Module XAC-1035:
Plant a Chymdeithas

Module Facts

Run by School of Education and Human Development

20 Credits or 10 ECTS Credits

Semester 1

Organiser: Dr Nia Young

Overall aims and purpose

Mae'r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i astudiaeth gymdeithasegol plentyndod ac ieuenctid trwy drafod sut y mae cysyniadau a dealltwriaethau plentyndod yn cael eu pennu'n gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Archwilir y syniadau hyn gan drafod sut y mae syniadau hanesyddol yn effeithio ar sut y mae cymdeithas y 21ain Ganrif yn ystyried, portreadu a deall plant a phobl ifanc. Ystyrir ofnau oedolion am blentyndod ac ieuenctid cyfoes trwy drafod ffactorau megis y cyfryngau, addysg, technoleg, rhwydweithio cymdeithasol, teuluoedd a chyfoedion. Trafodir themau allweddol, meysydd o ddiddordeb a phynciau llosg sydd yn perthyn i fywydau plant a phobl ifanc gan ddefnyddio'r ymchwil mwyaf diweddar cenedlaethol a rhyngwladol ym maes Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid.

Course content

Cefnogir myfyrwyr i drafod a herio syniadau dominyddol am blentyndod ac ieuenctid trwy ymchwilio i bynciau megis y canlynol: Sut y mae cymdeithas yn adeiladu ystyr plentyndod ac ieuenctid? Sut y mae syniadau am blentyndod ac ieuenctid wedi newid dros amser? Portreadau o blentyndod ac ieuenctid (cyfryngau, addysg, gyfraith) Risg a gwytnwch Stereoteipio ar sail rhywedd Plentyndod ac ieuenctid fel adeg o ddiniweidrwydd/gwyro Marchnata plentyndod ac ieuenctid Sut y mae syniadau am rhywedd yn siapio ac effeithio ar hunaniaethau plant a phobl ifanc? Disney a phortreadau o rolau rhywedd Ydy technoleg wedi rhyddhau neu ddinistrio pobl ifanc? Ydy plant a phobl ifanc yn dioddef prynwriaeth neu ydy'n eu grymuso?

Assessment Criteria

threshold

Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r prif ddadleuon a chysyniadau ym maes astudiaethau plentyndod ac ieuenctid. Gallu digonol i drafod meysydd dylanwad allweddol ar fywydau plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes. Dealltrwriaeth o'r prif pryderon cyfoes am blant a phobl ifanc. Dealltwriaeth o sut y gall cysyniadau am blentyndod ac ieuenctid newid dros amser a chyd-destun.

good

Gwybodaeth a dealltwriaeth sylweddol o’r prif ddadleuon a chysyniadau ym maes astudiaethau plentyndod ac ieuenctid. Gallu da i drafod meysydd dylanwad allweddol ar fywydau plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes. Dealltrwriaeth dda o'r prif pryderon cyfoes am blant a phobl ifanc. Dealltwriaeth dda o sut y gall cysyniadau am blentyndod ac ieuenctid newid dros amser a chyd-destun ac effaith hyn ar blant a phobl ifanc.

excellent

Gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o’r prif drafodaethau a chysyniadau ym maes astudiaethau plentyndod ac ieuenctid. Gallu eithriadol i drafod meysydd dylanwad allweddol ar fywydau plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes. Dealltrwriaeth ardderchog o'r prif pryderon cyfoes am blant a phobl ifanc. Dealltwriaeth ardderchog o sut y gall cysyniadau am blentyndod ac ieuenctid newid dros amser a chyd-destun ac amrywiaeth effaithiau posib hyn ar blant a phobl ifanc.

Learning outcomes

  1. Dangos eu bod yn deall yn drylwyr sut y pennir cysyniadau plentyndod ac ieuenctid yn gymdeithasol, yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol.

  2. cynnal trafodaeth feirniadol ar brif feysydd dylanwad ar blant a phobl ifanc mewn cyd-destun cyfoes (megis y cyfryngau a thechnoleg)

  3. Dangos dealltwriaeth o allu canfyddiadau o blentyndod ac ieuenctid i newid ar draws amser a chyd-destun.

  4. Gwybodaeth a dealltwriaeth am 'bryderon' cyfoes am blant a phobl ifanc o fewn cymdeithas.

Assessment Methods

Type Name Description Weight
Written assignment, including essay Adfyfyriad Hanesyddol 40
ESSAY TRAETHAWD 60

Teaching and Learning Strategy

Hours
Lecture

Darlithoedd (11 @ 2 awr/wythnos)

22
Private study

Astudiaeth personol ( 167 awr)

167
Seminar

11 @ 1awr/wythnos

11

Transferable skills

  • Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
  • Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
  • Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
  • Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
  • Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
  • Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
  • Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
  • Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
  • Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
  • Caring - Showing concern for others; caring for children, people with disabilities and/or the elderly
  • Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
  • Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others

Subject specific skills

  • apply multiple perspectives to early childhood issues recognising that early childhood studies involves a range of research methods theories evidence and applications
  • integrate ideas and findings across the multiple perspectives in early childhood studies and recognise distinctive early childhood studies approaches to relevant issues
  • evaluate competing positions in relation to the construction of babies and young children and childhood by different subjects societal agents and time place and culture
  • constructively critique theories practice and research in the area of child development
  • critically explore examine and evaluate the significance of the cultural historical and contemporary features of various policies institutions and agencies in regard to babies young children and childhood

Resources

Courses including this module