Module UXC-2052:
Radio a Phodledu
Radio a Phodledu 2023-24
UXC-2052
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Geraint Ellis
Overview
Dyma fodiwl sydd yn bwrw golwg ar hanes radio a phodledu, a gwahanol fathau o gynyrchiadau a dulliau cynhyrchu, gyda ffocws arbennig yn y cyswllt hwn ar gynyrchiadau dogfen a chylchgrawn. Yn ystod y gweithdai, byddwch yn datblygu portffolio o waith creadigol unigol a fydd wedi ei seilio ar y damcaniaethau a'r enghreifftiau a drafodir yn ystod y darlithoedd.
Bydd y darlithoedd yn cyflwyno'r myfyrwyr i nodweddion creiddiol y cyfrwng ac yn darparu trosolwg hanesyddol eang o'i ddatblygiad. Nesaf, fe archwilir amryw o ddulliau cynhyrchu, ac yna gwahanol fathau o gynyrchiadau, gan ddadansoddi enghreifftiau penodol. Bydd agweddau damcaniaethol y modiwl yn cael eu crynhoi yn derfynol gydag arolwg cysyniadol eang o natur y cyfrwng a sut mae hyn yn newid yn yr oes ddigidol. Bydd y gweithdai ymarferol yn cyd-redeg â’r darlithoedd, gyda’r myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cynhyrchu cyffredinol cyn iddynt gynllunio, ymchwilio a chreu eu gwaith cynhyrchu unigol. Bydd yr astudiaeth o ddulliau cynhyrchu, mathau o gynyrchiadau, a chynyrchiadau penodol yn y darlithoedd o gymorth i’r myfyrwyr gyda’r gwaith ymarferol hwn. Mae pwyslais arbennig ar gynhyrchu ffeithiol, ac ar gynyrchiadau dogfen a chylchgrawn.
Assessment Strategy
Trothwy - D: •Gwybodaeth am brif feysydd / egwyddorion yn unig •Gwendidau o ran dealltwriaeth o brif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Nid yw’r ateb yn canolbwyntio’n ddigonol ar y cwestiwn ac mae peth deunydd amherthnasol a strwythur gwael •Cyflwynir y dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Nifer o wallau ffeithiol / cyfrifiadurol •Dim dehongli gwreiddiol •Disgrifir dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau •Peth datrys problemau •Nifer fawr o wendidau mewn cyflwyno a chywirdeb
Da - C/B: •Gwybodaeth am feysydd/egwyddorion allweddol •Yn deall y prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Ateb yn canolbwyntio ar y cwestiwn ond hefyd mae peth deunydd amherthnasol a gwendidau yn y fframwaith •Cyflwynir y dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Nifer o wallau ffeithiol/ cyfrifiadurol •Dim dehongli gwreiddiol •Disgrifir dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau •Peth datrys problemau •Rhywfaint o wendid o ran cyflwyniad a chywirdeb
•Gwybodaeth gref •Deall y rhan fwyaf ond nid y cyfan •Tystiolaeth o astudio cefndirol •Ateb pwrpasol gyda strwythur da •Dadleuon wedi’u cyflwyno’n gydlynol •Dim gwallau ffeithiol / cyfrifiadurol ar y cyfan •Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol cyfyngedig •Disgrifir cysylltiadau adnabyddus rhwng testunau •Ymdrinnir â phroblemau drwy ddulliau presennol •Cyflwyniad da, gyda chyfathrebu cywir
Ardderchog - A: •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol helaeth •Ateb â chanolbwynt clir iawn, ac wedi’i strwythuro’n dda •Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Dim gwallau ffeithiol / cyfrifiadurol •Dehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng testunau •Dull newydd o ymdrin â phroblem •Cyflwyniad rhagorol gyda chyfathrebu cywir iawn
Learning Outcomes
- Arddangos nodweddion unigryw y cyfrwng a’i effaith ar y gwrandawr (Aseiniadau 1 a 2);
- Cyflwyno tystiolaeth o fod wedi dysgu a datblygu sgiliau cynhyrchu sain creiddiol ym meysydd datblygu ac ymchwilio rhaglenni, recordio, sgriptio a golygu (Aseiniad 1).
- Cynhyrchu gwaith unigol sydd yn dangos eu bod yn gallu trin sain yn effeithiol (Aseiniad 1);
- Dangos gwerthfawrogiad o nodweddion allweddol ystod o gynyrchiadau radio a phodlediadau (Aseiniad 2);
- Gallu trafod datblygiad hanesyddol radio a phodledu fel cyfrwng yn hyderus (Aseiniad 2);
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Crynodol
Description
Portffolio cynhyrchiad radio/podlediad sydd yn cynnwys dolenni a chyfweliadau
Weighting
60%
Due date
15/12/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd 2,000 o eiriau sydd yn gysylltiedig â phrif nodweddion y cyfrwng radio a phodledu
Weighting
40%
Due date
15/01/2024