Module SCW-4050:
Cyfraith i Waith Cymdeithasol1
Cyfraith i Waith Cymdeithasol 1 2023-24
SCW-4050
2023-24
School Of Medical And Health Sciences
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Gwenan Prysor
Overview
Bydd y themâu fydd yn cael sylw yn y modiwl yn cynnwys:
Gwaith Cymdeithasol a'r Gyfraith: Y Fframwaith Cyfreithiol, datblygu deddfwriaeth, hawliau a chyfrifoldebau Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat mewn Gofal Plant Diogelu plant: Atal ac Asesu Diogelu plant: Diogelu Brys Plant sy’n 'derbyn gofal' & Gadael Gofal Diogelu oedolion: Oedolion mewn risg Gofal yn y Gymunedol i Oedolion: Dyletswyddau a phwerau Asesiad & Gwasanaethau ar gyfer Oedolion & Gofalwyr Deddfwriaeth Galluedd a'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Ymyriad gorfodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a symud i fan diogel o dan Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Deddfwriaeth a wnaed yng Nghymru – gan gynnwys y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010, Mesur Iaith Gymraeg (Cymru) (2010) Mesur Codi Tâl am Ofal Cymdeithasol (Cymru) 2011 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gall yr wybodaeth sy'n ymwneud â chyfraith gwaith cymdeithasol yn y modiwl newid yn sgîl deddfwriaeth newydd a chyfraith achos.
Assessment Strategy
-threshold -(C):Dylai pob myfyriwr gyflawni'r isafswm safonau gofynnol. Dylai'r myfyriwr trothwy ddangos lefel sylfaenol o wybodaeth a dealltwriaeth o gyfraith gwaith cymdeithasol a lefel sylfaenol o allu i gymhwyso'r gyfraith i sefyllfaoedd ymarfer. Dylai hefyd fod a'r gallu sylfaenol i ddadansoddi yn feirniadol a deall goblygiadau cyfraith gwaith cymdeithasol ar gyfer gwerthoedd ac ymarfer gwrth-ormesol.
-good -(B):Dylai'r myfyriwr ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o gyfraith gwaith cymdeithasol a lefel gadarn o allu cymhwyso hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai fod capasiti cadarn i ddadansoddi'n feirniadol a deall goblygiadau'r gyfraith gwaith cymdeithasol ar gyfer gwerthoedd ac ymarfer gwrth-ormesol hefyd.
-excellent -(A- / A *):Bydd y lefel hon yn cael ei gyflawni fel arfer gan fyfyrwyr sydd ar y brig yn unig. Dylai'r myfyriwr rhagorol ddangos lefel soffistigedig o wybodaeth a dealltwriaeth o gyfraith gwaith cymdeithasol a gallu parhaus a chyson i ddefnyddio hyn mewn sefyllfaoedd ymarfer. Bydd y myfyriwr ardderchog yn dangos gallu cynhwysfawr i ddadansoddi'n feirniadol goblygiadau cyfraith gwaith cymdeithasol ar gyfer gwerthoedd ac ymarfer gwrth-ormesol.
Learning Outcomes
- Cymhwyso gwybodaeth fanwl am elfennau hanfodol o gyfraith gwaith cymdeithasol mewn perthynas â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed
- Dadansoddi rhai o'r heriau a'r atebion sy'n gysylltiedig â diogelu
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o system gyfreithiol a’i phosibiliadau a chyfyngiadau gweithredol o ran ymarfer gwaith cymdeithasol
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o’r gyfraith o ran ymarfer sy'n seiliedig ar hawliau, ac ymarfer dinesydd-ganolog a pherson-ganolog
- Dangos dealltwriaeth o'r fframwaith cyfreithiol yng Nghymru
- Dangos y gallu i gydbwyso gofynion gwerthoedd gwaith cymdeithasol sydd weithiau’n gwrthdaro â gofynion sefydliadol a/neu gyfreithiol
- Trafod cymhwyso’r gyfraith yn gymwys a datrys problemau gyfeirio at y ddarpariaeth cyfraith statudol yn ogystal â chyfraith achos
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad 3,000 o eiriau
Weighting
100%
Due date
17/11/2023