Module SCY-1004:
Cyflwyniad i Droseddeg
Cyflwyniad i Droseddeg 2024-25
SCY-1004
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gwenda Jones
Overview
Troseddeg, trosedd a gwyredd: gosod y cyd-destun Yr Ysgol Glasurol a Chlasuriaeth gyfoes Positifistiaeth Biolegol Positifistiaeth Seicolegol Anrhefn Gymdeithasol ac Anomie Theori Straen Gymdeithasol a Diwylliannol Theori Labelu Troseddeg Radical a Beirniadol Theori Rheolaeth Gymdeithasol Troseddeg Rhealaeth Troseddeg Ffeministiaeth
Troseddeg, trosedd a gwyredd: gosod y cyd-destun Yr Ysgol Glasurol a Chlasuriaeth gyfoes Positifistiaeth Biolegol Positifistiaeth Seicolegol Anrhefn Gymdeithasol ac Anomie Theori Straen Gymdeithasol a Diwylliannol Theori Labelu Troseddeg Radical a Beirniadol Theori Rheolaeth Troseddeg Rhealaeth Troseddeg Ffeministiaeth
Assessment Strategy
Excellent - A* hyd at A- Aseiniad: Dangos ymwybyddiaeth drylwyr a chynhwysfawr o achosion a phrif theorïau trosedd. Yn gallu egluro a dadansoddi'r prif theorïau'n drylwyr a chynhwysfawr, gan arddangos gwreiddioldeb meddwl wrth werthuso a chymhwyso theori i bolisi a thu draw. Gallu dadansoddi hanes trosedd ac ehangder diffiniadau, cyfiawnder a systemau cosb. Gallu cyflwyno dadl wedi ei saernïo'n grefftus ac ystod eang o ffynhonellau i gefnogi'r ddadl.Prawf Dosbarth: Dangos dealltwriaeth reymegol o'r prif gysyniadau, a thrafodaeth ragorol ddisglair wrth gymharu a gwrthgyferbynnu.
Good - B+ hyd at C- Aseiniad: Dangos ymwybyddiaeth gadarn o achosion trosedd a phrif theorïau trosedd; gallu cymharu a gwrthgyferbynnu theorïau'n glir a beirniadol ynghyd âr amryw ddiffiniadau o drosedd a phroblemau methodolegol; gallu trafod hanes trosedd, cyfraith a chyfiawnder troseddol a systemau cosb. gallu cyflwyno deunydd clir gan ganolbwyntio ar bwyntiau allweddol a thrafod ffynhonellau'n drylwyr a beirniadol.Prawf Dosbarth: Dangos dealltwriaeth dda a beirniadol o'r prif gysyniadau a chynnig cymhariaeth a gwrthgyferbyniaeth ystyrlon, glir.
Threshold - D+ hyd at D- Aseiniad: Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o rai o brif theorïau trosedd ynghyd â phroblemau methodolegol; gallu cymharu a gwrthgyferbynnu theorïau; gallu cyflwyno deunydd clir gan ganolbwyntio ar bwyntiau allweddol a thrafod ffynhonellau'n sylfaenol a chyffredinol.Prawf Dosbarth: Dangos dealltwriaeth sylfaenol o'r prif gysyniadau a chynnig cymhariaeth syml, boddhaol.
Learning Outcomes
- Archwilio effaith troseddu ar gymdeithas, gan gynnwys dioddefwyr troseddau.
- Dangos dealltwriaeth glir o wreiddiau troseddeg.
- Dangos dealltwriaeth o'r ffyrdd y mae troseddu wedi'i diffinio a'i hadeiladu mewn cyd-destunau cyfreithiol, cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol
- Dangos y gallu i leoli, dehongli a gwerthuso'n feirniadol (ar lefel gychwynnol) lenyddiaeth a thystiolaeth berthnasol sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol a gwyredd.
- Gallu cymharu a gwrthgyferbynnu prif bersbectifau troseddeg.
Assessment type
Summative
Weighting
50%
Assessment type
Summative
Weighting
50%