimma Flavia & Maria Gloria Tommasini, Spazio Italia 1, (Torino: Loescher Editore, 2011). Diaco, Mimma Flavia & Maria Gloria Tommasini, Spazio Italia 3, (Torino: Loescher Editore, 2011). Webpages: www.rainews.it www.repubblica.it Any other learning resources: Lingu exercises
  • LZS-1003: Spanish Begin./Intermed. 1 (20) (Semester 1)
    This module is aimed at ab initio and post GCSE students of Spanish and focuses on the development of basic oral, aural and written communicative skills. The module involves an introduction to (and in the case of those with GCSE knowledge of the language), a revision of key areas of grammar (present and past tenses, the future and conditional tenses, nouns, adjectives, prepositions) and general vocabulary and key expressions relating to self, family, daily routine, hobbies, likes and dislikes and role-play situations. Through selected audio/visual aids, students will also be introduced to Spanish culture and society. Textbook: Kattán, Juan, and Angela Howkins, Spanish Grammar in Context, 3rd edn (New York: Routledge, 2014)
    or
    LCS-1003: Sbaeneg i Ddechreuwyr 1 (20) (Semester 1)
    Mae'r modiwl hwn wedi ei anelu at ddechreuwyr a myfyrwyr sydd wedi astudio TGAU Sbaeneg ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar, clywedol ac ysgrifenedig sylfaenol. Mae'r modiwl yn cynnwys cyflwyniad ac (yn achos myfyrwyr sydd wedi astudio TGAU Sbaeneg) adolygiad o elfennau gramadegol allweddol (yr amser presennol a'r gorffennol, y dyfodol a'r amodol, enwau, ansoddeiriau, arddodiaid) a geirfa ac ymadroddion cyffredin sy'n ymwneud â'r hunan, y teulu, bywyd pob dydd, hobïau, hoff bethau a chas bethau a chwarae rôl. Trwy gymhorthion clywedol/gweledol cyflwynir myfyrwyr hefyd i ddiwylliant a chymdeithas Sbaenaidd. Llyfr cwrs: Kattán, Juan, and Angela Howkins, Spanish Grammar in Context, 3rd edn (New York: Routledge, 2014)
  • QXL-1110: Introduction to Language (20) (Semester 1)
    The course provides an overview of a wide range of topics in the study of natural language, including: 1. What is language? 2. Morphology: words and their structure. 3. Phonetics and Phonology: language sounds and sound systems. 4. Syntax: sentence structure 5. Semantics and Pragmatics: meaning and context 6. Language variation. 7. Language change. 8. Language acquisition 9. Language pathologies 10. Language and the brain Furthermore, the course provides guidance on how to plan & write an essay as well as other assessment methods, and on how to prepare effectively for examinations.
  • QXL-1112: Language, Literature & Culture (20) (Semester 2)
    1. the relationship between language, culture and thought processes, 2. the relationship between language and identity, 3. the structures of bilingual societies, 4. the different manifestations of multilingualism, particularly in relation to the concepts of bilingualism and diglossia, 5. the cultural, political, and anthropological issues surrounding minority languages & language policy.
  • LXE-1600: Transnational Cultures (20) (Semester 2)
  • LXE-1700: Creating National Histories (20) (Semester 1)

40 credits from:

  • Myfyrwyr IAITH CYNTAF yn unig
  • CXC-1001: Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer (10) (Semester 2)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Rhoddir y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol. Gwneir hyn drwy gyfres o astudiaethau manwl ar gerddi a darnau rhyddiaith unigol. (Darperir llyfryn gan yr Ysgol yn cynnwys y testunau hyn.) Gweithiau o’r ugeinfed ganrif yw’r mwyafrif o’r darnau a drafodir, ond byddir hefyd yn ymdrin yn feirniadol ag ambell awdl a chywydd o’r Oesoedd Canol, a cherddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrir swyddogaeth beirniadaeth lenyddol mewn gwahanol gyd-destunau – cystadlaethau eisteddfodol a chyfieithu llenyddol, er enghraifft. Er goleuo’r pwnc ymhellach, ymdrinnir â nifer o’r cerddi a’r darnau rhyddiaith Cymraeg ochr yn ochr â gweithiau Saesneg ac enghreifftiau o lenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad).
  • CXD-1013: Theatr Fodern Ewrop (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd, gan ganolbwyntio ar waith dramodwyr fel Ibsen a Strindberg. Bydd ail ran y modiwl yn trafod yr adwaith datblygiad y ddrama fodernaidd, gan ganolbwyntio ar ddramâu Mynegiadol, dramâu Brecht a Theatr yr Abswrd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau.
  • CXD-1016: Sgriptio Teledu (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.
  • CXC-1018: Gweithdy Creadigol (20) (Semester 2)
    Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. Defnyddir tri dull dysgu, sef seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Mewn seminarau, trafodir enghreifftiau llwyddiannus o wahanol genres ffuglennol a barddol, dulliau a chonfensiynau llenyddol. Tynnir sylw at amryw fathau o ysgrifennu creadigol a’u cynnig yn ganllawiau i’r rhai sy’n dilyn y modiwl, modelau y gallen nhw eu hefelychu wrth fynd ati i gyfansoddi eu hunain. Mewn gweithdai, gosodir ymarferion penodol i’r myfyrwyr weithio arnynt er mwyn hybu creadigrwydd a datblygu syniadau newydd. Mewn tiwtorialau a gynhelir yn gyson yn ystod y semester, rhoddir adborth i’r ymarferion dosbarth, trafodir syniadau’r myfyriwr unigol ar gyfer ei ffolio, a chynigir sylwadau ar unrhyw waith creadigol sydd ar y gweill.
  • CXC-1019: Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol (10) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.

Year 2 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu (20)
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.
  • LZC-2040: Chinese Language Skills (40) Core
  • LXC-2200: Contemporary Chinese Studies (20) Core

Semester 2

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.
  • LZC-2040: Chinese Language Skills
  • LXC-2200: Contemporary Chinese Studies

Optional Modules

40 credits from:

  • CXC-2002: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXD-2024: Y Theatr Gymraeg Fodern (20) (Semester 1)
    Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.
  • CXC-2026: Llên a Chymdeithas 1500 - 1740 (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad manwl i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaih datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, llawysgrif a llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i'r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymru. Trwy drafod Dyneiddiaeth, Protestaniaeth, Methodistiaeth a Chlasuriaeth ceir archwilio'r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol.
  • CXC-2033: Datblygiad yr Iaith (20) (Semester 2)
    Bydd tair rhan i'r cwrs: Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith. Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern. Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith.
  • CXC-2118: Gweithdy Barddoniaeth (20) (Semester 2)
    Fel Ysgrifennu Rhyddiaith (lefel 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (lefel 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw I’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema I’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a’r hen bennill; vers libre; y delyneg a’r villanelle; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a lefel 3; bydd y cynnwys yr un fath I’r ddwy lefel ond bydd natur y cwestiwn traethawd yn wahanol.
  • CXC-2202: Athroniaeth a Llenyddiaeth (20) (Semester 1)
    Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir (y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth). Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth (e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd). Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
  • CXC-2203: Blas ar y Wyddeleg (20) (Semester 2)

Year 4 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

Optional Modules

10 credits from:

  • LXE-3101: Approaching Translation (10) (Semester 2)
    This module aims to further develop and consolidate translation skills students have acquired in their language courses. By approaching translation as a process, it examines translation at different textual levels, from the lexico-grammatical level such as words and grammar, to the textual-pragmatic level such as cohesion, register and text types. It provides students with a framework to reflect on the translational difficulties in their chosen language pairs and explore strategies and their implications. Key texts Baker, Mona. In Other Words: A Coursebook on Translation, 2nd edition (London: Routledge, 2011). Hatim, Basil and Munday, Jeremy. Translation: an Advanced Resource Book (London: Routledge, 2004). Students will also require language specific resources such as a bilingual and monolingual dictionaries.
    or
    LCE-3101: Trin a Thrafod Cyfieithu (10) (Semester 2)
    Bwriad y modiwl hwn yw datblygu ac atgyfnerthu ymhellach sgiliau cyfieithu a enillwyd gan fyfyrwyr yn eu cyrsiau iaith. Trwy ystyried cyfieithu fel proses, mae'n craffu ar gyfieithu ar wahanol lefelau testunol, o lefel geiriau a gramadeg, i'r lefel destunol a phragmataidd sy'n ystyried cydlyniad, cywair a mathau o destun. Mae'n rhoi fframwaith i'r myfyrwyr i ystyried yr anawsterau cyfieithu yn y parau iaith a ddewiswyd ganddynt ac i ymchwilio i strategaethau a'u goblygiadau. Key texts Baker, Mona. In Other Words: A Coursebook on Translation, 2nd edition (London: Routledge, 2011). Hatim, Basil and Munday, Jeremy. Translation: an Advanced Resource Book (London: Routledge, 2004). Students will also require language specific resources such as a bilingual and monolingual dictionaries.
  • LXE-3102: Culture and the Body (10) (Semester 1)
  • LXE-3210: Press Dossier (10) (10) (Semester 1)
    This module provides students with the opportunity to examine a topical issue relevant to one or more countries/regions in which the target language is spoken. The chosen issue will be examined through the prism of the press and media, in order to develop an understanding not only of the specific issue in question, but also of the media landscape of the relevant society. The resulting dossier will comprise the analysis of contrasting media and press types in their coverage of the chosen topic, as well as an assessment of their importance in influencing public opinion. The dossier will be written in the target language, and should contain an appendix of materials which have been examined. Busà, M. Grazia, Introducing the Language of the News: a Student's Guide (London: Routledge, 2014) Stevenson, Nick, Understanding Media Cultures: Social Theory and Mass Communication (London; Thousand Oaks: Sage, 1995) Harrison, Martin, TV news, Whose Bias? : a Casebook Analysis of Strikes, Television and Media Studies (Hermitage, Berks.: Policy Journals, 1985) Stocchetti Matteo and Karin Kukkonen, Critical Media Analysis: an Introduction for Media Professionals (Frankfurt am Main ; New York: Peter Lang, 2011) Van Dijk, Teun A., Discourse and Communication: New Approaches to the Analysis of Mass Media Discourse and Communication (Berlin; New York: W. de Gruyter, 1985) Websites: This section of SMLC website lists some of the major newspaper, TV and radio sites in German, French, Spanish and Italian media: http://www.bangor.ac.uk/ml/uglinks.php
    or
    LCE-3210: Astudio'r Cyfryngau (S1) (10) (Semester 1)
    Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio pwnc cyfoes sy'n berthnasol i un neu fwy o wledydd/rhanbarthau lle y siaredir yr iaith darged. Gwyntyllir y pwnc a ddewisir drwy brism y wasg a'r cyfryngau, er mwyn magu dealltwriaeth o'r pwnc penodol ond hefyd o'r cyhoeddiadau a chyfryngau sydd ar gael yn y gymdeithas dan sylw. Bydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys dadansoddiad o sut y mae mathau cyferbyniol o gyhoeddiadau a chyfryngau yn ymdrin â'r pwnc, yn ogystal ag asesiad o'u pwysigrwydd wrth ddylanwadu ar farn y cyhoedd. Ysgrifennir yr adroddiad yn yr iaith darged, ac atodir y deunyddiau a drafodir wrtho. Busà, M. Grazia, Introducing the Language of the News: a Student's Guide (London: Routledge, 2014) Stevenson, Nick, Understanding Media Cultures: Social Theory and Mass Communication (London; Thousand Oaks: Sage, 1995) Harrison, Martin, TV news, Whose Bias? : a Casebook Analysis of Strikes, Television and Media Studies (Hermitage, Berks.: Policy Journals, 1985) Stocchetti Matteo and Karin Kukkonen, Critical Media Analysis: an Introduction for Media Professionals (Frankfurt am Main ; New York: Peter Lang, 2011) Van Dijk, Teun A., Discourse and Communication: New Approaches to the Analysis of Mass Media Discourse and Communication (Berlin; New York: W. de Gruyter, 1985) Websites: This section of SMLC website lists some of the major newspaper, TV and radio sites in German, French, Spanish and Italian media: http://www.bangor.ac.uk/ml/uglinks.php
  • LXE-3400: Joint Hons Diss (English) (10) (Semester 1 + 2) or
    LCE-3400: Traethawd Hir Cyd-A (Cym) (10) (Semester 1 + 2)
  • LXE-3444: Joint Hons Diss (Target Lang) (10) (Semester 1 + 2)
  • Joint Hons. Students may only take ONE LXE module (does not include dissertation). A dissertation must be taken in ONE joint hons. subject.

60 credits from:

  • CXC-3009: Traethawd Estynedig (20) (Semester 1 + 2)
    Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasg ragarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.
  • CXC-3016: Medrau Cyfieithu (20) (Semester 2)
    Bydd y modiwl yn rhoi hyfforddiant i gyfieithu gwahanol fathau o destunau, yn bennaf o’r Saesneg i’r Gymraeg. Canolbwyntir ar gyfieithu darnau o ryddiaith ffeithiol: rhestrau o gyfarwyddiadau, erthyglau papur newydd, cofnodion cyfarfodydd ac ati. Rhoddir sylw arbennig i gyfieithu dogfennau swyddogol o bob math, gan roi sylw i ofynion proffesiynol y grefft.
  • CXC-3018: Gweithdy Barddoniaeth (20) (Semester 2)
    Fel Ysgrifennu Rhyddiaith (lefel 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (lefel 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw I’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema I’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a’r hen bennill; vers libre; y delyneg a’r villanelle; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi.
  • CXD-3024: Y Theatr Gymraeg Fodern (20) (Semester 1)
    Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.
  • CXC-3026: Llên a Chymdeithas 1500 - 1740 (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaith datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, y llawysgrif a’r llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i’r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymry. Trwy drafod mudiadau megis Dyneiddiaeth a Phrotestaniaeth ceir archwilio’r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol, gan gynnwys Morgan Llwyd ac Ellis Wynne.
  • CXC-3033: Datblygiad yr Iaith (20) (Semester 2)
    Bydd tair rhan i'r cwrs: Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith. Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern. Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith. Bydd y modiwl hwn yn olrhain amryfal agweddau ar hanes y Gymraeg o’i chyfnodau cynharaf hyd at ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod ail hanner yr 20g. Cyflwynir y myfyrwyr i’r ymchwil diweddaraf sy’n ymwneud â datblygiad y Gymraeg yn y cyfnod ôl-Rufeinig a;i pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd; trafodir hefyd y ffynonellau cynharaf sy’n tystio i fodolaeth yr iaith. Cynigir arolwg o’r berthynas rhwng tafodieithoedd y Gymraeg a’i chyweiriau ysgrifenedig, ac anelir hefyd at amlinellu’r grymoedd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd a bennodd hynt y Gymraeg, yn enwedig o’r 16g hyd at y presennol.
  • CXC-3102: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXC-3202: Athroniaeth a Llenyddiaeth (20) (Semester 1)
    Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir: y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth. Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth: e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd. Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
  • CXC-3203: Blas ar y Wyddeleg (20) (Semester 2)