Module SCL-3165:
Cyfraith Cymru
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Overall aims and purpose
Mae'r modiwl yma'n fodiwl opsiynol ar y gradd LLB. Nod y modiwl yma yw galluogi myfyrwyr i ddysgu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gywir o sut mae corff o gyfraith Cymreig wedi datblygu mewn ffordd gwahanol i'r gyfraith yn Lloegr, fel canlyniad o ddatganoli. Bydd yn galluogi myfyrwyr i adnabod gwahaniaethau pwysig yn y gyfraith, ac i asesu'r datblygiadau a'r gwahaniaethau hynny'n feirniadol.
Er nid yw'n angenrheidiol astudio modiwl Datganoli ynghyd a'r modiwl yma, mae'r naill modiwl yn gymhares i'r llall.
Course content
Mae'r modiwl yn edrych yn benodol ar sut mae cyfraith yng Nghymru wedi datblygu'n wahanol i'r gyfraith yn Loegr, a hynny oherwydd datganoli. Nid yw Cymru'n awdurdodaeth cyfreithiol ar wahan i Loegr ar hyn o bryd, oherwydd bod y farnwriaeth a'r llysoedd yn dilyn cyfraith Cymru a Lloegr a wneir gan Senedd y Deyrnas Unedig, ac felly nid yw'n benodol i Gymru; ond, mae yna gorff o gyfraith Cymreig sydd yn tyfu yn sydyn iawn. Gall hyn beri dryswch wrth geisio canfod lle mae'r gwahaniaethau yn y gyfraith, a pha gyfraith dylid gyfeirio ato mewn sefyllfa penodol. Felly, mae'n hynod bwysig bod gan unrhyw un sy'n ymwneud a'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr ddealltwriaeth llawn o'r gwahaniaethau pwysig yma
Caiff trosolwg bras o ddatganoli i gychwyn, er mwyn gwerthfawrogi'r cyd-destun ehangach, ynghyd ag esboniad o sut y caiff cyfraith ei greu yng Nghymru. Ceir hefyd astudiaeth fanwl a thrafodaeth difyr o'r meysydd cyfraith lle mae gwahaniaethau sylweddol rhwng Cymru a Lloegr, megis addysg, iechyg a chyfiawnder gweinyddol. Bydd cyfle hefyd i edrych yn feirniadol ar adroddiad Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (2019), ag edrychodd ar datganoli'r system cyfiawnder yn llawn yng Nghymru.
subject to validation in July
Assessment Criteria
C- to C+
Da/Boddhaol: Bydd myfyrwyr lefel C- i C+ yn llwyddo'n ddisgrifiadol yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.
C- i C+ Ateb sydd, er ei fod bob amser yn gywir gan fwyaf, serch hynny yn methu â gwahaniaethu rhwng deunydd perthnasol ac amherthnasol, ac sydd â diffyg beirniadaeth. Ateb sy’n ddibynadwy o ran cywirdeb, ond nad yw’n gynhwysfawr neu nad yw’n hollol berthnasol.
good
Da: Bydd myfyrwyr da (B- hyd at B+) yn llwyddo'n gadarn yn yr holl ddeilliannau dysgu a restrir.
B- hyd at B+ Ateb cynhwysfawr, yn cynnwys yr holl neu bron y cyfan o’r deunydd sy’n berthnasol i’r cwestiwn a dim amherthnasedd, neu ychydig iawn; yr holl ddeunydd a’r cyfeiriadau yn gywir at ei gilydd, heb ddim anghywirdeb na gwallau, gan gyflwyno’r cyfan mewn dadl glir, resymegol a beirniadol, ond sydd â lle i wella ei adeiladwaith a’i gyflwyniad. Ateb sy’n dangos hyfedredd llwyr yn y pwnc.
threshold
Trothwy: Bydd myfyrwyr (D- hyd at D+) yn dangos sgiliau ymchwil boddhaol mewn rhannau o leiaf o'r pwnc a ddewiswyd ganddynt, a byddant yn gwneud ymdrechion rhannol lwyddiannus o leiaf i archwilio a dadansoddi'r wybodaeth ac i ysgrifennu'r project mewn dull academaidd.
D- hyd at D+ Ateb sy'n gywir gan fwyaf o ran cyflwyno deunydd, ond sy’n cynnwys lefel sylweddol o wallau, ac felly nid yw’n hollol ddibynadwy.
excellent
Rhagorol: Bydd myfyrwyr rhagorol (A- hyd at A*) yn cyflawni'n gyson gadarn ar draws y deilliannau dysgu, ac yn cyfuno hyn â gwreiddioldeb, gwybodaeth eang o'r pwnc yn ei gyd-destun ehangach ynghyd â dadleuon a dadansoddiad treiddgar a soffistigedig.
A- hyd at A* Ateb rhagorol, sy’n dangos meistrolaeth dros y pwnc dan sylw heb fawr ddim lle o gwbl i wella. Mae’r ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd â gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o’r testun, heb fawr ddim camgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo’n berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol manwl o’r materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo’n berthnasol) wedi’u cyflwyno bron yn berffaith yn yr ateb, a bydd yr ateb wedi’i lunio’n hynod dda ac yn rhagorol yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg.
Learning outcomes
-
Ffurfio dehongliadau a dadleuon gwreiddiol ar bynciau'n ymwneud a gyfraith Cymreig, yn cynnwys creu cysylltiadau newydd rhwng pynciau perthnasol.
Formulate original interpretations and arguments on topics relating to Welsh law, including creating new links between relevant topics.
-
Canfod, cyfosod a dadansoddi'n feirniadol ffynhonellau cyfreithiol perthnasol wrth gynnal ymchwil annibynnol ar gyfraith Cymreig.
Identify, synthesise and critically analyse relevant legal resources while conducting independent research on Welsh law.
-
Cyfathrebu ac esbonio dadleuon rhesymegol yn gryno ac yn effeithiol, yn ysgrifenedig mewn arholiad.
Communicate and explain reasoned arguments succinctly and effectively, in writing in an examination.
-
Dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o ddatblygiadau diweddar mewn cyfraith Cymreig a'r tirwedd gwleidyddol ehangach, yn cynnwys y gallu i bwyso a mesur y gwahaniaethau rhwng y gyfraith yng Nghymru a'r gyfraith yn Loegr.
Demonstrate comprehensive understanding of recent developments in Welsh law and the wider political landscape, including the ability to evaluate the differences between the law in Wales and the law in England.
-
Dangos lefel uchel o fedrusrwydd wrth ddatblygu, strwythuro a mynegi dadleuon perthnasol yn ymwneud â materion yng nghyfraith Cymru.
Demonstrate a high level of skill in developing, structuring and articulating relevant arguments in relation to matters of Welsh law.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Traethawd | 40.00 | ||
Arholiad | 60.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Seminar | 2x 2hr seminar yr wythnos, unai yn fyw yn y dosbarth neu ar-lein |
40 |
Private study | Gweithio'n annibynnol i baratoi at y seminarau, ymchwilio ac ysgrifennu'r traethawd, ac adolygu ar gyfer yr arholiad |
160 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
Subject specific skills
- Develop the ability to interpret legal rules and employ techniques of legal reasoning competently and efficiently in order to offer a range of solutions and conclusions to actual or hypothetical complex legal problems, all supported by relevant academic literature, jurisprudence and legislative research. Such solutions will be clearly communicated and presented
- Develop the ability to analyse complex legal issues, set against the background of the political, social, economic or cultural contexts in which they may arise
- Develop those skills which are necessary for scholarship and research in legal subjects, namely the ability to identify relevant primary and secondary legal sources and to retrieve accurate legal information using paper and electronic sources
Resources
Resource implications for students
Dim, oni bai bod myfyrwyr eisiau prynu deunyddiau eu hunain.
Reading list
Mae'r modiwl yn edrych ar nifer o feysydd gwahanol felly nid oes un llyfr penodol i'w ddarllen. Bydd y darlithwyr yn gosod gwaith darllen yn y maes llafur yn ol beth sydd i'w gael ar y we ac am ddim, megis llyfr Keith Bush QC ar Gyfraith Cyhoeddus (ar gael ar wefan y Coleg Cymraeg), ac Adroddiad y Comisiwn Cyfiawnder.