Modules for course X321 | BA/PIC
BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg

These are the modules currently offered on this course in the 2019–20 academic year.

You can also view the modules offered in the years: 2018–19; 2020–21.

Find out more about studying and applying for this degree.

Use the buttons after the module titles (where available) to see a brief description of the content, or:
Show all descriptions
Hide all descriptions

Year 1 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg (20)
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • CXC-1016: Llenyddiaeth Gyfoes (10)
    Mae’r modiwl yn ystyried detholiad o wahanol genres gan dri awdur cyfoes, h.y. dwy nofel a chyfrol o gerddi. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at lyfrau gosod y modiwl: yn achos y tri thestun yn eu tro, cyflwynir cyfres o ddarlithoedd rhagarweiniol cyn rhannu’n ddiweddarach yn grwpiau seminarau a rydd gyfle ichi drafod y testunau ar lafar. Rhoddir deunyddiau sy’n berthnasol i’r modiwl o fewn yr amgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, a geir ar fewnrwyd PCB a bydd disgwyl i chwi lawrlwytho’r deunyddiau hyn drosoch eich hun. Ar Blackboard hefyd y bydd teitlau a llyfryddiaethau y tri thraethawd yn cael eu gosod. Dylech nodi’n ofalus y trefniadau ar gyfer y modiwl hwn a geir isod a chofio bod mynychu’r seminarau yn hanfodol bwysig gan y bydd 25% o’ch marc ar gyfer pob un traethawd yn seiliedig ar eich cyfraniad ynddynt.
  • XAC-1026: Sgiliau ar gyfer Dysgu a Gwait (20)
    Bydd y modiwl yn ymchwilio i ystod o ddamcaniaethau dysgu, gan gynnwys damcaniaethau deallusrwydd Gardner, Salovey, Mayer ac eraill; a sut mae’r rhain yn berthnasol i arddulliau dysgu personol y myfyrwyr. Bydd cynnwys y modiwl yn cysylltu â’ch Cynllun Datblygu Personol Bydd: • yn datblygu sgiliau’r myfyrwyr yng nghyd-destun strategaethau darllen a gwneud nodiadau; • Crynhoi, cyfeirio, a’r defnydd effeithiol o wasanaethau llyfrgell ar-lein; • yn datblygu sgiliau ysgrifennu theoretig ac adfyfyriol yn cynnwys adolygu, beirniadu a gwerthuso testunau. • Yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu hyder mewn cyfathrebu llafar trwy gyflwyniadau mewn seminarau gyda’u cyfoedion; • Yn ymchwilio i effaith cymhelliant ar ddysgu a helpu myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o’u dysgu a'u cymhelliant eu hunain a gwerthuso eu profiadau dysgu, eu llwyddiannau a'u sialensiau.
    or
    XAE-1026: Skills for Learning & Work (20)
    The module will explore a range of learning theories, including the intelligence theories of Gardner, Salovey, Mayer and others; and how these relate to the students’ personal learning styles. It will: • develop the students’ skills in context of reading and note-taking strategies; • summarizing, referencing and the effective use of online library services; • develop theoretical and reflective writing skills including reviewing, critiquing and evaluating texts. • provide opportunities for students to develop confidence in oral communication through presentations in seminars with peers; • investigate the effect of motivation on learning and help students to develop a critical awareness of their own learning and motivation and evaluate their learning experiences, successes and challenges. The module will link into the students’ Personal Development Plan.
  • XAC-1035: Plant a Chymdeithas (20) or
    XAE-1035: Children and Society (20)

Semester 2

  • CXC-1002: Llen y Cyfnod Modern Cynnar (10)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar – cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.
  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • XAC-1033: Anturiaethau wrth Dyfu (20)
    Mae’r modiwl yn dechrau trwy ymchwilio’n gyffredinol i ddatblygiad y plentyn o’i eni hyd at y blynyddoedd cynnar. Ceir pwyslais ar: • Bwysigrwydd amgylchedd yr unigolyn, amgylchedd cemegol y genynnau yn y groth ac ar yr amgylchedd cymdeithasol yn ystod y blynyddoedd cynnar; • Damcaniaethau ynghylch datblygiad corfforol a gwybyddol yr unigolyn, yn enwedig effaith profiadau amgylcheddol y plentyn ar ei ddatblygiad gwybyddol; • Dylanwad rhyngweithiadau cymdeithasol ar ddatblygiad seico-gymdeithasol yr unigolyn; • Effaith diffyg dealltwriaeth o’r byd cymdeithasol neu ddiffyg profiadau cymdeithasol ar ddatblygiad plentyn; • Gwylio rhyngweithiadau plant ifanc ac ymchwilio i ddylanwad oedolion a chyfoedion ar ddatblygiad seico-gymdeithasol plant ifanc trwy astudiaethau achos a thrwy ymchwilio ac arsyllu'n ymarferol mewn lleoliadau perthnasol.
    or
    XAE-1033: Adventures in Growing Up (20)
    The module begins with a general exploration of the child’s development from birth to the early years. There is an emphasis on: • the importance of the individual’s environment, the chemical environment of the genes in the womb and a focus on the social environment during the early years; • theories regarding the physical and cognitive development of the individual, in particular the impact of the child’s environmental experiences on cognitive development; • social interactions on the psycho-social development of the individual; • the effect that a lack of understanding of the social world or lack of social experiences has on a child’s development; • observing young children’s interactions and investigating the influence of adults and peers on the psycho-social development of young children through case studies and through practical explorations and observations in a relevant settings. CRB Check compulsory to enable you to follow this module.

Optional Modules

40 credits from:

  • Myfyrwyr IAITH CYNTAF yn unig
  • CXC-1001: Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer (10) (Semester 2)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Rhoddir y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol. Gwneir hyn drwy gyfres o astudiaethau manwl ar gerddi a darnau rhyddiaith unigol. (Darperir llyfryn gan yr Ysgol yn cynnwys y testunau hyn.) Gweithiau o’r ugeinfed ganrif yw’r mwyafrif o’r darnau a drafodir, ond byddir hefyd yn ymdrin yn feirniadol ag ambell awdl a chywydd o’r Oesoedd Canol, a cherddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrir swyddogaeth beirniadaeth lenyddol mewn gwahanol gyd-destunau – cystadlaethau eisteddfodol a chyfieithu llenyddol, er enghraifft. Er goleuo’r pwnc ymhellach, ymdrinnir â nifer o’r cerddi a’r darnau rhyddiaith Cymraeg ochr yn ochr â gweithiau Saesneg ac enghreifftiau o lenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad).
  • CXD-1013: Theatr Fodern Ewrop (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd, gan ganolbwyntio ar waith dramodwyr fel Ibsen a Strindberg. Bydd ail ran y modiwl yn trafod yr adwaith datblygiad y ddrama fodernaidd, gan ganolbwyntio ar ddramâu Mynegiadol, dramâu Brecht a Theatr yr Abswrd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau.
  • CXD-1016: Sgriptio Teledu (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.
  • CXC-1018: Gweithdy Creadigol (20) (Semester 2)
    Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. Defnyddir tri dull dysgu, sef seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Mewn seminarau, trafodir enghreifftiau llwyddiannus o wahanol genres ffuglennol a barddol, dulliau a chonfensiynau llenyddol. Tynnir sylw at amryw fathau o ysgrifennu creadigol a’u cynnig yn ganllawiau i’r rhai sy’n dilyn y modiwl, modelau y gallen nhw eu hefelychu wrth fynd ati i gyfansoddi eu hunain. Mewn gweithdai, gosodir ymarferion penodol i’r myfyrwyr weithio arnynt er mwyn hybu creadigrwydd a datblygu syniadau newydd. Mewn tiwtorialau a gynhelir yn gyson yn ystod y semester, rhoddir adborth i’r ymarferion dosbarth, trafodir syniadau’r myfyriwr unigol ar gyfer ei ffolio, a chynigir sylwadau ar unrhyw waith creadigol sydd ar y gweill.
  • CXC-1019: Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol (10) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.

Year 2 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu (20)
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.

Semester 2

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.

Optional Modules

60 credits from:

  • XAC-2030: Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu (20) (Semester 1 + 2)
    Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar y canlynol: • hyrwyddo dysgu adfyfyriol ymysg myfyrwyr ynghyd â meddwl yn feirniadol ynghylch cynhwysiant a darparu ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. • materion yn ymwneud ag addysg gynhwysol, materion mynediad, cefnogi teuluoedd, deddfwriaeth a chefnogi unigolion wrth iddynt ennill eu hawliau ym meysydd addysg, gwasanaethau a’r gymdeithas; • craffu ar astudiaeth achos sy'n ymwneud â phlentyn neu berson ifanc penodol a gwerthuso effaith cefnogaeth yng ngoleuni darlleniadau eraill ac ymchwil arall; • mynychu lleoliad AAA a chadw llyfr log fel sail ar gyfer dadansoddi ac adfyfyrio’n feirniadol ar natur y ddarpariaeth mewn perthynas â’r gofynion statudol; • canfod cyfrifoldebau pobl a natur swyddogaethau yn y lleoliad a sut y cyflawnir anghenion y plant a’r bobl ifanc.
    or
    XAE-2030: Inclusion & Learning Needs (20) (Semester 1 + 2)
    The module will focus on; • promoting student reflective learning and critical thinking on inclusion of, and provision for, children and young people with ALN; • issues related to inclusive education, access issues, supporting families, legislation and supporting individuals in achieving their rights in education, services and society; • examining a case study related to a particular child or young person and evaluating the impact of support in light of other readings and research; • attending an SEN placement and keep a log book as a basis to critically analyse and reflect on the nature of the provision with regard to the statutory requirements; • identifying people’s responsibilities and the nature of roles in the setting and how the children and young people’s needs are met.
  • XAC-2032: Y Plentyn Byd-eang (20) (Semester 2) or
    XAE-2032: The Global Child (20) (Semester 2)
  • XAC-2035: Plant, Llythrennedd a Llen (20) (Semester 1 + 2)
    Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau perthnasol yn ymwneud â llythrennedd a llenyddiaeth plant, megis: • pwysigrwydd a gwerth arfogi plant â sgiliau llythrennedd yng nghyd-destun llenyddiaeth plant; • diffinio llythrennedd cynnar plentyn a’u llythrennedd datblygol; • damcaniaethau ynghylch sut dylid datblygu llythrennedd plant; • sut y gall rhieni hyrwyddo llythrennedd cynnar plant, Rhaglenni Sgiliau Sylfaenol Cymru – Rhaglen Iaith a Chwarae, Rhaglen Dechrau’n Deg; Rhaglen Cychwyn Cadarn; Twf; Mudiad Ysgolion Meithrin, Llyfrgellydd Plant; • gweithdy ymarferol ar sut i gyfansoddi stori, llyfr gwybodaeth, neu flodeugerdd i blant; gwerthuso sut mae defnyddio’r cyfansoddiadau sy’n cyfrannu at lythrennedd plant, dadansoddi detholiad o lenyddiaeth arwyddocaol; • ysgrifennu/creu stori, llyfr ffeithiol a barddoniaeth i blant, a dadansoddi nodweddion y ffurfiau hyn; • gwerthuso sut mae ymarferwyr gwahanol yn hyrwyddo sgiliau llythrennedd plant a gwahanol ddulliau, strategaethau ac adnoddau sy’n cynnal diddordeb plant mewn llythrennedd a darllen.
    or
    XAE-2035: Children Literacy & Literature (20) (Semester 1 + 2)
    The module will focus on a range of relevant topics on children’s literacy and literature, such as: • importance and value of arming children with literacy skills in the context of children’s literature; • defining a child’s early literacy and developmental literacy; • theories concerning the manner in which children’s literacy should be developed; • promotion of children’s early literacy by parents, Wales Basic Skills Programmes – Language & Play Programme, Fair Start Programme; Sure Start Scheme; Twf; Mudiad Ysgolion Meithrin (Nursery Schools Movement), Children’s Librarian; • practical workshop on how to compose a story, an informative book, or an anthology for children; evaluate how the use of the compositions contributes to children’s literacy, the analysis of a selection of significant literature; • writing/creating a story, a factual book and poetry for children, and analysing the characteristics of these forms; • evaluate how different practitioners promote children’s literacy skills and various methods, strategies and resources which maintain children’s interest in literacy and reading.
  • XAC-2040: Seicopatholeg Ymhlith Plant (20) (Semester 1 + 2) or
    XAE-2040: Psychopathology in Children (20) (Semester 1 + 2)
  • XAC-2041: Llencyndod (20) (Semester 2) or
    XAE-2041: Adolescence (20) (Semester 2)

40 credits from:

  • CXC-2002: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXD-2024: Y Theatr Gymraeg Fodern (20) (Semester 1)
    Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.
  • CXC-2026: Llên a Chymdeithas 1500 - 1740 (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad manwl i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaih datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, llawysgrif a llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i'r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymru. Trwy drafod Dyneiddiaeth, Protestaniaeth, Methodistiaeth a Chlasuriaeth ceir archwilio'r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol.
  • CXC-2033: Datblygiad yr Iaith (20) (Semester 2)
    Bydd tair rhan i'r cwrs: Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith. Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern. Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith.
  • CXC-2118: Gweithdy Barddoniaeth (20) (Semester 2)
    Fel Ysgrifennu Rhyddiaith (lefel 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (lefel 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw I’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema I’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a’r hen bennill; vers libre; y delyneg a’r villanelle; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a lefel 3; bydd y cynnwys yr un fath I’r ddwy lefel ond bydd natur y cwestiwn traethawd yn wahanol.
  • CXC-2202: Athroniaeth a Llenyddiaeth (20) (Semester 1)
    Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir (y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth). Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth (e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd). Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
  • CXC-2203: Blas ar y Wyddeleg (20) (Semester 2)

Year 3 Modules

Optional Modules

60 credits from:

  • XAE-3009: Multilingual Childhood (20) (Semester 2)
  • XAC-3036: Hunaniaethau mewn Plentyndod (20) (Semester 1) or
    XAE-3036: Identities in Childhood (20) (Semester 1)
  • XAC-3037: Plant a Cham-drin Sylweddau (20) (Semester 2)
    Bydd y modiwl hwn yn dadansoddi’n bennaf yr agweddau cymdeithasegol ar ddibyniaeth ar sylweddau yng nghyd-destun y teulu, ond bydd hefyd yn gwneud defnydd ar theorïau seicolegol a biolegol er mwyn archwilio’r materion isod yn drylwyr: • Pam y mae pobl yn camddefnyddio sylweddau • Ysmygu, yfed a defnyddio cyffuriau yn ystod beichiogrwydd • Yr effeithiau ar blant bach a gaiff ysmygu gan rieni • Alcoholiaeth rhieni mewn perthynas â phlant • Alcoholiaeth rhieni yng nghyswllt y system ofal • Gofalwyr ifainc mewn perthynas â rhieni sy’n ddibynnol ar sylweddau • Tyfu’n blentyn i riant sy’n ddibynnol ar gyffuriau • Byw gyda brodyr a chwiorydd sy’n gaeth i sylweddau • Gofalu am blant sy’n camddefnyddio sylweddau • Defnydd ar sylweddau mewn perthynas â’r gyfundrefn gyfreithiol • Asiantaethau ac ymyriadau a all helpu
  • XAE-3037: Substance Abuse in Families (20) (Semester 1)
    This module will primarily analyse the sociological aspects of substance dependence in the family context but will also make use of psychological and biological theories to provide a thorough examination of: a. Why people abuse substances b. Pregnancy & smoking, drinking and drug use c. Effects of parental smoking on infants d. Parental alcoholism and the care system e. Young carers and substance dependent parents f. Growing up as a child of a drug-dependent parent g. Living with addicted siblings h. Caring for children who abuse substances i. Substance use and the legal system j. Agencies and interventions that can help
  • XAC-3038: Plant ag Anawsterau Cyfathrebu (20) (Semester 2)
    Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth beirniadol myfyrwyr o Anawsterau Iaith a Chyfathrebu, a dadansoddi effaith y cyflyrau hyn ar sgiliau rhyngweithio cymdeithasol, a datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc trwy ymdriniaeth o: • Beth yw Cyfathrebu a chylch datblygiad iaith plentyn? • Fathau o Anawsterau Iaith a Chyfathrebu. • Beth mae’r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig, dogfennaeth statudol ac ymchwil yn ei ddweud? • Rol rhieni a gofalwyr yr unigolion ag Anawsterau Iaith a Chyfathrebu. • Oblygiadau’r rhwystredigaeth ar blant a phobl ifanc, megis problemau ymddygiadol ac emosiynol. • Rwydwaith gefnogi broffesiynol ag asiantaethau gwirfoddol • Raglenni ymyrraeth a strategaethau cefnogi i ymateb i anghenion unigolion ifanc sydd ag Anawsterau Iaith a Chyfathrebu.
    or
    XAE-3038: Children w. Com. Difficulties (20) (Semester 2)
    This module will concentrate on the development of students’ critical understanding of Language & Communication Difficulties, and analyse the effect of such conditions on the social interaction skills and emotional and social development of children and young people by giving attention to the following: • What is Communication and the development circle of a child’s language? • Different kinds of Language & Communication Difficulties. • What does the Special Needs Code of Practice, statutory documentation and research state? • The role of parents and carers of individuals with Language & Communication Difficulties. • The implications of frustration on children and young people, such as behavioural and emotional problems. • A professional support network with voluntary agencies. • Intervention programmes and support strategies in response t the needs of young individuals with Language & Communication Difficulties.
  • XAC-3039: Anawsterau Dysgu Dwys (20) (Semester 1 + 2)
    Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad nodweddiadol ym mlynyddoedd cynnar bywyd, a sut mae ymchwil i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddatblygiad, a dealltwriaeth ohonynt, yn dylanwadu ar addysg a gofal plant a phobl ifanc gydag ADD ac ADDLl. Bydd yn cynnwys: • Dysgu Cynnar a'r Cof • Datblygiad echddygol • Datblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu • Rhyngweithio rhwng babanod gydag anableddau a heb anableddau a'r rhai sy'n gofalu amdanynt - goblygiadau ar gyfer y datblygiad. • Datblygiad y golwg a chanfyddiad • Materion meddygol yn ymwneud ag ADD ac ADDLl • Materion wrth ymchwilio i ddatblygiad a dysgu cynnar iawn ac ADD ac ADDLl • .Asesu plant a phobl ifanc gydag amhariadau lluosog a'u datblygiad: canfyddiadau o ymchwil. • Ymyriadau cyffredin mewn cyfathrebu a rhyngweithio a'r dystiolaeth gyfredol ar gyfer y rhain, yn cynnwys materion wrth werthuso'r dystiolaeth ar gyfer ymyriadau. • Darpariaeth addysg a gofal i blant a phobl ifanc gydag ADDD ac ADDLl - goblygiadau ymchwil seicolegol a dulliau damcaniaethol eraill.
    or
    XAE-3039: Profound Learning Difficulties (20) (Semester 1 + 2)
    The module will focus on typical development in the early years of life, and how research on and understandings of the factors which influence development, inform the education and care of children and young people with SLD and PMLD. Content will include: • Early Learning and Memory; • Motor development; • Development of communication and socialisation; • Interactions between infants with and without disabilities and their caregivers - implications for the development; • Development of vision and perception; • Medical issues relating to SLD and PMLD; • Issues in researching very early learning and development and SLD and PMLD; • .Assessment of and development of children and young people with multiple impairment: insights from research; • Common interventions in communication and interaction and the current evidence base for these including issues in evaluating the evidence for interventions; • Education and care provision for children and young people with SLD and PMLD - implications of psychological research and other theoretical approaches.
  • XAC-3050: Seicoleg Plent a Throseddu (20) (Semester 1 + 2) or
    XAE-3050: Psych of Childhood&Crime (20) (Semester 1 + 2)
  • Students can do either XAC3037 or XAE3037

60 credits from:

  • CXC-3009: Traethawd Estynedig (20) (Semester 1 + 2)
    Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasg ragarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.
  • CXC-3016: Medrau Cyfieithu (20) (Semester 2)
    Bydd y modiwl yn rhoi hyfforddiant i gyfieithu gwahanol fathau o destunau, yn bennaf o’r Saesneg i’r Gymraeg. Canolbwyntir ar gyfieithu darnau o ryddiaith ffeithiol: rhestrau o gyfarwyddiadau, erthyglau papur newydd, cofnodion cyfarfodydd ac ati. Rhoddir sylw arbennig i gyfieithu dogfennau swyddogol o bob math, gan roi sylw i ofynion proffesiynol y grefft.
  • CXC-3018: Gweithdy Barddoniaeth (20) (Semester 2)
    Fel Ysgrifennu Rhyddiaith (lefel 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (lefel 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw I’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema I’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a’r hen bennill; vers libre; y delyneg a’r villanelle; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi.
  • CXD-3024: Y Theatr Gymraeg Fodern (20) (Semester 1)
    Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.
  • CXC-3026: Llên a Chymdeithas 1500 - 1740 (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaith datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, y llawysgrif a’r llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i’r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymry. Trwy drafod mudiadau megis Dyneiddiaeth a Phrotestaniaeth ceir archwilio’r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol, gan gynnwys Morgan Llwyd ac Ellis Wynne.
  • CXC-3033: Datblygiad yr Iaith (20) (Semester 2)
    Bydd tair rhan i'r cwrs: Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith. Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern. Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith. Bydd y modiwl hwn yn olrhain amryfal agweddau ar hanes y Gymraeg o’i chyfnodau cynharaf hyd at ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod ail hanner yr 20g. Cyflwynir y myfyrwyr i’r ymchwil diweddaraf sy’n ymwneud â datblygiad y Gymraeg yn y cyfnod ôl-Rufeinig a;i pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd; trafodir hefyd y ffynonellau cynharaf sy’n tystio i fodolaeth yr iaith. Cynigir arolwg o’r berthynas rhwng tafodieithoedd y Gymraeg a’i chyweiriau ysgrifenedig, ac anelir hefyd at amlinellu’r grymoedd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd a bennodd hynt y Gymraeg, yn enwedig o’r 16g hyd at y presennol.
  • CXC-3102: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXC-3202: Athroniaeth a Llenyddiaeth (20) (Semester 1)
    Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir: y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth. Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth: e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd. Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
  • CXC-3203: Blas ar y Wyddeleg (20) (Semester 2)