Module VPC-1303:
Cyflwyniad i Gristnogaeth
Cysgod y Groes: Cristnogaeth yn y Byd Modern 2024-25
VPC-1303
2024-25
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Bydd y modiwl yn archwilio amryw feysydd, gan gynnwys: Seiliau Cristnogaeth: y Testament Newydd, dysgeidiaeth Iesu, a’r Eglwys Fore; Yr enwadau amrywiol o fewn Cristnogaeth; Agweddau amrywiol ar ddiwinyddiaeth Gristnogol, gan gynnwys athrawiaeth y Drindod Sanctaidd a Christoleg; Cristnogaeth yn y byd modern; Bedydd a’r cymun; Cristnogaeth mewn cymdeithas gyfoes: elusennau Cristnogol ac ymarferoldeb bod yn Gristion o fewn cymdeithas anghristnogol.
Assessment Strategy
-threshold -TrothwyD- i D+Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: •Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. •Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. •Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. •Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
-good -Da iawnB- i B+Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: •Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. •Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. •Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. •Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
-excellent -ArdderchogA- i A*Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: •Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. •Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. •Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
-another level-DaC- i C+Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: •Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. •Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. •Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. •Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Learning Outcomes
- • Bod yn ymwybodol o natur gymysg y ffydd Gristnogol a bod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau hanesyddol, enwadol a diwylliannol rhwng Cristnogion.
- • Dangos gallu i drin a thrafod y ffydd Gristnogol a’i hymarfer yn yr oes fodern, ynghyd â dealltwriaeth o brif ddulliau a methodolegau astudio Cristnogaeth.
- • Dangos gwerthfawrogiad o ddatblygiad pwysigrwydd hanesyddol a chysyniadol ffynonellau craidd Cristnogaeth: yr Hen Destament a’r Testament Newydd, a’r rôl y maent yn ei chwarae yn cyfosod cred ag ymarfer Cristnogol.
- • Gallu enghreifftio'n hyderus y modd y mae Cristnogaeth fel ffydd yn perthyn i gyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ehangach.
- • Gallu trafod hanfodion gwahanol fathau o ddiwinyddiaeth Gristnogol, ynghyd â chymhwyso hynny i faterion allweddol sy’n wynebu Cristnogion cyfoes.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i lunio traethawd 2000 gair yn ymateb i un cwestiwn o blith rhestr o gwestiynau a osodir.
Weighting
50%
Due date
15/05/2023
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Bydd myfyrwyr yn ymateb i un thema o blith rhestr ac yn traddodi cyflwyniad llafar 10 yn unigol.
Weighting
50%
Due date
22/03/2023