Module UXB-1018:
Ymarfer Creadigol
Ymarfer Creadigol 2023-24
UXB-1018
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Geraint Ellis
Overview
Dyma fodiwl sydd yn gosod sylfaen ar gyfer gweithgaredd creadigol pellach ar fodiwlau eraill ac sydd â phwyslais arbennig ar hybu creadigrwydd. Bydd y myfyrwyr hefyd yn dysgu mwy am y diwydiannau creadigol yn fwy cyffredinol a'r cyfleoedd posib sydd ar gael iddynt yn y dyfodol.
Bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn mynychu un ddarlith wythnosol a fydd yn rhoi sylw, ymhlith elfennau eraill, i’r agweddau canlynol o Ymarfer Creadigol: datblygu syniadau, ymchwil, sgriptio ffeithiol ac ym maes ffuglen, technegau a dulliau cynhyrchu, gweithio fel rhan o dim, rheoli prosiectau, creadigrwydd a chyflogadwyedd, a phwysigrwydd sector y Diwydiannau Creadigol. Trafodir yr agweddau hyn yng nghyd-destun ffilm, teledu, radio, podledu, newyddiaduraeth a chynnwys digidol yn gyffredinol. Byddant hefyd yn mynychu gweithdy wythnosol a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau a’u technegau creadigol. Yn y sesiynau hyn, bydd modd iddynt ddatblygu’r gwaith y byddant yn ei baratoi ar gyfer eu portffolio creadigol. Er mai gwaith unigol a gyflwynir ar gyfer yr asesiadau, bydd y myfyrwyr yn cymeryd rhan mewn ymarferion yn unigol ac fel rhan o dîm ystod y gweithdai. Rhoddir arweiniad ar faterion sydd yn ymwneud â diogelwch yn y gweithdai hyn ar gyfnodau priodol yn ogystal.
Assessment Strategy
-threshold -D- i D + (40-49%) - Gwybodaeth am feysydd / egwyddorion allweddol yn unig - Gwendidau o ran deall prif feysydd - Tystiolaeth gyfyngedig o astudiaeth gefndir - Ateb yn canolbwyntio'n wael yn unig ar gwestiwn a chyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a strwythur gwael - Dadleuon wedi'u cyflwyno ond diffyg cydlyniad - Sawl gwall ffeithiol / cyfrifiadol - Dim dehongliad gwreiddiol - Dim ond cysylltiadau mawr rhwng pynciau sy'n cael eu disgrifio - Datrys problemau cyfyngedig - Llawer o wendidau mewn cyflwyniad a chywirdeb - Yn rhagori ar y disgwyliadau ar gyfer rhai meini prawf sylfaenol - Gwybodaeth ffeithiol gymedrol gyda sawl gwendid mewn dealltwriaeth - Ychydig cyflwynir syniadau / dadleuon ond gyda gwendidau
-good -B- i B + (60-69%) - Gwybodaeth gref - Yn deall y rhan fwyaf ond nid y cyfan - Tystiolaeth o astudiaeth gefndir - Ateb â ffocws da gyda strwythur da - Dadleuon yn cael eu cyflwyno'n gydlynol - Yn rhydd o wallau ffeithiol / cyfrifiadol yn bennaf - Rhai dehongliad gwreiddiol cyfyngedig - Yn adnabyddus disgrifir cysylltiadau rhwng pynciau - Problemau sy'n cael eu trin gan ddulliau / dulliau presennol - Cyflwyniad da gyda chyfathrebu cywir
-excellent -A- i A * (70% +) - Gwybodaeth gynhwysfawr - Dealltwriaeth fanwl - Astudiaeth gefndir helaeth - Ateb â ffocws uchel a strwythur da - Dadleuon wedi'u cyflwyno a'u hamddiffyn yn rhesymegol - Dim gwallau ffeithiol / cyfrifiadol - Dehongliad gwreiddiol - Datblygir cysylltiadau newydd rhwng pynciau - Agwedd newydd at broblem - Cyflwyniad rhagorol gyda chyfathrebu cywir iawn
-another level-C- i C + (50-59%) - Gwybodaeth am feysydd / egwyddorion allweddol - Yn deall prif feysydd - Tystiolaeth gyfyngedig o astudiaeth gefndir - Ateb yn canolbwyntio ar gwestiwn ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur - Dadleuon wedi'u cyflwyno ond diffyg cydlyniant - Wedi sawl gwall ffeithiol / cyfrifiadol - Dim dehongliad gwreiddiol - Dim ond cysylltiadau mawr rhwng pynciau sy'n cael eu disgrifio - Datrys problemau cyfyngedig - Rhai gwendidau mewn cyflwyniad a chywirdeb
Learning Outcomes
- Y gallu i ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o brosesau ac ymarfer creadigol drwy ymgymeryd ag un neu fwy o ddulliau cynhyrchu (Datganiad Meincnodi QAA Cyfathrebu, Cyfryngau, Ffilm ac Astudiaethau Diwylliannol 4.4.viii., Rhagfyr 2019).
- Y gallu i ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae gwaith yn cael ei drefnu o fewn y diwydiannau creadigol, yn unigol ac yn gydweithrediadol (Datganiad Meincnodi QAA Cyfathrebu, Cyfryngau, Ffilm ac Astudiaethau Diwylliannol 4.5.iii., Rhagfyr 2019);
- Y gallu i ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prosesau sydd yn cysylltu cyn-gynhyrchu, cynhyrchu, dosbarthu, cylchredeg, derbyn a defnyddio yng nghyswllt ymarfer cyfryngau creadigol (Datganiad Meincnodi QAA Cyfathrebu, Cyfryngau, Ffilm ac Astudiaethau Diwylliannol 4.4.i., Rhagfyr 2019);
- Y gallu i gynnal gwaith ymchwil er mwyn llwyddo i adnabod cyfleoedd cyflogaeth (Datganiad Meincnodi QAA Cyfathrebu, Cyfryngau, Ffilm ac Astudiaethau Diwylliannol 5.6.xi, Rhagfyr 2019);
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
Creuwch bortffolio ysgrifenedig sydd yn cynnwys yr elfennau canlynol: (a) Cynnig ar gyfer syniad cynhyrchu a allai gael ei ddatblygu i gynhyrchiad teledu/radio, podlediad neu ffilm fer (500 gair); (b) Deunydd sgript gwreiddiol y gellid ei ddefnyddio yn y cynhyrchiad hwn, ee rhan o sgript ffuglen, rhan o sgript cyflwynydd (500 gair); (c) Rhagor o wybodaeth ddefnyddiol am y cynnig hwn, ee technegau/dulliau cynhyrchu, gwybodaeth am gyfranwyr, dyluniad y cynhyrchiad a lleoliadau allweddol, mwy o wybodaeth am y cynnwys yn gyffredinol, syniadau ynglŷn â sut i hyrwyddo'r cynhyrchiad, a sut y gellid ei ddatblygu'n bellach (500 gair); (ch) Crynodeb o 3-5 syniad arall y gellid eu datblygu fel cynhyrchiad teledu/radio, podlediad neu ffilm (1,000 o eiriau).
Weighting
60%
Due date
15/12/2023
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Recordiwch gyflwyniad 4-5 munud, gyda sleidiau atodol, yn egluro pwysigrwydd y Diwydiannau Creadigol. Yn ogystal â chyflwyno trosolwg cyffredinol, gallwch ddewis canolbwyntio ar agwedd arbennig o ymarfer creadigol fel rhan o’r cyflwyniad. Gellir defnyddio PowerPoint neu ddulliau eraill – rhoddir arweiniad pellach yn y darlithoedd/gweithdai.
Weighting
40%
Due date
15/01/2024