Module UXC-2075:
Cynhyrchu'r Ffilm Fer
Cynhyrchu'r Ffilm Fer 2023-24
UXC-2075
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Dyfrig Jones
Overview
Yn y modiwl hwn byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol wrth greu ffilm fer. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm bach a dan oruchwyliaeth tiwtor i ddatblygu, cynhyrchu a chwblhau ffilm ddramatig fer. Cewch gyfle i ddatblygu sgiliau recordio a golygu fideo a sain. Byddwch yn ymarfer y dulliau a ddefnyddir ar gyfer rheoli a chyfarwyddo cynhyrchiad byr o fewn y diwydiant ffilm. Erbyn diwedd y modiwl byddwch wedi cynhyrchu ffilm ddramatig, wedi gweithio ar y cyd mewn tîm cynhyrchu, ac wedi datblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae ffilmiau'n cael eu gwneud.
Bydd rhan gyntaf y cwrs yn dysgu'r myfyrwyr am bedair brif elfen o gynhyrchu ffilm fer
- Recordio fideo
- Recordio sain
- Golygu fideo
- Golygu sain a dybio
Yn dilyn hyn bydd pob grŵp yn gweithio o dan oruwchwyliaeth tiwtor i ddatblygu a chwblhau'r ffilm. Bydd y tiwtor yn rhoi adborth cyson i fyfyrwyr am eu gwaith, ac yn cydweithio gyda hwy i adnabod meysydd sydd angen eu datblygu, yn rhoi canllawiau am sut y gall pob grŵp, a phob myfyriwr unigol, wella eu gwaith.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (40% ac uwch: Gwybodaeth am feysydd neu egwyddorion allweddol yn unig Peth dealltwriaeth o'r prif feysydd Tystiolaeth gyfyngedig iawn o astudio cefndirol Methu canolbwyntio yr ateb ar y cwestiwn * Ateb yn cynnwys deunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur Dadleuon unigol yn cael eu cyflwno, ond diffyg undod i'r cyfanwaith Nifer o wallau ffeithiol * Dim dehongliad gwreiddiol Disgrifio'r cysylltiadau pwysig rhwng pynciau yn unig Gallu cyfyngedig i ddatrys problemau* Rhai gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb
-good -Da 50% ac uwch: Gwybodaeth gadarn Yn deall y rhan fwyaf o'r pwnc, ond nid popeth Tystiolaeth o astudio cefndirol Ateb gyda amcan bendant, wedi ei strwythuro'n da Dadleuon wedi eu cyflwyno yn rhesymegol Nifer fechan iawn o gamgymeriadau ffeithiol Peth dehongliad gwreiddiol Cysylltiadau amlwg rhwng pynciau yn cael eu disgrifio* Ateb problemau drwy ddefnyddio dulliau cyfarwyddCyflwyniad da gyda chyfathrebu cywir
-excellent -Gwych (70% ac uwch): Gwybodaeth gadarn Yn deall y rhan fwyaf o'r pwnc, ond nid popeth Tystiolaeth o astudio cefndirol Ateb gyda amcan bendant, wedi ei strwythuro'n da Dadleuon wedi eu cyflwyno yn rhesymegol Nifer fechan iawn o gamgymeriadau ffeithiol Peth dehongliad gwreiddiol Cysylltiadau amlwg rhwng pynciau yn cael eu disgrifio* Ateb problemau drwy ddefnyddio dulliau cyfarwyddCyflwyniad da gyda chyfathrebu cywir
Learning Outcomes
- Arddangos sgil technegol mewn un agwedd o gynhyrchu ar gyfer y cyfryngau
- Creu dogfennau cynhyrchu cyfryngol i safon broffesiynol
- Esbonio a defnyddio y brif brosesau sydd ynghlwm a chynhyrchu ffilm
- Myfyrio'n feirniadol ar eich perfformiad eich hun, a dulliau o weithio o fern tîm cynhyrchu cyfryngau
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Ffilm fer oddeutu tri munud o hyd, wedi ei chynhyrchu gyda gweddill aelodau'r grwp
Weighting
40%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd yn dadansoddi y broses o gynhyrchu ar gyfer y cyfryngau
Weighting
20%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Portfolio o waith ysgrifenedig yn deillio o'r broses gynhyrchu. Bydd union gynnwys y portffolio yn amrywio yn ddibynnol ar natur y ffilm, i'w gytuno gyda'r darlithydd yn ystod y cyfnod dysgu.
Weighting
40%