Module LCS-1001:
Sbaeneg Uwch 1
Sbaeneg Uwch 1 2023-24
LCS-1001
2023-24
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
David Miranda-Barreiro
Overview
Mae'r modiwl hwn yn galluogi i fyfyrwyr sydd wedi gwneud Lefel A ddatblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar mewn Sbaeneg drwy ehangu ar y gallu ieithyddol a gafwyd yn ystod Lefel A. Mae'n cynnwys dosbarthiadau wedi'u seilio ar destun lle mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal â dosbarthiadau llafar/gwrando, lle defnyddir ystod o gymhorthion clywedol a gweledol i ysgogi trafodaethau grŵp. Trwy gydol y modiwl, mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i adolygu a datblygu meysydd allweddol o ramadeg. Daw'r testunau a'r deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau yn cynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ag amrywiol gyweiriau. Trwy'r deunyddiau hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar themâu Sbaenaidd penodol a materion sy'n ymwneud â bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Sbaeneg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunan-astudiaeth gyd-gwricwlaidd.
Assessment Strategy
-threshold -40-49%: Trothwy: Gafael gyfyngedig ar eirfa a gramadeg a gallu cyfyngedig i gyfieithu ac aralleirio amrywiaeth o destunau gosod. Gallu llafar a chlywedol sylfaenol.
-good -50-69%: Da: Gafael gadarn ar eirfa a gramadeg a’r gallu i gyfieithu ac aralleirio’r amrywiaeth testunau gosod yn fedrus. Gallu llafar a chlywedol da.
-excellent -70+%: Rhagorol: Gafael ragorol ar eirfa a gramadeg a gallu rhagorol i gyfieithu ac aralleirio amrywiaeth o destunau gosod. Gallu llafar a chlywedol rhagorol.
Learning Outcomes
- Archwilio a gwerthuso rhai o'r themâu a'r dadleuon allweddol sy'n cael lle blaenllaw mewn diwylliant gyfoes Sbaenaidd.
- Cynhyrchu Sbaeneg cywir ac sy'n gywir yn idiomatig.
- Dangos gallu i dynnu gwybodaeth a gyflwynir mewn ffynonellau Ffrangeg/Sbaeneg a'i defnyddio i ateb cwestiynau yn yr iaith darged.
- Deall a chyfieithu testunau ysgrifenedig yn amrywio o ran arddull a chywair.
- Defnyddio meysydd geirfa newydd mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
- Defnyddio strwythurau gramadegol allweddol mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
- Sgwrsio a gwrando ar Sbaeneg, ei deall, ac ymateb iddi mewn cyd-destun rhyngweithiol.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad ysgrifennu creadigol
Weighting
25%
Due date
01/12/2023
Assessment method
Oral Test
Assessment type
Crynodol
Description
Trafodaeth lafar wedi'i hasesu
Weighting
25%
Due date
15/12/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad 2 awr
Weighting
50%
Due date
13/01/2023