Module HAC-1001:
Y Wladwriaeth Les
Y Wladwriaeth Les a Pholisi Cymdeithasol yng Nghymru 2024-25
HAC-1001
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Cynog Prys
Overview
Mae’r modiwl hwn yn ystyried datblygiad y wladwriaeth les a pholisi cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt. Trafodir cysyniadau allweddol yn y maes, gan gyflwyno safbwyntiau ideolegau amrywiol, gan ystyrir sut mae polisïau cymdeithasol yn cael eu llunio, gweithredu a'u hariannu. Mae'r modiwl yn edrych ar ddatblygiad polisïau cymdeithasol o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol, a gwneir hynny o fewn cyd-destun gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol. Ystyrier pwy yw'r prif ddarparwyr lles, ac edrychir yn arbennig ar y dimensiwn Cymreig wrth ystyried anghenion, polisïau cymdeithasol a darpariaeth lles yng Nghymru ddatganoledig. Yn ogystal â thrafod heriau’r dyfodol i’r wladwriaeth les yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r modiwl hwn yn ystyried datblygiad y wladwriaeth les a pholisi cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt. Trafodir cysyniadau allweddol yn y maes, gan gyflwyno safbwyntiau ideolegau amrywiol, gan ystyrir sut mae polisïau cymdeithasol yn cael eu llunio, gweithredu a'u hariannu. Mae'r modiwl yn edrych ar ddatblygiad polisïau cymdeithasol o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol, a gwneir hynny o fewn cyd-destun gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol. Ystyrier pwy yw'r prif ddarparwyr lles, ac edrychir yn arbennig ar y dimensiwn Cymreig wrth ystyried anghenion, polisïau cymdeithasol a darpariaeth lles yng Nghymru ddatganoledig. Rhoddir sylw bras i rôl yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â pholisïau cymdeithasol, yn ogystal â thrafod heriau’r dyfodol i’r wladwriaeth les yng Nghymru a thu hwnt.
Assessment Strategy
-threshold -(D- i C+)Er mwyn llwyddo ar y lefel yma bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflawni'r deilliannau i safon sylfaenol. Fe fydd y myfyrwyr yn gallu egluro ar lefel boddhaol beth yw polisi cymdeithasol, ac ymwybyddiaeth fras o'r cysyniadau allweddol yn y maes. Yn gallu disgrifio'r prif theorïau ym maes polisi cymdeithasol, ac yn deall ar lefel sylfaenol sut mae polisi cymdeithasol yn cael ei lunio a'u gweithredu, ac yn gallu egluro'n fras sut mae'r wladwriaeth yn ariannu a darparu gwasanaethau. Bydd gan y myfyrwyr ddealltwriaeth sylfaenol am ddatblygiad y gwasanaethau cymdeithasol ac yn gallu ymdrin yn fras a rhai o'r polisïau cymdeithasol cyfoes. Bydd y myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth sylfaenol am rôl y prif ddarparwyr, ac yn gallu dangosymwybyddiaeth gyffredinol o'r dimensiwn Cymreig ym maes Polisi Cymdeithasol. Dylai'r myfyrwyr gael dealltwriaeth elfennol am rôl yr Undeb Ewropeaidd ym maes Polisi Cymdeithasol.
-good -( B- i B+)Er mwyn llwyddo ar y lefel yma bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflawni'r deilliannau i safon da. Fe fydd y myfyrwyr yn gallu egluro yn dda beth yw polisi cymdeithasol, ac ymwybyddiaeth aeddfed o'r cysyniadau allweddol yn y maes. Yn gallu esbonio'r prif theorïau ym maes Polisi Cymdeithasol, ac a dealltwriaeth aeddfed o sut mae polisi cymdeithasol yn cael ei lunio a'u gweithredu, ac yn gallu egluro'n dda sut mae'r wladwriaeth yn ariannu a darparu gwasanaethau. Bydd y myfyrwyr a dealltwriaeth sylweddol am ddatblygiad y gwasanaethau cymdeithasol ac yn gallu ymdrin yn rhesymegol a rhai o'r polisïau cymdeithasol cyfoes. Bydd y myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth dda am rôl y prif ddarparwyr, ac o'r dimensiwn Cymreig ym maes Polisi Cymdeithasol. Dylai'r myfyrwyr ar y lefel yma gael dealltwriaeth aeddfed o rôl yr Undeb Ewropeaidd ym maes Polisi Cymdeithasol.
-excellent -(A- i A*)Er mwyn llwyddo ar y lefel yma bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflawni’r deiliannau i safon ragorol. Fe fydd y myfyrwyr yn gallu egluro'n drwyadl beth yw polisi cymdeithasol ac ymwybyddiaeth fanwl o'r cysyniadau allweddol yn y maes. Yn gallu dadansoddi'r prif theorïau ym maes Polisi Cymdeithasol, ac a dealltwriaeth fanwl o sut mae polisi cymdeithasol yn cael ei lunio a'u gweithredu, ac yn gallu egluro'n rhesymegol sut mae'r wladwriaeth yn ariannu a darparu gwasanaethau. Bydd y myfyrwyr a dealltwriaeth gynhwysfawr am ddatblygiad y gwasanaethau cymdeithasol ac yn gallu ymdrin yn rymus a rhai o'r polisïau cymdeithasol cyfoes. Bydd y myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth ragorol am rôl y prif ddarparwyr, ac o'r dimensiwn Cymreig ym maes Polisi Cymdeithasol. Dylai'r myfyrwyr ar y lefel yma gael dealltwriaeth ddofn am rôl yr Undeb Ewropeaidd ym maes polisi cymdeithasol.
Learning Outcomes
- • Dangos dealltwriaeth o ddatblygiad y wladwriaeth les yng Nghymru a Prydain gan amlygu ei gyd-destun hanesyddol.
- • Esbonio a dadansoddi cyfraniad y wladwriaeth mewn perthynas â lles cymdeithasol o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol;
- • Ymdrin â gwahanol safbwyntiau mewn perthynas â lles cymdeithasol a rôl y wladwriaeth;
- • Yn gyfarwydd â'r cyd-destun Cymreig wrth ystyried anghenion, polisïau cymdeithasol a darpariaeth lles yng Nghymru;
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
2,000 word essay
Weighting
50%
Due date
11/11/2022
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
2,000 word essay
Weighting
50%
Due date
12/12/2022