Module UXC-1062:
Iaith y Ffilm

Module Facts

Run by School of Music and Media

20 Credits or 10 ECTS Credits

Semester 2

Organiser: Dr Steffan Thomas

Overall aims and purpose

  1. Cyflwyno termau a chysyniadau allweddol yn ymwneud a dadansoddi ffilm a theledu
  2. Cyflwyno myfyrwyr i'r modd y mae gwneuthurwyr ffilmiau yn gwneud penderfyniadau ynglyn a ffurf eu ffilmiau
  3. Archwilio'r modd y mae gwneuthurwyr ffilmiau yn creu ystyr drwy amrywiaeth o dechnegau.

Course content

Mae'r cwrs hwn yn fodd o alluogi myfyrwyr i ddysgu hanfodion dadansoddi'r ddelwedd symydol. Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn dysgu terminoleg dechnegol a fydd yn eu cynorthwyo i ddadansoddi a dehongli y modd y mae ffilm yn cyfathrebu ystyr. Bydd darlithoedd unigol yn trafod pynciau megis Mise-en-Scene, Montage, Gwaith Camera, Sain, Goleuo ac Arddull Weledol. Bydd dangosiadau o ffilmiau perthnasol yn cael eu cynnal yn wythnosol, er mwyn cyflwyno engrheifftiau o'r pynciau dan sylw.

Bydd y ffilmiau a ddangosir yn cynnwys: A Man Escaped (Bresson, 1956), The Innocents (Clayton, 1961), City of God (Meirelles, 2002), Atonement (Wright, 2007), Bourne Ultimatum (Greengrass, 2007). The Red Shoes (Powell & Pressburger, 1948), ac Moulin Rouge! (Luhrman, 2001)

Assessment Criteria

good

B

  • Gwybodaeth gref
  • Deall y rhan fwyaf ond nid y cyfan
  • Tystiolaeth o astudio cefndirol
  • Atebion penodol gyda chynllun da
  • Dadleuon yn cael eu cyflwyno'n eglur
  • Fawr ddim gwallau ffeithiol a chyfrifiannol
  • Peth dehongliad gwreiddiol cyfyngedig
  • Disgrifio cysylltiadau gwybyddus rhwng testunau
  • Rhoi sylw i broblemau trwy ddefnyddio dulliau gweithredu sydd ar gael yn barod
  • Cyflwyniad da gyda chyfathrebu cywir

excellent

A

  • Gwybodaeth gwynhwysfawr
  • Dealltwriaeth fanwl
  • Astudio cefndirol eang
  • Ateb hynod benodol ac wedi ei gynllunio'n dda
  • Dadleuon a gyflwynir ac a amddiffynnir yn rhesymegol
  • Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol
  • Dehongliad gwreiddiol
  • Datblygu cysylltiadau newydd rhwng testunau
  • Dull newydd o ymdrin a phroblem
  • Cyflwyniad rhagorol gyda chyfathrebu cywir eithriadol

threshold

D

  • Gwybodaeth am feysydd/egwyddorion allweddol yn unig
  • Gwendidau mewn dealltwriaeth o'r prif feysydd
  • Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol
  • Ateb yn canolbwyntio'n wael ar y cwestiwn a chyda pheth gwybodaeth amherthnasol a chynllun gwael
  • Dadleuon yn cael eu cyflwyno ond diffyg cydlyniad
  • Amryw o wallau ffeithiol/cyfrifiannol
  • Dim dehongliad gwreiddiol
  • Dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau a ddisgrifir.
  • Peth datrys problemau
  • Llawer o wendidau mewn cyflwyniad a chywirdeb

Learning outcomes

  1. Gallu cymathu gwybodaeth weledol a defnyddio'r wybodaeth honno i lunio ymresymiad ysgrifenedig.

  2. Darllen a dadansoddi testun delwedd symudol mewn dull strwythuredig a gwybodus

  3. Defnyddio geirfa dechnegol a geirfa feirniadol sy'n berthnasol i drafodaeth am ddelweddau clyweled;

  4. Deall sut mae strwythur saethu a chyfansoddiad golygfa yn gweithio;

  5. Gallu dadansoddi clipiau ffilm byr, gan dalu sylw at y technegau ffurfiol a ddefnyddir ynddynt;

Assessment Methods

Type Name Description Weight
Arholiad 3 awr dosbarth 60
Traethawd 40

Teaching and Learning Strategy

Hours
Lecture

1 awr darlithoedd/wythnos

11
Private study 145
 

3 awr sgrinio / wythnos

33
Workshop

1 awr gweithdy / wythnos

11

Courses including this module

Compulsory in courses:

Optional in courses: