Module UXC-1001:
Cyfl. i Newyddiaduraeth Ymarf.

Module Facts

Run by School of Music and Media

20 Credits or 10 ECTS Credits

Semester 1

Organiser: Dr Ifan Jones

Overall aims and purpose

Dyma fodwl sy'n cyflwyno'r myfyrwyr i fyd newyddiaduraeth. Byddant yn dysgu'r gwahaniaeth rhwng ysgrifennu creadigol a ffeithiol, y sgiliau gwahanol sydd angen arnynt a sut i gynllunio straeon ffeithiol.

Caiff y myfyrwyr eu dysgu sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, sut i gynhyrchu straeon eu hunain a sut i olygu eu gwaith hefyd. Elfen bwysig o hyn fydd dysgu ymchwilio straeon. Bydd nifer o dasgau ganddynt i'w cwblhau a fydd yn eu hannog i fynd allan i gyfweld pobl `go iawn' a sut i ddewis a dethol y dyfyniadau gorau. Erbyn diwedd y modiwl byddant hefyd wedi cysylltu gyda golygyddion amrywiol gyhoeddiadau i geisio cyhoeddi eu gwaith.

Course content

  • Hanfodion ysgrifennu straeon newyddion
  • Sut i ysgrifennu Intros, Drop Intros, ac Intros Bywiog
  • Beth sy’n gwneud stori dda?; O le mae straeon yn dod?
  • Sut i greu llyfr contacts
  • Sut i gynnal cyfweliad
  • Ysgrifennu ar gyfer teledu a radio
  • Ysgrifennu erthyglau nodwedd
  • Cyflwyniad i llawfer
  • Ymdopi â newyddion sy’n torri.

Assessment Criteria

threshold

D

  • Gwybodaeth am brif feysydd / egwyddorion yn unig
  • Gwendidau o ran dealltwriaeth o brif feysydd
  • Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol
  • Nid yw’r ateb yn canolbwyntio’n ddigonol ar y cwestiwn ac mae peth deunydd amherthnasol a strwythur gwael
  • Cyflwynir y dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol
  • Nifer o wallau ffeithiol / cyfrifiadurol
  • Dim dehongli gwreiddiol
  • Disgrifir dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau
  • Peth datrys problemau
  • Nifer fawr o wendidau mewn cyflwyno a chywirdeb

good

C

  • Gwybodaeth am feysydd/egwyddorion allweddol
  • Yn deall y prif feysydd
  • Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol
  • Ateb yn canolbwyntio ar y cwestiwn ond hefyd mae peth deunydd amherthnasol a gwendidau yn y fframwaith
  • Cyflwynir y dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol
  • Nifer o wallau ffeithiol/ cyfrifiadurol
  • Dim dehongli gwreiddiol
  • Disgrifir dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau
  • Peth datrys problemau
  • Rhywfaint o wendid o ran cyflwyniad a chywirdeb

B

  • Gwybodaeth gref
  • Deall y rhan fwyaf ond nid y cyfan
  • Tystiolaeth o astudio cefndirol
  • Ateb pwrpasol gyda strwythur da
  • Dadleuon wedi’u cyflwyno’n gydlynol
  • Dim gwallau ffeithiol / cyfrifiadurol ar y cyfan
  • Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol cyfyngedig
  • Disgrifir cysylltiadau adnabyddus rhwng testunau
  • Ymdrinnir â phroblemau drwy ddulliau presennol
  • Cyflwyniad da, gyda chyfathrebu cywir

excellent

A

  • Gwybodaeth gynhwysfawr
  • Dealltwriaeth fanwl
  • Astudio cefndirol helaeth
  • Ateb â chanolbwynt clir iawn, ac wedi’i strwythuro’n dda
  • Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol
  • Dim gwallau ffeithiol / cyfrifiadurol
  • Dehongliad gwreiddiol
  • Datblygu cysylltiadau newydd rhwng testunau
  • Dull newydd o ymdrin â phroblem
  • Cyflwyniad rhagorol gyda chyfathrebu cywir iawn

Learning outcomes

  1. Dangos tystiolaeth o fedru ymchwilio straeon eu hunain

  2. Dangos tystiolaeth o fedru cynhyrchu straeon gwreiddiol eu hunain

  3. Dangos dealltwriaeth o adnabod straeon a'r gallu i'w dadansoddi

  4. Dangos dealltwriaeth o fedru ymdopi gyda chyfweliadau, rhai wedi trefnu a rhai heb rybudd

  5. Gwerthfawrogi anghenion gwahanol y wasg, radio a theledu

  6. Gwerthfawrogi pwysigrwydd canfod, meithrin a datblygu cysylltiadau

  7. Gwerthfawrogi'r angen i ysgrifennu straeon i'r hyd a ofynnir amdano

Assessment Methods

Type Name Description Weight
Portffolio Newyddion Caled: 1,500 o eiriau (LO 1-7) 30
Erthygl Nodwedd: 1,500 o eiriau (LO 1-7) 35
Datganiadau i'r Wasg 35

Teaching and Learning Strategy

Hours
Lecture

Darlithoedd 1-awr pob wythnos

11
Private study 178
Seminar

Seminarau Ystafell Newyddion Rithwir 1-awr pob wythnos

11

Pre- and Co-requisite Modules

Courses including this module

Compulsory in courses:

Optional in courses: