Module SCS-3007:
Theori Gymdeithasegol
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Cynog Prys
Overall aims and purpose
Bydd y modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o wreiddiau theori gymdeithasegol glasurol. Ystyrir gwaith Durkheim, Marx a Weber, a’r modd y gosodwyd eu gwaith seilwaith ar gyfer datblygiad cymdeithaseg. Yn y modiwl hwn byddwn yn trafod; twf cyfalafiaeth, theori gwrthdaro, biwrocratiaeth, ffwythiannaeth a rheolaeth gymdeithasol. Byddwn hefyd yn ystyried y modd yr ymatebodd cymdeithasegwyr ffeministaidd i waith y cymdeithasegwyr hyn gan gynnig beirniadaeth o theori gymdeithasegol glasurol.
Course content
Bydd y modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o wreiddiau theori gymdeithasegol glasurol, gan gychwyn gydag ystyriaeth o syniadau meddylwyr yr Aroleuad a sut maent yn parhau'n ddylanwadol hyd heddiw. Ystyrir yn arbennig gyfraniad Emile Durkheim, Karl Marx a Max Weber at ddatblygiad theori gymdeithasegol. Ystyrir eu cyfraniad at ein dealltwriaeth o dwf cyfalafiaeth, theori gwrthdaro, biwrocratiaeth, ffwythiannaeth, a rheolaeth gymdeithasol. Yna edrychir ar gorff o waith sy'n feirniadol o theori glasurol, sef theori ffeministiaeth. Gwelir sut mae syniadaeth yn y maes hwn wedi datblygu'n hanesyddol hyd at y sefyllfa gyfoes. Mae theori ffeministiaeth yn cynnwys ystod eang o safbwyntiau gwleidyddol ac athronyddol, o ffeministiaeth ryddfrydol sy'n canolbwyntio ar greu newid yn amodau byw'r ferch unigol, hyd at y ffeminstiaid radical sydd am weld y sefyllfa gymdeithasol bresennol yn cael ei gwyrdroi'n llwyr. Maes astudiaeth ffeministiaid Marcsaidd-sosialaidd yw cyfalafiaeth a phatriarchaeth, ac ystyrir beirniadaeth y ffeministiaid hyn ar theori gymdeithasegol glasurol.
Assessment Criteria
threshold
Trothwy
Er mwyn llwyddo yn y modiwl hwn, bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflawni'r deilliannau ar y lefel sylfaenol h.y. bydd gofyn iddynt ddangos ymwybyddiaeth o brif weithiau theori glasurol a ffeministiaeth a'r prif gysyniadau perthnasol, bod yn ymwybodol o'r dylanwadau a fu ar eu syniadau.
good
Da
Bydd myfyrwyr da yn gallu dangos dealltwriaeth a barn aeddfed, yn gallu weld y cyswllt rhwng theoriau ac ymarfer cymdeithasol, ac yn gallu cyfeirio at weithiau ac enghreifftiau perthnasol.
excellent
Rhagorol
Bydd myfyrwyr rhagorol yn gallu defnyddio'r wybodaeth yn ddansoddol a beirniadol, ac yn gallu cymhwyso'r theoriau at sefyllfaeoedd cymdeithasol penodol.
Learning outcomes
-
Gallu cymhwyso cysyniadau cymdeithasegol clasurol i gymdeithas gyfoes.
-
Deall, egluro a dadansoddi gwreiddiau modelau a thraddodiadau cymdeithaseg.
-
Gallu ymdrin a dadansoddi ffynonellau cynradd gan y cymdeithasegwyr dan sylw.
-
Gallu deall a dadansoddi cryfderau a gwendidau gwahanol fodelau a damcaniaethau.
-
Gallu edrych yn feirniadol ar ddatblygiad theori gymdeithasegol.
-
Dangos cynnydd mewn dealltwriaeth o dystiolaeth a dadleuon cymhleth trwy astudiaeth annibynnol.
Assessment Methods
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Lecture | Darlith 1 awr x 12 wythnos |
12 |
Seminar | Seminar 1 awr x 12 wythnos |
12 |
Private study | Astudiaeth breifat - yn paratoi ar gyfer seminarau drwy ddarlleniadau wythnosol; darllen o amgylch testynau darlith yn wythnosol a pharatoi ar gyfer aseiniad ac adolygu ar gyfer arholiad. |
176 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Numeracy - Proficiency in using numbers at appropriate levels of accuracy
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- Dealltwriaeth o ddulliau ymchwil ynghyd a dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau darnau o ymchwil a’u defnydd
- Y gallu i lunio ac ymchwilio i gwestiynau sydd wedi seilio ar ddamcaniaeth a gwaith empirig mewn cymdeithaseg.
- Gwybodaeth ymarferol ynghylch defnydd o safbwyntiau damcaniaethol mawr a chysyniadau cymdethiasegol er mwyn deall bywyd cymdeithasol.
- Y gallu i ddadansoddi, asesu a throsglwyddo gwybodaeth gymdeithasegol empirig
- Y gallu i ymgysylltu ag amrywiaeth o strategaethau ymchwil ansoddol a meintiol a’r dulliau sydd yn terddu o’r ddau ddynesiad
- Y gallu i gynnal ymchwil polisi cymdeithasol neu gymdeithasegol annibynnol
Resources
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/scs-3007.htmlCourses including this module
Compulsory in courses:
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 3 (BA/CCCJ)
- LVJ1: BA Cymdeithaseg/Hanes year 3 (BA/HSW)
- L401: Polisi Cymdeithasol year 3 (BA/PC)
- L41B: BA Social Policy (4 year with Incorporated Foundation) year 3 (BA/SOCP1)
- L402: BA Social Policy year 3 (BA/SOCPOL)
- L40F: BA Social Policy [with Foundation Year] year 3 (BA/SOCPOLF)
- L3LK: BA Cymd gyda Phol Cymd year 3 (BA/SSPW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 3 (BA/SWW)
- LVH1: BA Cymdeithaseg/Hanes Cymru year 3 (BA/SWWH)
- L403: MSocSci Social Policy year 3 (MSOCSCI/SP)
Optional in courses:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 3 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 3 (BA/APIPC)
- M93B: BA Criminology & Criminal Just (4yr with Incorp Foundation) year 3 (BA/CCJ1)
- M931: BA Criminology & Criminal Justice with International Exp year 4 (BA/CJIE)
- M930: BA Criminology & Criminal Justice year 3 (BA/CRIM)
- M93P: BA Criminology and Criminal Justice with Placement Year year 4 (BA/CRIMP)
- LM4X: BA Polisi Cymdeithasol & Criminology and Criminal Justice year 3 (BA/PCCCJ)