Module UXC-1062:
Iaith y Ffilm
Iaith y Ffilm 2023-24
UXC-1062
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Dyfrig Jones
Overview
Bydd y modiwl hwn yn rhoi pecyn cymorth i chi ar gyfer dadansoddi'r ddelwedd symudol yn ogystal â geirfa dechnegol i'ch galluogi i ddadansoddi a thrafod sut mae ffilmiau'n cyfleu ystyr. Bydd hefyd yn llywio eich dewisiadau creadigol eich hun fel gwneuthurwr ffilmiau.
Mae darlithoedd yn ymdrin â phynciau fel: Mise-en-Scene, Golygu, Gwaith Camera, Sain, Goleuo, Actio, Perfformio ac Arddull. Mae dangosiadau wythnosol yn dangos agweddau perthnasol ar ffurf ffilm. Mae ffilmiau i'w dangos yn newid yn rheolaidd i ddarparu amrywiaeth o gynnwys yn ogystal ag adlewyrchu amrywiaeth y rhai y tu ôl ac o flaen y camera ond gallant gynnwys : Get Out, American Psycho, Run Lola Run, Black Swan ac eraill.
Assessment Strategy
-threshold -D Gwybodaeth am feysydd/egwyddorion allweddol yn unig Gwendidau mewn dealltwriaeth o'r prif feysydd Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol Ateb yn canolbwyntio'n wael ar y cwestiwn a chyda pheth gwybodaeth amherthnasol a chynllun gwael Dadleuon yn cael eu cyflwyno ond diffyg cydlyniad Amryw o wallau ffeithiol/cyfrifiannol Dim dehongliad gwreiddiol * Dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau a ddisgrifir. Peth datrys problemau* Llawer o wendidau mewn cyflwyniad a chywirdeb
-good -B Gwybodaeth gref Deall y rhan fwyaf ond nid y cyfan Tystiolaeth o astudio cefndirol Atebion penodol gyda chynllun da Dadleuon yn cael eu cyflwyno'n eglur Fawr ddim gwallau ffeithiol a chyfrifiannol Peth dehongliad gwreiddiol cyfyngedig * Disgrifio cysylltiadau gwybyddus rhwng testunau Rhoi sylw i broblemau trwy ddefnyddio dulliau gweithredu sydd ar gael yn barod* Cyflwyniad da gyda chyfathrebu cywir
-excellent -A Gwybodaeth gwynhwysfawr Dealltwriaeth fanwl * Astudio cefndirol eang Ateb hynod benodol ac wedi ei gynllunio'n dda Dadleuon a gyflwynir ac a amddiffynnir yn rhesymegol Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol Dehongliad gwreiddiol * Datblygu cysylltiadau newydd rhwng testunau Dull newydd o ymdrin a phroblem Cyflwyniad rhagorol gyda chyfathrebu cywir eithriadol
Learning Outcomes
- Cydweithio’n effeithiol mewn prosiectau grŵp i ddadansoddi a thrafod ffilmiau a’u defnydd o iaith ffilm.
- Gallu cymhathu gwybodaeth weledol a defnyddio'r wybodaeth honno i lunio dadl ysgrifenedig a/neu glyweled
- Gallu dadansoddi clipiau ffilm byr, gan roi sylw i'w technegau ffurfiol
- Gallu darllen a dadansoddi testun delwedd symudol mewn ffordd strwythuredig a gwybodus
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Blog wythnosol yn cynnwys digon o fanylion (e.e. 100 gair yr elfen) yn crynhoi’r ddarlith, y dangosiad, y seminar a’r darllen.
Weighting
30%
Due date
09/01/2023
Assessment method
Group Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad Grŵp: mewn grŵp byddwch yn cynnal y seminar, gan ddyfeisio cyfres o ymarferion a phwyntiau trafod i ennyn diddordeb eich cyd-fyfyrwyr yng ng deunydd yr wythnos honno. Byddwch yn cael eich marcio yn ôl pa mor ddeniadol ydyw. Byddaf yn caniatáu cofnod llafar cyfatebol os nad ydych yn gallu cyflwyno'n bersonol.
Weighting
30%
Due date
09/01/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Dadansoddiad ffilm o olygfa allweddol o un ffilm yr ydym wedi'i hastudio yn cwmpasu'r elfennau allweddol a astudiwyd yn y modiwl a gyflwynir ar ffurf ysgrifenedig neu glyweledol.
Weighting
40%
Due date
09/01/2023