Module HAC-1105:
Moeseg: Agweddau Crefyddol
Moeseg: Agweddau Crefyddol 2022-23
HAC-1105
2022-23
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Modiwl - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Bydd y modiwl yn dechrau drwy drafod yr hyn a olygir wrth foeseg a’i phwysigrwydd fel nodwedd cymdeithas. Gyda hynny, ystyrir y modd y mae crefydd yn medru effeithio ar foeseg a sut fedr moeseg ddylanwadu ar grefydd. Eir ymlaen i ystyried rhai traddodiadau crefyddol penodol o’r hen fyd hyd at yr oes fodern, a hynny er mwyn galluogi myfyrwyr i sylweddoli a gwerthfawrogi’r modd yr ailymddangosai rai syniadau, daliadau ac egwyddorion crefyddol. Gan hynny, trafodir cymdeithas, crefydd a moeseg dau wareiddiad yr hen fyd, sef Mesopotamia a’r Aifft. Symudir wedyn i ystyried crefydd Israel ynghyd ag Iddewiaeth – y grefydd a ddeilliodd o Israel. Trafodir arwyddocâd y Deg Gorchymyn a’u goblygiadau moesegol. Ystyrir Cristnogaeth a moeseg hefyd mewn perthynas â’r Deg Gorchymyn, ond hefyd mewn perthynas â phregeth enwocaf Iesu – Y Bregeth ar y Mynydd. Yn dilyn hynny, trafodir moeseg mewn perthynas â Siciaeth, gan fanylu’n arbennig ar y tair dyletswydd sy’n greiddiol i ymddygiad a bywyd Siciaid. Gorffennir y modiwl drwy drafod moeseg a Bwdhaeth gan ystyried dysgeidiaethau’r Bwdha a thrwy gwestiynu a oes angen credu mewn ‘duw’ er mwyn bod yn foesol dda.
Assessment Strategy
-threshold -Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: • Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. • Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. • Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. • Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
-good -Da iawn B- i B+Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
-excellent -Ardderchog A- i A*Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: • Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. • Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. • Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
-another level-Da C- i C+Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd 1,500 gair
Weighting
50%
Due date
02/12/2022
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad Llafar
Weighting
50%
Due date
13/01/2023