Module LCM-4023:
Cyfieithu ar waith
Cyfieithu ar waith 2023-24
LCM-4023
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
30 credits
Module Organiser:
Helena Miguelez-Carballeira
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i gyfres o sgiliau methodolegol ac ymarferol a fydd yn eu galluogi i ymgyfarwyddo â chyfieithu. Bydd myfyrwyr yn gallu astudio agweddau o gyfieithu cymhwysol, yn cynnwys cyfieithu peirianyddol, meddalwedd cyfieithu, cyfieithu llenyddiaeth plant, theori terminoleg ac ymarfer i gyfieithwyr etc. Cânt gyflwyniad hefyd i gyfieithu ar y pryd, maes cyfagos. Bydd y dulliau a astudir yn ymwneud ag amrywiaeth eang o ieithoedd a diwylliannau, yn cynnwys Saesneg, Cymraeg, Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Arabeg, Tseiniaidd ac Eidaleg.

Assessment Strategy
-threshold -C- - C+: Dylai myfyrwyr ddangos dealltwriaeth boddhaol o'r testun a astudir, gan ffurfio casgliadau pendant ynghylch dilysrwydd a defnyddiau theori feirniadol yn gyffredinol.
-good -B- - B+: Bydd myfyrwyr sy'n derbyn y graddau asesu uwch wedi dadansoddi'r ffynonellau a ddarperir, gan werthuso deunydd eilaidd ar destunau penodol a'u hasesu fel maent yn ffurfio'u casgliadau argyhoeddiadol eu hunain.
-excellent -A- - A*: Er mwyn cael y graddau uchaf, bydd myfyrwyr wedi ychwanegu at y testunau a astudir yn y dosbarth gyda deunydd darllen gwreiddiol ac eilaidd ychwanegol. Byddant wedi dadansoddi a gwerthuso darlleniadau sydd eisoes yn bod o theori feirniadol a dod i'w casgliadau arloesol ac ystyriol eu hunain.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn cael mwy o ymwybyddiaeth o gysyniad cyfieithu cymhwysol a'i amrywiaeth eang o'i amlygiadau.
- Bydd myfyrwyr yn cael trosolwg o fethodoleg cyfieithu ac offer cyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi'r defnyddiau a dilysrwydd amrywiaeth eang o ddulliau ymarferol o gyfieithu.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
Portfolio
Weighting
40%
Due date
19/04/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd
Weighting
60%
Due date
05/05/2022