Module VPC-2206:
Crefydd, Cenedligrwydd a Rhiwi
Module Facts
Run by School of History, Philosophy and Social Sciences
20 Credits or 10 ECTS Credits
Overall aims and purpose
Nod y modiwl yw edrych ar rai o'r prif faterion rhywiol a drafodir gan athronwyr a meddylwyr crefyddol: ydi swyddogaethau gender ac atgenhedlol yn rhai naturiol ynteu a ydynt wedi'u datblygu gan gymdeithas? A ydyw'n rhaid i ryw ddigwydd o fewn sefydliad priodas? Pa fathau o weithgaredd rhywiol sy'n oddefadwy'n foesol ac o dan ba fath o amgylchiadau? A ddylai’r eglwys roi ei bendith ar briodasau hoyw? Bydd y modiwl hefyd yn ymdrin â sail y gormes mae merched wedi'i ddioddef dros y canrifoedd a bydd yn olrhain cynnydd a dylanwad y mudiad ffeministaidd a syniadau cyfredol ynghylch cydraddoldeb gender.
Course content
Bydd y modiwl yn dechrau drwy roi sylw i ba fathau o weithgaredd rhywiol a oddefir yn foesol. Oes raid iddo fod yn heterorywiol? A ydyw'n rhaid i ryw ddigwydd o fewn sefydliad priodas? Beth yw'r dadleuon o blaid ac yn erbyn ordeinio esgobion hoyw yn Eglwys Loegr? A ddylai’r eglwys roi ei bendith ar briodasau hoyw? Bydd y modiwl yn edrych wedyn ar y farn amlycaf yn yr Hen Destament a'r Newydd ynghylch rhyw, priodas ac ysgariad. Bydd wedyn yn olrhain cynnydd y pryder ynghylch cydraddoldeb gender a dylanwad y mudiad ffeministaidd. Yn olaf, ystyrir y ffordd y mae cwestiynau ynghylch moesoldeb rhywiol yn arwain at faterion mwy cyffredinol yn ymwneud â chysylltiadau cymdeithasol.
Assessment Criteria
threshold
D- – D+: Mae gwaith a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o fedrusrwydd fel a ganlyn: Cywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac elfennau wedi eu hepgor. Gwneir haeriadau heb dystiolaeth ategol glir neu resymu. Mae fframwaith i’r gwaith ond mae’n ddiffygiol o ran eglurder ac felly’n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau. Defnyddio amrywiaeth cymharol gul o ddeunydd.good
Da C- - C +. Mae’r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw ac o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae’n dangos: Fframwaith da a dadleuon wedi’u datblygu’n rhesymegol. Mae'n defnyddio'n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol. Da iawn B- - B+. Mae’r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw a gwelir arddull a dull a dewis o ddeunyddiau cefnogol sy'n rhagori. Mae’n dangos: Fframwaith da iawn a dadleuon sydd wedi’u datblygu’n rhesymegol. Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.excellent
Rhagorol A- - A*. Mae’r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol: Mae’n cynnwys esboniadau gwreiddiol gyda syniadau’r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg. Mae’n rhoi tystiolaeth glir o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol. Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau..Learning outcomes
- Gafael ar y prif faterion mewn dadleuon cyfoes yn ymwneud â moeseg rywiol
- Dealltwriaeth glir o'r safbwyntiau Iddewig a Christnogol yn ymwneud â rhyw, priodas a gender
- Dealltwriaeth glir o gynnydd y mudiad ffeministaidd a syniadau cyfredol ynghylch cydraddoldeb gender.
- Wedi datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig mewn trafodaethau a dadleuon.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Traethawd | 50 | ||
Arholiad | 50 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Darlithoedd 2 awr yr wythnos am 9 wythnos Seminarau 2 awr yr wythnos am 2 wythnos |
Courses including this module
Optional in courses:
- VV56: BA Philosophy and Religion year 2 (BA/PHRE)
- 3VQV: BA Philosophy and Religion and English Literature year 2 (BA/PREN)
- VVR1: BA Philosophy and Religion and French year 2 (BA/PRF)
- VVR2: BA Philosophy and Religion and German year 2 (BA/PRG)
- VVV1: BA Philosophy and Religion and History year 2 (BA/PRH)
- VVR3: BA Philosophy and Religion and Italian year 2 (BA/PRI)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 2 (BA/PRM)
- VVR4: BA Philosophy and Religion and Spanish year 2 (BA/PRS)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- VVV2: BA Philosophy and Religion and Welsh History year 2 (BA/PRWH)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 2 (LLB/LPR)